Mae casgliadau amrywiol yn Archifau Richard Burton sy’n ffurfio adnodd cynhwysfawr ar gyfer archwilio datblygiad chwaraeon. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o rai o'r cofnodion sy'n ymwneud â chyfleusterau, timau a gweithgareddau, gan gynnwys:
• Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
• Undeb Athletau Prifysgol Abertawe
• Clwb Rygbi Blaendulais
• Cymdeithasau lles, sefydliadau, cymdeithasau hamdden ym Maes Glo De Cymru
(Tîm Gymnasteg Coleg Prifysgol Abertawe, 1933/34 (Cyf. 1999/11)
Cap Prifysgol Abertawe, 1921-1923
Mae casgliadau archif y Brifysgol yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud ag ystod eang o chwaraeon. Mae'r deunydd yn cynnwys:
Llyfryn gemau, 1946-1947 (Cyf. DC2/3/1)
Sefydlwyd Clwb Rygbi (RFC) Blaendulais ym 1897 ym maes glo de Cymru, ac mae'n glwb rygbi cyswllt Undeb Rygbi Cymru. Tîm glofa oedd y clwb yn wreiddiol, a gymerodd ei enw o chwe chwaer a merch perchennog pwll glo lleol, Evan Evans-Bevan (Blaendulais yn Saesneg yw Seven Sisters). Mae'r casgliad yn cynnwys:
Bu llawer o fusnesau mwy o faint yn noddi timau lleol ac roedd gan rai ohonynt glybiau chwaraeon o fewn eu sefydliadau, felly yn aml gall casgliadau busnes fod yn ffynhonnell annisgwyl ar gyfer deunydd sy'n ymwneud â chwaraeon a hamdden. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Tudalen o gyfriflyfr hysbysebu Cwmni Tramffordd Gwella Abertawe, 1921 (Cyf: LAC/85/C/28)
Twrnamaint pêl-law yn Nelson, oddeutu 1900 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/16)
Roedd chwaraeon wedi’u trefnu yn boblogaidd iawn ym Maes Glo De Cymru, gan amrywio o focsio, i bêl-law, i redeg.
Cynhyrchodd De Cymru nifer o bencampwyr bocsio, gan gynnwys Freddie Welsh o Bontypridd, a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd ym 1914, a Jimmy Wilde o Dylorstown, a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Pryf y Byd ym 1916. Erbyn y 1890au, roedd rygbi’n un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y Maes Glo, gyda llawer o glybiau rygbi’n cael eu sefydlu. Roedd nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn lowyr.
Wrth i bobl o ogledd Cymru ac o Loegr fudo i faes glo De Cymru, daeth pêl-droed yn fwy poblogaidd yn y cymoedd. Erbyn y 1920au roedd miloedd yn teithio ar y trên bob wythnos i wylio Dinas Caerdydd, Tref Abertawe a Thref Casnewydd yn chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed.
Cyfleusterau chwaraeon
Mae cofnodion llawer o'r cymdeithasau lles, sefydliadau, cymdeithasau hamdden a sefydliadau eraill yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer archwilio datblygiad cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ffoaduriaid o Wlad y Basg
Aelodau o Glwb Pêl-droed Amatur Bechgyn Gwlad y Basg, Caerllion, 1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/31) a thocyn gêm ar gyfer gêm yn erbyn Clwb Bechgyn Pontypridd, 1938 (Cyf. SC/681/1)
Roedd gan Faes Glo De Cymru rôl bwysig yn Rhyfel Cartref Sbaen. Gwirfoddolodd glowyr ar gyfer y Brigadau Rhyngwladol, arhosodd plant a wnaeth ffoi o Wlad y Basg yng Nghymru, a chodwyd arian gan gymunedau at achos y weriniaeth. Er mwyn helpu i godi arian, chwaraeodd y 'Basque Boys' gemau pêl-droed yn erbyn timau lleol eraill.
Yn ogystal â chofnodion mewn papurau newydd a chylchgronau cwmnïau, mae cyfeiriadau at chwaraeon i'w gweld mewn mathau eraill o lenyddiaeth: