Ar gyfer ffotograffiaeth hunan-wasanaeth, gellir defnyddio camera digidol bach, llechen, neu ffôn symudol gan lynu wrth y Canllawiau Ffotograffiaeth Hunanwasanaeth.
Mae gennym wasanaeth reprograffeg. Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen sy'n cynnwys rhif cyfeirnod yr eitem(au) yr hoffech gael copi ohoni ynghyd â datganiad am hawlfraint.
Gallwn fel arfer ddarparu copïau ar gyfer astudiaethau preifat ac ymchwil anfasnachol. Fodd bynnag, cofiwch, os ydych yn bwriadu cyhoeddi (gan gynnwys ar wefannau, cyfryngau cymdeithasol ac ati), byddai'n rhaid i ni edrych i mewn i'r hawlfraint.
Y gost gyfredol o lungopïo at ddibenion anfasnachol/astudio preifat yw £0.35 y ddalen (A4/A3), ynghyd â TAW (at ddibenion addysgol ni chodir TAW arnoch).
Gall cais o’r fath gymryd ychydig wythnosau i'w baratoi, yn enwedig os yw'r dogfennau'n arbennig o fregus, neu os yw'r sefyllfa hawlfraint yn gymhleth. O ganlyniad, ceisiwch gynllunio a chyflwyno unrhyw geisiadau llungopïo cyn gynted â phosibl yn ystod neu ar ôl eich ymweliad â'r archifau er mwyn rhoi amser i ni ddelio â nhw cyn eich terfyn amser.