Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys deunydd sylweddol yn ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen a'r rhan a chwaraewyd gan wirfoddolwyr o Gymru, gyda llawer ohonynt yn lowyr o feysydd glo De Cymru a oedd yn weithgar yn wleidyddol.
Llun o Harry Dobson (Cyf. SWCC/PHO/SWC/14)
Leo Price
Bu Leo Price yn gweithio fel glöwr yng Nglofeydd Cwmtyleri a Bedwas a bu'n aelod o Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ymunodd hefyd â'r Blaid Gomiwnyddol. Ym mis Ebrill 1937 teithiodd i Sbaen fel gwirfoddolwr a daeth yn aelod o'r Ail Gwmni, y Pumed Bataliwn ar Ddeg. Cafodd Leo ei saethu yn y frest ond wedi goroesi, ac ar ôl cael gofal meddygol teithiodd i Tarrazona lle cafodd swydd ddesg yn recriwtio milwyr newydd. Mae ei gasgliad yn cynnwys
(Cyf. SWCC/MNA/PP/93, SC/309, SC/164)
Rhan o lythyr mewn cerdyn post atgof gan Leo Price at ei wraig (SWCC/MNA/PP/93/4)
David (Dai) Francis
Ganwyd David Francis (a adnabyddid yn aml fel 'Dai') ym 1911 ym Mhantyffordd, ger Onllwyn yng Nghwm Dulais. Ym 1926 dechreuodd weithio yng Nglofa Onllwyn Rhif 1. Ym 1937 ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol. Bu'n aelod o Gyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru, 1943-1959; penodwyd yn Brif Swyddog Gweinyddol Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) (Ardal De Cymru) ym 1959; gan ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUM ym 1963. Ym 1974 fe'i hetholwyd yn Brif Gadeirydd Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC).
Mae ei gasgliad yn cynnwys llyfr cofnodion Pwyllgor Cymorth i Sbaen Onllwyn (bu'n ysgrifennydd), 1937-1938.
Jack Jones
Ganwyd Jack Jones yn Nhrealaw, Canol y Rhondda, ym 1898 ac ym 1912 dechreuodd weithio yng Nglofeydd Cambrian. Roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Gomiwnyddol ym 1920. Ym mis Mawrth 1938 gwirfoddolodd Jack Jones ar gyfer Bataliwn Prydain y Frigâd Ryngwladol, gan ddod yn Gymro hynaf Bataliwn Prydain. Fodd bynnag, ym mis Mai yr un flwyddyn cafodd ei gipio gan luoedd Franco ac aethpwyd ag ef i wersyll-garchar yn San Pedro de Cardena, Burgos, lle bu'n aros tan fis Ionawr 1939. Dychwelodd adref i dde Cymru ac ym 1940 daeth yn Asiant y Glowyr ar gyfer ardal y Rhondda.
Mae'r casgliad yn cynnwys llythyrau gan Jack Jones at deulu a ffrindiau, yn manylu ar ei fwriad i ymuno â'r Brigadau Rhyngwladol, ei brofiadau yn Sbaen a'i brofiadau fel carcharor yn Sbaen.
Harry Dobson
Roedd Harry Dobson yn löwr yng Nglofa Blaenclydach a wirfoddolodd i ymladd gyda'r Frigâd Ryngwladol. Arddangoswyd y llun isod gan Weithwyr y Cambrian Combine a ffrindiau fel arwydd o'u parch at ei 'Aberth Goruchaf dros Ddemocratiaeth'. Fe'i lladdwyd ym mrwydr Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo gyrraedd Sbaen.
Llun o Harry Dobson (Cyf. SWCC/PHO/SWC/14) a llythyr a anfonodd at ei chwaer Irene, 26 Rhagfyr 1937 (Cyf. SC/182)
Llythyron Personol
Mae ein casgliadau'n cynnwys llawer o lythyrau personol gan y gwirfoddolwyr gan gynnwys:
Mae hefyd yn cynnwys llythyrau gan wragedd ac aelodau eraill o'r teulu gan gynnwys:
Eitemau eraill
Mae'r llyfr nodiadau gan Jack Roberts yn cynnwys darluniau a nodiadau manwl am arfau, tactegau a thopograffeg Sbaenaidd, 1937 (Cyf. SC/269)
Llun o aelodau o grŵp dawnsio Ffoaduriaid o wlad y Basg a deithiodd o amgylch y cymoedd, tua1937-1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)
Mae'r casgliad (cyf. SWCC/PHO/SCW) yn cynnwys ffotograffau o gofebau a seremonïau i
Ffunen gyda delwedd o ymladdwr benywaidd (Cyf. 1999/22)
Mae cofnodion sy'n ymwneud â Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ymateb yr undeb i Ryfel Cartref Sbaen:
Llyfrgell Glowyr De Cymru
Yn Llyfrgell y Glowyr, mae casgliad pellgyrhaeddol ar draws deunyddiau amrywiol yn tynnu sylw at arwyddocâd gwleidyddol Rhyfel Cartref Sbaen i gymunedau dosbarth gweithiol ym Mhrydain.Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys: