Mae'r oriel hon yn cynnig cipolwg o’r deunydd sydd gennym mewn perthynas â hanes LHDT+. Mae'n cynnwys -
- Cofnodion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd myfyrwyr, megis profiadau myfyrwyr ac agweddau at ryw, rhywioldeb, perthnasoedd, a materion cyfoes a gwleidyddiaeth, gan gynnwys hawliau LHDT+.
- Deunydd o Gasgliad Meysydd Glo De Cymru mewn perthynas â'r Grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (LGSM), a'u cefnogaeth a'u cydsafiad â chymunedau glofaol yn ystod streic y glowyr ym 1984-85.
- Eitemau sy'n ymwneud ag awduron, ffotograffwyr a ffigurau amlwg eraill LHDT+
SWCC/PHO/PC/9/3: Ffotograff o faner LGSM yn streic 1985-1985, o gasgliad personol Kim Howells