Mae'r casgliadau yn yr Archifau yn cadw cryn dipyn o ddeunyddiau sy'n ymwneud ag adloniant a hamdden, yn enwedig mewn perthynas â maes glo de Cymru. Gellir dod o hyd i'r dogfennau hyn mewn amryw o gasgliadau, yn ogystal ag mewn casgliad annibynnol sy'n ymwneud â theatr, ac maen nhw’n cynnwys:
Mae casgliadau eraill sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddiwrnodau allan, dawnsfeydd, sioeau theatr etc. yn cynnwys ein casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls, y Casgliad Theatr, a chofnodion y Brifysgol.
Dawns myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)
Llun o adran Cymdeithas Gorawl Ystalyfera a'r Cylch o Gôr Cymru yn sefyll y tu allan i Neuadd Frenhinol Albert ym Mherfformiad Brenhinol y Jiwbilî Frenhinol, 1935 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/16)
Corau
Math o gerddoriaeth yw corau a gysylltir yn aml â Chymru, yn enwedig felly gorau meibion, ac mae traddodiad canu corawl yn ymddangos yn y casgliadau, megis:
Bandiau Jazz
Mae'r casgliadau'n cynnwys nifer o luniau o fandiau jazz a grëwyd i godi arian ac ysbryd pobl yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd.
Llun o Fand Jazz Tredegar mewn gwisg ffansi, enillwyr pencampwriaeth Band Jazz Cwm Rhymni, 1926 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/48)
Seindorfau Pres ac Arian
Mae'r casgliadau'n dal nifer o luniau a phapurau eraill sy'n ymwneud â seindorfau pres ac arian cymunedol, gan gynnwys:
Seindorf Bres Gwaun-cae-gurwen: Crëwyd y seindorf ym 1862 gan grŵp o ddynion lleol, llawer ohonyn nhw’n lowyr. Cyfrannodd pob aelod at gost set o offerynnau ail law. Erbyn 1898 roedd y seindorf yn cystadlu mewn cystadleuaethau ac yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif cawsant lwyddiant mawr. Cafodd y seindorf lwyddiant mewn cystadleuaethau pencampwriaethau Prydeinig, gan ennill eu hadran am y tro cyntaf ym 1934. Diddymwyd y seindorf ym 1955, ond crëwyd seindorf newydd ym 1956 ac aethon nhw yn eu blaenau i gael llawer o lwyddiannau mewn cystadleuaethau.
Dawns myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby
(Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)
Mae cyfeiriadau at ddawnsfeydd yn ymddangos trwy'r casgliadau i gyd, megis:
Llun o olygfa o'r llwyfan yn Neuadd Goffa a Sefydliad Pontyberem, tua 1927 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/4/17/1)
Mae cofnodion llawer o'r cymdeithasau lles, sefydliadau a chyrff eraill, ynghyd â chasgliadau personol, yn adnodd cyfoethog er mwyn ymchwilio i fyd theatr. Yn ogystal â meddu ar wybodaeth am berfformiadau drama a gynhaliwyd mewn adeiladau parhaol, mae gan y casgliadau wybodaeth hefyd am fath arall o adeilad, sef y 'theatr gludadwy'. Ymhlith y mathau o gofnod a geir yn y casgliadau y mae:
Casgliad Byd Theatr
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe rhwng 1933 a 1965; Cynyrchiadau Prifysgol Cymru Abertawe; y theatr yn Llundain rhwng 1825 a thua 1948; theatrau taleithiol rhwng 1821 a thua 1980; 'Y Theatr Gludadwy' 1880-1949; Dylan Thomas a'i gysylltiad â byd theatr 1932-1934; cynyrchiadau teledu; eitemau amrywiol heb ddyddiad (tua’r 18fed ganrif) a 1905-1967. I gael mwy o wybodaeth am y casgliad ewch i’r catalog ar-lein.
Pennawd o'r rhaglen ar gyfer perfformiad Theatr Olympaidd Ebley er budd dioddefwyr Trychineb Tondu, 1892 (Cyf. LAC/106/E/12)
Gallwch chi weld manylion am yr amrywiaeth o gasgliadau yn Archifau Richard Burton y gellir eu defnyddio i ymchwilio i gyfleusterau, timau a gweithgareddau chwaraeon drwy fynd i’n Tab Hanes Chwaraeon.
Gemau chwaraeon a digwyddiadau cymdeithasol mewn rhaglen ar gyfer yr wythnos Ryng-golegol yn y 1920au (Cyf. UNI/SU/PC/5/3)
Llyfrgell Glowyr De Cymru
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn gartref i gasgliadau’r llyfrau printiedig a’r pamffledi, gan gynnwys llyfrgelloedd mwy na 60 o sefydliadau a neuaddau lles o bob cwr o’r maes glo. Yn ogystal â hyn, mae adnoddau eraill yn cynnwys recordiadau hanes llafar Casgliad Maes Glo De Cymru. Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru hefyd yn cadw nifer o faneri canghennau glowyr a fyddai wedi cael eu cludo yn ystod galâu’r glowyr.
Llyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig
Mae’r rhain yn cynnwys casgliad o fwy na 300 o faledi (y rhan fwyaf ohonyn nhw yn Gymraeg) a argraffwyd rhwng 1710 a dechrau'r 20fed ganrif. Mae pob un o'r rhain yn cael ei gatalogio ar wahân yn iFind, Catalog y Llyfrgell.
Roedd y sinema yn ffurf boblogaidd o adloniant ac mae dyddiaduron Richard Burton (Cyf. RWB/1/1) yn cynnwys cyfeiriadau at y ffilmiau a welodd yn ei sinema leol yn Nhai-bach. Roedd neuaddau a sefydliadau lles glowyr a gweithwyr yn aml yn cynnwys cyfleusterau o'r fath a cheir cyfeiriadau at sinemâu a ffilmiau ar sawl ffurf:
Detholiad o fathodynnau, gan gynnwys un ar gyfer Clwb Sinema’r Fonesig Windsor (Cyf. SWCC/PHO/COL/77)
Datblygodd sefydliadau a neuaddau glowyr yng Nghymru o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sgîl datblygiad y maes glo, cafwyd cynnydd mawr yn y boblogaeth ynghyd â galwadau newydd am fannau cyfarfod ar gyfer busnes y gangen (yr undeb), dosbarthiadau nos a hamdden gymunedol. Roedd y sefydliadau'n adlewyrchu rôl y gymuned yn gryf ac o ganlyniad daethon nhw’n ganolbwynt bywyd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol y pentref a'r ardal lofaol.
Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, cofnodion aelodaeth, rheolau a phapurau sy'n ymwneud â gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys sefydliadau a neuaddau lles, yn eu plith:
Sefydliad a Llyfrgell Gweithwyr Glofa Llanhiledd: Cafodd y sefydliad hwn ei agor yn swyddogol ym mis Mai 1906 ac ef oedd conglfaen y gymuned yn Llanhiledd, Gwent. Ymhlith yr amwynderau oedd ar gael i’r aelodau roedd llyfrgell, ystafell ddarllen a neuadd ddawns, yn ogystal â phwll nofio ar y llawr isaf. Bu’r Sefydliad yn rhentu sinema ‘The Playhouse’ cyn ei phrynu ym 1944. Yn ddiweddarach agorwyd ystafell filiards, bar a siop fetio yn yr adeilad.
Llun o Lyfrgell Sefydliad Glowyr Oakdale, 1945 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/4/9)
Pier a Rheilffordd y Mwmbwls a Chwmni Trafnidiaeth De Cymru
Mae gan y casgliadau nifer sylweddol o eitemau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth yn ardal Abertawe yn ogystal â chofnodion sy'n ymwneud â hanes Pier y Mwmbwls. Ceir gweithredoedd teitl, gohebiaeth a phapurau eraill sy’n manylu ar ddatblygiad y Pier a'r gweithgareddau a ddigwyddodd yno. Am hanes byr o'r pier a Chwmni Trafnidiaeth De Cymru ewch i Ailymweld â Phier y Mwmbwls.
Mae gan gasgliadau eraill wybodaeth am deithiau diwrnod, megis:
Eisteddfod: Grŵp o ddynion o amgylch cadair gerfiedig (Cyf. SWCC/PHO/REC/3/16)
Yr Eisteddfod
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio'n ôl i 1176 pan gafodd ei chynnal am y tro cyntaf gan yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi. Mae hanes modern y sefydliad yn dyddio'n ôl i 1861 ac mae'r ŵyl wedi'i chynnal bob blwyddyn ers hynny, heblaw am 1914.
Dechreuodd Eisteddfod y Glowyr ym 1948 ym Mhorthcawl, lle y cafodd ei chynnal bob mis Hydref tan 2002. Ysgogodd yr Eisteddfod flynyddol ystod o weithgareddau diwylliannol ar adeg pan oedd dirywiad y diwydiant glo yn bygwth bodolaeth cynifer o gymunedau glofaol yn ne Cymru.
Ymhlith yr eitemau a gedwir yn y casgliadau y mae:
Galâu Glowyr
Yn wahanol i feysydd glo eraill Prydain, nid oes traddodiad hir o gynnal galâu yn ne Cymru. Cynhaliwyd y gala gyntaf ym mis Mehefin 1953 yng Nghaerdydd. Yn ystod y dyddiau cynnar, roedd y galâu’n achlysuron gwleidyddol iawn, gyda siaradwyr megis Aneurin Bevan yn bresennol ynddyn nhw. Yn y 1970au a'r 1980au, ymdebygai’r galâu i ddigwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys seindorfau pres, dawnsio gwerin ac arddangosfeydd celf a chrefft.
Ymhlith yr eitemau yn y casgliadau y mae:
Llun o faner Cangen Aber-craf yn cael ei chludo mewn gorymdaith yn ystod
Gala Glowyr 1966 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/3/3)
Yn ogystal â hyn, hwyrach y byddwch chi’n dymuno cysylltu ag archifau awdurdodau lleol yn ogystal â gwasanaethau prifysgol, elusennau a gwasanaethau eraill, gan ddibynnu ar eich diddordebau ymchwil. Mae gan yr Archifau Cenedlaethol wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i archif yn y DU a thu hwnt.