Mae gan Archifau Richard Burton amrywiaeth eang o ffynonellau at ddiben astudio mudo i Gymru, o Gymru, o fewn Cymru a mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys:
Ffotograff o weithwyr a oedd wedi mewnfudo o Sbaen o flaen gweithfeydd haearn Dowlais tua 1900 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/33)
Addysg
Mae'r casgliadau, yn enwedig Archifau'r Brifysgol, yn cynnwys cyfeiriadau at unigolion yn symud ar gyfer addysg. Mae enghreifftiau o'r casgliadau'n cynnwys:
Mae'r stori ddigidol isod yn defnyddio hanesion llafar ac eitemau eraill o gasgliadau'r Brifysgol i adrodd stori myfyrwyr rhyngwladol ar hyd y blynyddoedd.
Cofnodion eglwys
Mae Casgliad Priordy Dewi Sant yn taflu goleuni ar hanes yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn Abertawe o'r 19eg ganrif ymlaen. Priordy Dewi Sant yw'r eglwys Gatholig Rufeinig hynaf yn Abertawe, gan ddisodli adeilad eglwys cynharach a sefydlwyd tua 1808. Daeth y rhan fwyaf o'r plwyfolion o ardal Greenhill, cartref i gymuned fawr o Wyddelod. Daeth hi'n hanfodol adeiladu eglwys yn yr ardal honno, ac agorwyd eglwys San Joseff ym 1866. Gall dogfennau yn y casgliad ddangos cenedligrwydd y plwyfolion, a dyma rai mathau o gofnodion a allai fod o ddiddordeb:
Rhan o hysbysiadau eglwys Priordy Dewi Sant, Abertawe, ynghylch ymddygiad James Quinn a ddisgrifiwyd fel 'a true Irishman and a good Catholic' (Cyf. LAC/99/C/1)
Ceir tystiolaeth o allfudo i wledydd eraill hefyd - gwirfoddol ac fel arall - yn y casgliadau. Dyma rai enghreifftiau:
Rhan o lyfr cofnodion Lloches Cwmdoncyn, 16 Rhagfyr 1889, yn cofnodi allfudo Emma ac Elizabeth Price (cyf. LAC/22/A/1)
Yn ystod y Rhyfel Mawr, daeth ffoaduriaid o Wlad Belg i Abertawe, o bosib oherwydd cysylltiadau blaenorol â'r ardal a'r diwydiant copr. Ceir gwahanol fathau o ddogfen yn y casgliadau sy'n cyfeirio at fewnfudwyr o Wlad Belg yn Abertawe, gan gynnwys:
Darn ynghylch anrhegion Nadolig ar gyfer ffoaduriaid ifanc o Wlad Belg, o adroddiad Pwyllgor Gweithredol Abertawe Cronfa Cymorth Genedlaethol Tywysog Cymru, 17 Rhagfyr 1914 (Cyf.LAC/64/1)
Croesawodd de Cymru ryw 4,000 o blant oedd yn ffoaduriaid o Wlad y Basg a gyrhaeddodd Brydain drwy sefydliadau cymorth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (am ragor o wybodaeth am adnoddau mewn perthynas â'r gwrthdaro hwn, gweler ein Tab Rhyfel Cartref Sbaen). Ceir nifer o ffotograffau a dogfennau eraill sy'n cofnodi cyrhaeddiad y plant a'u hamser yn ne Cymru, gan gynnwys:
Llyfrgell Glowyr De Cymru - Mae'r recordiadau hanes llafar sy'n rhan o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys cyfweliadau â phobl a oedd wedi ymfudo i Gymru o Sbaen, gan gynnwys Mr a Mrs Nicholas a Casimira Duenos (Cyf. SWCC/AUD/200 - Clipiau sain ar gael ar-lein) a Leo Macho (Cyf. SWCC/VID/38).
Chwiliwch yn yr Hyb Archifau a Discovery yn yr Archifau Cenedlaethol i ddod o hyd i ragor o adnoddau archifol.