Mae Archifau Richard Burton yn cadw casgliadau amrywiol sy'n berthnasol i astudio troseddu, plismona, carchardai, cosbi a'r gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys:
Papurau o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn ymwneud â gwrthwynebwyr cydwybodol, gan gynnwys llythyr a rheoliadau o Garchar Abertawe a anfonwyd yn ystod carchariad Lance Rogers, 1941.
Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llawer o gofnodion gwahanol sy'n ymwneud â throseddu, anghydfodau, plismona a diwygio'r gyfraith. Gall y rhain fod ar lefel unigol, lefel glofa neu'r lefel genedlaethol, gan gynnwys:
Eitemau o gasgliad personol yr arweinydd undebau llafur yng Nghymru, Arthur Horner, sy'n cynnwys llythyrau, ffotograffau ac erthyglau yn manylu ar ei gyfnod yn y carchar rhwng 1918 a 1919 (yn wrthwynebydd cydwybodol) ac ym 1932 (ymgynnull anghyfreithlon) (Cyf. SWCC/MNA/PP/46)
O'r oesoedd canol, bu cysylltiad agos rhwng yr eglwys a chrefydd a’r gyfraith a chosbi. Hyd yn oed yn fwy diweddar, gall cofnodion yr eglwys fod yn ffynhonnell ddiddorol o hyd ar gyfer manylu ar 'droseddau' o natur grefyddol, cablu, methu â mynychu'r eglwys, ymddygiad anfoesol etc.
Tudalennau o Hysbysiadau Dydd Sul, 1863. Adroddiadau fel a ganlyn: 'Dance Houses are hot beds of vice and inequity, we beg of you, my Bretheren, to shun them as you would a pest house' (Cyf. LAC/99/C1)
Toriadau o bapurau newydd lleol gan gynnwys achosion llys, 1898 (Cyf. LAC/124/3-4)
Swyddog carchar, Carchar Wormwood Scrubs, Llundain, Awst 1982 (Cyf. DC3/15/1/2)
Ffotograff gan Raissa Page. Diogelwyd gan hawlfraint. Peidiwch â'i atgynhyrchu heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.
Tynnodd y ffotograffydd dogfennol Raissa Page lawer o ffotograffau sy'n dangos plismona, gwrthdystio a sefydliadau, gan gynnwys:
Mae casgliadau'r Brifysgol, megis papurau newydd y myfyrwyr a chyfweliadau hanes llafar, yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â streiciau a gwrthdystiadau myfyrwyr a digwyddiadau lle bu’r heddlu’n bresennol, a chyfeiriadau at ddigwyddiadau troseddol ledled y byd.
Ymladd rhwng yr heddlu a gwrthdystwyr yng ngêm y Springboks, Abertawe. Papur newydd y myfyrwyr, Crefft , Rhagfyr 1969. ©Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Bu Lloches Cwmdonkin, a agorwyd ym 1886, yn lloches dros dro i ferched beichiog, tlawd, diymgeledd, ac roedd yn cael ei rheoli gan fenywod blaenllaw yn y gymdeithas yn Abertawe (Pwyllgor y Menywod). Ei nod datganedig oedd achub a diwygio ond hefyd atal merched rhag ildio i demtasiwn. Achubwyd merched o'r dociau, llysoedd yr heddlu a'r tloty ac fe'u derbyniwyd beth bynnag eu crefydd. Addysgwyd sgiliau ymarferol iddynt, cawsant eu helpu i ddychwelyd i'w cymunedau, eu hanfon i gartrefi hyfforddi arhosiad hir neu i allfudo i Ganada er mwyn dechrau bywydau newydd.
Mae'r casgliad (Cyf. LAC/22) yn manylu ar ymweliadau â llysoedd yr heddlu i helpu merched mewn trafferth. Mae'r darn hwn, o lyfr cofnodion ym 1895, yn sôn am ferch 10 oed yn dod i'r lloches o lys yr ynadon am gardota a phigo pocedi, yna fe'i hanfonwyd i gartref yn Llundain.
Detholiad o lyfr cofnodion Lloches Cwmdonkin, 1887-1970 (Cyf. LAC/22/A/1)
Cronfa ddata Cause Papers - catalog chwiliadwy o fwy na 14,000 o bapurau achos sy'n ymwneud ag achosion a glywyd rhwng 1300 a 1858 yn Llysoedd Eglwys esgobaeth Caerefrog.