Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Syniadau Ymchwil

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Menywod

Deunydd am y Women’s Freedom League, 1930au, o Gasgliad Kirkland (Cyf. LAC/58)

Mae gennym ddogfennau amrywiol a allai fod yn berthnasol i astudiaeth o hanes menywod ac agweddau gwleidyddol, proffesiynol, cymdeithasol, economaidd, addysgol y pwnc;

 

  • dyddiaduron Amy Dillwyn, diwydiannwr Prydeinig arloesol
  • deunydd am y Women's Freedom League
  • cofnodion Association of Women Science Teachers
  • grwpiau cefnogaeth i fenywod yn ystod streic y Glowyr 1984-1985
  • Cofnodion o Loches Cwmdoncyn, Abertawe
  • Casgliad ffotograffig gan y ffotograffydd dogfennol Raissa Page

Ffynonellau ar gyfer Hanes Chwaraeon

Twrnamaint pêl-law yn Nelson, oddeutu 1900 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/16)

Mae cofnodion nifer o'r cymdeithasau lles, institiwts a sefydliadau hamdden a oedd yn bodoli ym Maes Glo De Cymru yn adnodd cyfoethog ar gyfer archwilio datblygiad chwaraeon. Mae'r casgliad yn cynnwys lluniau o gyfleusterau, timau a gweithgareddau. Mae ffynonellau o gasgliadau eraill yn cynnwys cofnodion o;

  • Glybiau bechgyn a merched Cymru
  • Undeb Athletau Prifysgol Abertawe
  • Clwb Rygbi Blaendulais
  • Cymdeithasau lles, sefydliadau, cymdeithasau hamdden ym Maes Glo De Cymru

Ffynonellau ar gyfer Hanes Teulu

Rhan o siart achau addurnedig teulu de la Beche

IOs oedd un o’ch cyndeidiau yn ffigwr amlwg mewn undeb llafur, yn löwr oedd yn gysylltiedig â digwyddiadau arwyddocaol (megis trychineb mwyngloddio), wedi gweithio mewn diwydiant lleol neu wedi mynychu Prifysgol Abertawe, efallai bod gennym gofnodion a allai ddweud wrthych fwy amdanynt. Mae ffynonellau eraill ar gyfer hanes teuluol yn cynnwys;

  • Cofnodion Priordy Dewi Sant, yr Eglwys Gatholig Rufeinig gyntaf yn Abertawe. Mae'r rhain yn cynnwys cofrestri o Fedyddiadau, 1808-1910, a phriodasau, 1840-1956
  • Cofnodion Methodistaidd o Gylchdaith Abertawe a Gŵyr (ac eithrio'r cofrestri, sydd yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg). Mae'r rhain yn cynnwys cofrestri presenoldeb yr Ysgol Sul a llyfrau cofnodion clybiau

Ffynonellau ar gyfer Llenyddiaeth a Drama

Poster ar gyfer Latimer's Mammoth Theatre 'Dog of the Regiment or Fidelity, Hatred & Revenge!' (Cyf. LAC/106/E/30)

Mae gennym sawl casgliad o lenorion Cymreig yn Saesneg, gan gynnwys

  • Raymond Williams (1921-1998) 
  • Ron Berry (1920-1997) 
  • B L Coombes (1893-1974) 
  • Alun Richards (1929-2004) 
  • Elaine Morgan (1920-2013) 

Rydym hefyd yn dal deunydd yn ymwneud â barddoniaeth, gan gynnwys Vernon Watkins, D G ac Islwyn Williams, a Dylan Thomas. 

Mae ein casgliad theatr yn cynnwys eitemau o'r 18fed ganrif i 1980 ac mae'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe, Prifysgol Cymru Abertawe, theatr yn Llundain, theatrau gwledig, 'The Portable Theatre', a chynyrchiadau teledu. 

Ffynonellau ar gyfer Hanes Busnes

Mae casgliadau'r archif leol yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd hanesyddol sy’n ymwneud â'r diwydiannau metel yn ardal Abertawe; yn enwedig y diwydiannau copr, tunplat a dur. Mae'r casgliadau hyn yn amrywio o ran dyddiad, cwmpas a chynnwys, ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunydd, gan gynnwys llyfrau cofnodion, cyfriflyfrau ariannol, dogfennau cyfreithiol, cofnodion staff a phapurau technegol.

Mae gennym gofnodion busnes ar gyfer rhai o'r teuluoedd a'r sefydliadau allweddol a ddatblygodd y diwydiant copr yn rhanbarth Abertawe. Mae'r cofnodion yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad y diwydiant copr, cysylltiadau â chwmnïau mewn gwledydd eraill, datblygiadau ariannol, patentau cynhyrchu a phroblemau cymdeithasol o ganlyniad i fwg copr.

Mae’r casgliadau hyn yn amrywio o ran dyddiad, cwmpas a chynnwys, gan gynnwys ystod eang o ddeunydd yn cynnwys llyfrau cofnodion, cyfriflyfrau ariannol, dogfennau cyfreithiol, cofnodion staff a phapurau technegol.

Ffynonellau Astudio Mudo a Symudiad Pobl

Ffotograff o weithwyr a oedd wedi mewnfudo o Sbaen o flaen gweithfeydd haearn Dowlais tua 1900 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/33)

Mae gan Archifau amrywiaeth eang o ffynonellau at ddiben astudio mudo i Gymru, o Gymru, o fewn Cymru a mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffoaduriaid o Ryfel Cartref Sbaen
  • myfyrwyr yn teithio ar gyfer addysg
  • pobl yn symud i achub ar gyfleoedd economaidd, megis y fasnach copr

Ffynonellau ar gyfer Hanes yr Amgylchedd a Thirwedd

Mae Archifau Richard Burton yn cadw ffynonellau ar gyfer ymchwilio i newidiadau i dirwedd a'r amgylchedd, yn enwedig o ran y diwydiannau metel a glo yn ardal Abertawe a de Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adroddiadau ac arolygon o Brosiect Cwm Tawe Isaf
  • Lluniau o Faes Glo De Cymru
  • Papurau cyfreithiol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r diwydiant copr
  • Darnau o bapurau newydd

Ffynonellau ar gyfer Hanes LHDT+

SWCC/PHO/PC/9/3: Ffotograff o faner LGSM yn streic 1985-1985, o gasgliad personol Kim Howells

Mae'r oriel hon yn cynnig cipolwg o’r deunydd sydd gennym mewn perthynas â hanes LHDT+. Mae'n cynnwys -

  • Cofnodion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd myfyrwyr, megis profiadau myfyrwyr ac agweddau at ryw, rhywioldeb, perthnasoedd, a materion cyfoes a gwleidyddiaeth, gan gynnwys hawliau LHDT+.
  • Deunydd o Gasgliad Meysydd Glo De Cymru mewn perthynas â'r Grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (LGSM), a'u cefnogaeth a'u cydsafiad â chymunedau glofaol yn ystod streic y glowyr ym 1984-85.
  • Eitemau sy'n ymwneud ag awduron, ffotograffwyr a ffigurau amlwg eraill LHDT+

Ffynonellau ar gyfer Hanes Anghydfodau Diwydiannol a Streiciau

Ffotograff o orymdaith i Fryste o dde Cymru, 1931 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/56)

Mae casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llawer o ddeunydd sy'n ymwneud â streiciau ac anghydfod yn y diwydiant glo, yn bennaf mewn perthynas ag undebau llafur fel South Wales Miners' Federation ac National Union of Mineworkers (South Wales Area). 

Ceir hefyd ddeunydd sy'n ymwneud ag aflonyddwch cenedlaethol yn ogystal ag anghydfodau eraill rhwng undebau llafur.

Yn ogystal â chofnodion ysgrifenedig mae gennym gasgliad sylweddol o luniau sy'n dangos gwahanol streiciau ac anghydfodau. Ategir hyn gan ddeunydd cyhoeddedig, adroddiadau llafar ac eitemau yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.

Mae'r Archifau hefyd yn cadw casgliadau busnes sy'n aml yn cofnodi digwyddiadau o'r fath, a'r effaith ar y cwmni.

Hanes y Brifysgol

Cylchgrawn Rag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, 1933 (Cyf. UNI/SSO/1/2)

Mae gan y Brifysgol archifau sy'n dyddio o'i dyddiad sefydlu yn 1920. Mae'r rhain yn adnodd cyfoethog i'r rhai sydd â diddordeb yn natblygiad y Brifysgol, ei gorffennol cymdeithasol a diwylliannol, hanes ei phensaernïaeth, a bywyd myfyrwyr.

Mae'r casgliad yn cynnwys cofnodion swyddogol pwyllgorau sefydledig y Brifysgol, ynghyd â chofnodion adrannol, gohebiaeth, lluniau a thoriadau papur newydd. Deunydd nodedig yw casgliad papur newydd Undeb y Myfyrwyr, sy'n rhoi cipolwg ar brofiad myfyrwyr ar hyd y degawdau.

 

Ffynonellau ar gyfer Hanes Rhyfel Cartref Sbaen

Llun o Harry Dobson (Cyf. SWCC/PHO/SWC/14)

Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys deunydd sylweddol yn ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen a'r rhan a chwaraewyd gan wirfoddolwyr o Gymru, gyda llawer ohonynt yn lowyr o feysydd glo De Cymru a oedd yn weithgar yn wleidyddol.

  • Cofnodion Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) a’i ragflaenydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF) a’i ganghennau neu gyfrinfeydd.
  • Deunydd am yr ymateb gan rai cymunedau mwyngloddio i’r achos Gweriniaethol a’u cefnogaeth iddo.
  • Casgliadau personol yn cynnwys llythyrau a hunangofiannau sy’n manylu ar brofiadau’r Brigadau Rhyngwladol etc.
  • Ffotograffau yn cynnwys lluniau o wirfoddolwyr Rhyfel Cartref Sbaen yn Sbaen, ymsefydlwyr Sbaeneg yng Nghymru, cofebion a seremonïau coffa ar gyfer y rheiny a frwydrodd yn y rhyfel.

Ffynonellau ar gyfer Hanes Adloniant a Hamdden

Dawns myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby
(Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)

 

Mae'r casgliadau yn yr Archifau yn cadw cryn dipyn o ddeunyddiau sy'n ymwneud ag adloniant a hamdden, yn enwedig mewn perthynas â maes glo de Cymru. Gellir dod o hyd i'r dogfennau hyn mewn amryw o gasgliadau, yn ogystal ag mewn casgliad annibynnol sy'n ymwneud â theatr, ac maen nhw’n cynnwys:

  • neuaddau lles a sefydliadau
  • theatrau a sinemâu
  • cerddoriaeth a dawnsio
  • eisteddfodau, galâu a theithiau diwrnod

Mae casgliadau eraill sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddiwrnodau allan, dawnsfeydd, sioeau theatr etc. yn cynnwys ein casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls, y Casgliad Theatr, a chofnodion y Brifysgol.

Ffynonellau ar gyfer Hanes Anabledd

Cartref Gorffwys y Glowyr Porthcawl: llun o'r fetron a phedwar claf (Cyf.SWCC/PHO/NUM/6/7)

Mae cofnodion yn yr Archifau'n gallu bod yn adnodd defnyddiol ar gyfer cynrychioli pobl ag anableddau, afiechyd a chyflyrau iechyd meddwl. Maent yn gallu rhoi mewnwelediad i hanesion cudd, defnydd iaith, a sut mae pethau wedi newid (neu beidio).

  • Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys damweiniau a thrychinebau, achub ac adfer, cartrefi gorffwys ymadfer, a chymorth ariannol a meddygol ar gyfer glowyr oedd wedi’u hanafu a’r rhai anabl a’u teuluoedd.
  • Mae ffotograffau yng nghasgliad Raissa Page yn portreadu anabledd mewn ystod o ffyrdd a gellir eu defnyddio i edrych ar hanes anabledd, meddygaeth, gwaith cymdeithasol, iechyd meddwl a heneiddio.

Ffynonellau ar gyfer Hanes Troseddu a Chosbi

Swyddog carchar, Carchar Wormwood Scrubs, Llundain, Awst 1982 (Cyf. DC3/15/1/2)

Mae’r archifau’n cadw amryw o gasgliadau sy’n berthnasol i astudiaethau trosedd, plismona, carcharau, cosbau a’r gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys –

  • Cofnodion Casgliad Maes Glo De Cymru sy’n ymwneud â throsedd, anghydfod, plismona a diwygio’r gyfraith – ar lefel bersonol, pyllau glo neu genedlaethol
  • Ffotograffau sy’n dangos plismona, protestio a sefydliadau, gan gynnwys ffotograffau gan y ffotograffydd dogfen Raissa Page
  • Casgliadau eglwysi sy’n manylu ar ‘droseddau’ o natur grefyddol, cabledd, methu mynychu’r eglwys, ymddygiad anfoesol etc.
  • Cofnodion sy’n ymwneud a rôl sefydliadau gwirfoddol, fel llochesau menywod, o fewn cyfraith a threfn
  • Casgliadau’r Brifysgol, fel papurau newydd myfyrwyr a chyfweliadau llafar hanesyddol

Ffynonellau ar gyfer Iechyd a Meddygaeth

Ffotograff gan Raissa Page: 'Surgery, Oxford "Health: discussing diet with patient as part of "health MOT".', 1987 (cyf. DC3/28/1/8)

Mae Archifau Richard Burton yn dal casgliadau amrywiol o'r cyfnod cyn creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi hynny, sy'n berthnasol i hanes meddygaeth, iechyd a phroffesiynau cysylltiedig amrywiol. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

  • sefydliadau, megis cymdeithasau nyrsio
  • rolau proffesiynol, gan gynnwys nyrsio ac ymarfer cyffredinol
  • meddyginiaethau a phresgripsiynau