'We made them ourselves' Windhill and Woolley Edge Souper women, aelodau o Grŵp Gweithredu Gwragedd Glowyr Barnsley yn ystod streic 84-85 [Cyf. DC3/6/1/120]
Ffotograff gan Raissa Page. Wedi’i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton
Casgliadau Ffotograffig
Slogan: Forward to Socialism / Ymlaen i Sosialaeth
Ar frig y faner, gwelir llun o lofa a'r cyffiniau, gan gynnwys tafarn o'r enw The Dragon. Isod i'r chwith gwelir llun o löwr hen ffasiwn â lamp glöwr a chaib. Isod i'r dde gwelir glöwr modern â dril mecanyddol a lamp trydan. Rhwng y ddau löwr ceir pwll glo. Isod yn y canol ceir cylch melyn â lamp glöwr, cenhinen a thŵr weindio glofa, yn dangos arwyddlun Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), wedi'i amgylchynu gan blethdorch lawryf.
Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe Shoulder to Shoulder
Lamp glöwr mewn pwll glo â fflamau oddi tani, wedi'i hamgylchynu gan gylch ag ymyl du (y ddwy ochr).
Ar yr ochr hon o'r faner, gwelir y geiriau: 'Abernant. UCG De Cymru'. Ar yr ochr arall ceir: 'Abernant S Wales NUM'.
Dywed y testun 'Aberystwyth Supports the Miners, 1984-5 Cefnogwch y Glowyr'. Ar y cefn gwelir y geiriau 'Join Us'
Arni gwelir y geiriau: 'Bersham Women's Support Group' Mae wedi’i haddurno â baneri Cymru a sawl bathodyn.
Baner goch â'r geiriau Chichester Labour Party arni. O 1984 i gefnogi'r Streic
Baner goch â’r geiriau Brent NALGO Dulais Valley Miners arni.Yn y canol ceir pâr o ddwylo wedi'u plethu ynghyd (yn cynrychioli undod) ac yn y gornel dde isaf ceir dwrn caead.
Ar y faner ceir y geiriau Tower Lodge Support Group. Never underestimate the power of a woman. Testun coch ar gefndir tywyll. Llun o fenyw a glöwr yn eistedd cefn wrth gefn, yn cefnogi ei gilydd.
Baneri
Mae gan Amgueddfa Glowyr De Cymru 57 o faneri yn ei chasgliad, y daeth y rhan fwyaf ohonynt o gyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ardal De Cymru. Mae'r baneri'n symbolau gweledol o hunaniaeth dosbarth gydlynol mewn cymunedau diwydiannol. Cânt eu benthyca'n rheolaidd ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau, arddangosiadau a chynyrchiadau. Cafodd llawer o'r baneri eu defnyddio mewn gwrthdystiadau a gorymdeithiau yn ystod Streic y Glowyr, er i'r rhan fwyaf ohonynt gael eu creu cyn y streic. Roedd yr oriel uchod yn cynnwys enghreifftiau a gafodd eu creu yn ystod Streic 1984-85. Nid eiddo i'r Brifysgol yw'r baneri hyn, maent wedi cael eu benthyca drwy garedigrwydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru).
I ddysgu rhagor am y baneri, ewch i'n harddangosfa ar-lein 'Gwawrio Oes Newydd'
neu ewch i wefan Casgliad Meysydd Glo De Cymru a chwilio drwy'r baneri
Baneri Grwpiau Cefnogaeth
Roedd grwpiau cefnogaeth yn rhan allweddol o Streic y Glowyr ac o gadw'r gweithredu'n gryf. Mae nifer o faneri grwpiau cefnogaeth yng nghasgliad Llyfrgell y Glowyr gan gynnwys:
BAN/28 - Brent NALGO - Cwm Dulais
BAN/52 - Aberystwyth yn Cefnogi'r Glowyr
BAN/50 - Grŵp Cefnogaeth Menywod Bersham
BAN/38 - London Congress yn Cefnogi'r Cymunedau Glofaol
BAN/67 - Grŵp Cefnogaeth Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe
BAN/55 - Grŵp Cefnogaeth Cyfrinfa'r Tower
I ddysgu rhagor, ewch i'n harddangosfa Menywod Blaenllaw Cymru: Grwpiau Cymorth
Posteri
Mae ein casgliad o bosteri'n cynnwys deunydd o amrywiaeth eang o ffynonellau a sefydliadau, gan gynnwys Streic y Glowyr 1984-85. Mae'r rhain yn ffordd weledol arall o archwilio Streic 1984-85. Hefyd, mae gennym gasgliad o fathodynnau Undeb Cenedlaethol y Glowyr a bathodynnau eraill y streic sydd i'w weld yng Nghasgliad Mair Francis a Chasgliad Ian Isaac.
Text reads The Deah Valley. That's what we'll have when they close our pits. Action Now. Support us. Coal not dole.
Y Cyfryngau
Arddangosfeydd
O'r chwith i'r dde: Ann Jones (Grŵp Cefnogaeth Cyfrinfa'r Tower) Siân James AS (Grŵp Cefnogaeth Castell-nedd, Dulais a Chwm Tawe) a Mair Francis (Gweithdy DOVE) yn yr arddangosfa 13/03/024.
Arddangosfa ar-lein Streic y Glowyr
Mae gan Archifau Richard Burton nifer o luniau o Faes Glo De Cymru yr hoffen ni wybod rhagor amdanynt - felly rydym yn gofyn am eich help i lenwi'r bylchau! Rydym yn gofyn i ymwelwyr glicio ar y lluniau a chofnodi eu hymateb a'u hatgofion personol.
SWCC/PHO/ED/2/32/41: Cerdyn Nadolig Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe 1984
Llun gan Raissa Page. Wedi'i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd; cysylltwch ag Archifau Richard Burton
Llun gan Raissa Page. Wedi'i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd; cysylltwch ag Archifau Richard Burton
Hawlfraint - Cyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glofaol. Llyfrgell Glowyr De Cymru
Mae gan Lyfrgell Glowyr De Cymru gasgliad helaeth o gyfweliadau hanes llafar.
Yn rhan o'r casgliad hwnnw y mae Astudiaeth Streic y Glowyr 1984-85. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar streic y glowyr 1984-85, gan gynnig adroddiadau unigryw, o lygad y ffynnon, o ddigwyddiadau yn ystod y streic ac ar ei hôl. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar farn y diwydiant glo - arweinwyr a glowyr - ynghylch canlyniad y streic.
(33 Cyfweliad)
Yn ogystal, mae'r canlynol gennym:
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru hefyd yn gartref i Gorneli Clip Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chynnwys a ddarlledwyd gan y BBC, ITV ac S4C.
Mae 2024-2025 yn nodi 40 o flynyddoedd ers un o'r anghydfodau diwydiannol mwyaf arwyddocaol a welwyd erioed ym Mhrydain - Streic y Glowyr 1984-1985.
I goffáu'r garreg filltir hon, bydd y canllaw hwn yn arddangos y deunyddiau a gedwir yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Abertawe mewn perthynas â Streic y Glowyr, gan gynnwys:
Gallwch bori drwy gynnwys Casgliad Maes Glo De Cymru a chwilio ynddo drwy ddefnyddio'r wefan Coalfield Web Materials a gwefan Casgliad Maes Glo De Cymru.
Grŵp o gyfrinfa Fernhill a'u baner mewn gwrthdystiad yn Llundain yn ystod Streic y Glowyr 1984-1985, 24 Chwefror 1985. Hawlfraint Norman Burns (Cyf.SWCC/PHO/DIS/105)