Skip to Main Content

Archifau Richard Burton

This page is also available in English

Casgliad Hollingdale

Ganed Reginald (Reg) John Hollingdale, ysgolhaig a newyddiadurwr, yn ne Llundain ar 20 Hydref 1930. Roedd yn adnabyddus am ei waith ar yr athronydd Almaenig Friedrich Wilhelm Nietzsche (1844–1900). Cyfieithodd Hollingdale y rhan fwyaf o destunau Nietzsche, ysgrifennodd gofiant diffiniol ac fe'i hetholwyd yn llywydd sefydlol Cymdeithas Friedrich Nietzsche. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwr, gan fod yn is-olygydd yn The Guardian ac yn feirniad ar gyfer The Times Literary Supplement.  

Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrifau a thrawsgrifiadau o gyfieithiadau gan Hollingdale, yn enwedig o destunau Nietzsche; ffeiliau gohebiaeth; ffeiliau gyda thoriadau; papurau yn ymwneud â Chymdeithas Nietzsche; a chofnodion ariannol. 

The Dillwyns

Mae’r casgliad o bapurau sy’n ymwneud â theulu Dillwyn yn rhedeg o’r ddeunawfed ganrif i’r ugeinfed ganrif (cyf. LAC/26), ac ac mae deunydd ychwanegol, yn ymwneud â Amy Dillwyn (1845-1935) y fenywaidd ddiwydiannwr, swffragist a nofelydd cynnar (cyf. .DC6). Gellir gweld catalogau’r casgliadau hyn ar-lein:

  • tablau achyddol a memoranda teulu Dillwyn 1750-1950 (cyf. LAC/26/A),
  • papurau William Dillwyn a theulu Dillwyn yn New England 1711-1858 (cyf. LAC/26/B),
  • papurau ac yn ymwneud ag Lewis Weston Dillwyn c1778-1920 (cyf. LAC/26/C),
  • papurau, gohebiaeth a chyfnodolion preifat Lewis Llewelyn Dillwyn 1833-1955 (cyf. LAC/26/D),
  • cyfnodolion preifat, gohebiaeth a phapurau eraill neu ac yn ymwneud ag Elizabeth Amy Dillwyn, 1863-1981 (cyf. DC6).

Mae’r archifau wedi cael eu gwneud yn hygyrch i ymchwilwyr trwy haelioni Dr David Painting a fu’n garedig iawn yn cynnig papurau’r teulu Dillwyn i Brifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth aelodau o’r teulu. Roedd Dr Painting yn arbenigwr ac yn awdur ar y teulu Dillwyn, yn enwedig Amy Dillwyn.

I ddarganfod mwy am brosiectau a mentrau ymchwil sy’n canolbwyntio ar etifeddiaeth lenyddol, wyddonol a diwydiannol y teulu Dillwyn, ewch i wefan Prosiect Dillwyn.

Three journals.

Cofnodion Clwb Rygbi Blaendulais

Sefydlwyd Clwb Rygbi Blaendulais (Seven Sisters RFC) ym 1897 ym maes glo de Cymru, ac mae'n glwb rygbi'r undeb cyswllt o fewn Undeb Rygbi Cymru. Lleolir y pentref yng Nghwm Dulais, 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gastell-nedd. Cafodd y clwb ei enw Saesneg ar ôl chwe chwaer a merch y perchennog glo lleol, Evan Evans-Bevan. Clwb Rygbi Blaendulais oedd tîm y lofa yn wreiddiol. 

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys llyfrau cofnodion a chofnodion ariannol y clwb rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif. Hefyd yn y casgliad mae cofnodion aelodaeth a chofnodion ariannol bar y clwb a oedd hefyd yn gweithredu fel clwb cymdeithasol.  

Cofnodion Cymdeithas Gerontoleg Prydain

Sefydlwyd Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) yn 1971. Mae'n darparu fforwm amlddisgyblaethol ar gyfer ymchwilwyr ac unigolion eraill sydd â diddordeb mewn sefyllfaoedd pobl hŷn, a sut y gellir gwella gwybodaeth am heneiddio a bywyd yn ddiweddarach yn eu hoes. Mae BSG yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, ymarferwyr, addysgwyr, llunwyr polisi, myfyrwyr a phobl hŷn.  

undefinedMae'r archif yn cynnwys deunydd archif a deunydd cyhoeddedig, a grëwyd yn bennaf gan swyddogion gwirfoddol BSG rhwng c.1971 a c.2011. Mae'r casgliad yn darparu deunydd ymchwil ac yn dogfennu newid agweddau tuag at heneiddio mewn cymdeithas, hunaniaethau a gwerthoedd cyrff proffesiynol, newid cymdeithasol a pholisi lles o ystod o safbwyntiau disgyblaethol, gan gynnwys economeg, daearyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg.  

Mae'r archif yn dogfennu'r berthynas rhwng y BSG a'i aelodau, a gyda sefydliadau allanol eraill megis Cymdeithas Ryngwladol Gerontoleg (IAG), Cymdeithas Geriatreg Prydain (BGS), Cymdeithas Ymchwil Prydain ar Heneiddio (BSRA), Cymdeithas Cymdeithasau Dysgedig yn y Gwyddorau Cymdeithasol (ALSISS), Canolfan Gerontoleg Gymdeithasol Iwerddon (ICSG), ac Age Concern.  

Mae cofnodion BSG yn cynnwys cyfansoddiadau, cofnodion  ac effemera cynadleddau, papurau cyfarfod pwyllgor gwaith, gohebiaeth, cofnodion ariannol, dogfennau codi arian, rhestrau aelodaeth a chyhoeddiadau.