Mae Archifau Richard Burton yn cadw ffynonellau ar gyfer ymchwilio i newidiadau i dirwedd a'r amgylchedd, yn enwedig o ran y diwydiannau metel a glo yn ardal Abertawe a de Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
Ym 1961, lansiwyd Prosiect Cwm Tawe Isaf â'r nod o ymchwilio i ardal a'i hadfer i fod yn gwm deniadol fel y bu cyn datblygu'r diwydiant mwyndoddi copr ar ddechrau'r 18fed ganrif, a diwydiannau metel eraill ar ôl hynny. Noddwyd y prosiect gan sefydliad Nuffield, y Swyddfa Gymreig, Cyngor Abertawe a'r cyn-Adran Ymchwil Weinyddol a Diwydiannol. Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Abertawe fel yr oedd ar y pryd arolygon o'r cwm er mwyn cael darlun a dadansoddiad cywir o'r cwm o ran yr amgylchedd ffisegol, yr amgylchedd cymdeithasol a'r sefyllfa economaidd. Lluniwyd adroddiad terfynol ym 1967 ac mae gwaith datblygu ac adfywio'r ardal wedi bod ar waith ers hynny.
Mae'r casgliad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o 1936 i 1967 ac mae'n cynnwys eitemau megis:
Dysgwch ragor am y casgliad hwn yn Blog Lower Swansea Valley Project a luniwyd gan fyfyrwyr MA o Brifysgol Abertawe. Mae'r wefan yn archwilio'r prosiect a'r ffigyrau allweddol, cyfranogiad y Brifysgol a'r gymuned leol, a llawer mwy.
Mae'r deunydd hwn yn cynnwys cofnodion busnes rhai o'r teuluoedd a'r sefydliadau allweddol a ddatblygodd y diwydiant copr yn rhanbarth Abertawe. Mae'r cofnodion yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad y diwydiant copr, cysylltiadau â chwmnïau mewn gwledydd eraill, datblygiadau ariannol, patentau cynhyrchu a phroblemau cymdeithasol mwg copr.
Cynllun o weithfeydd Hafod, 1916 (Cyf. LAC/126/C/16)
Casgliad Raissa Page
Mae'n cynnwys eitemau ffotograffig megis:
Casgliad Maes Glo De Cymru
Enghreifftiau o eitemau a allai fod o ddiddordeb yw:
Casgliad Raymond Williams
Mae'n cynnwys gwahanol bapurau gan Gymdeithas Sosialaidd yr Amgylchedd ac Adnoddau (SERA), megis newyddlenni, cofnodion a chylchlythyrau yn ogystal â fersiynau o 'Socialism and Ecology' gan Raymond Williams, a gyhoeddwyd fel pamffled SERA ym 1982 (Cyf. WWE/2/1/15/1/7).
Casgliad Ron Berry
Mae'n cynnwys cyfres o ddyddiaduron gwylio adar a gwaith ysgrifennu adareg o'r 20fed ganrif (Cyf. WWE/1/7/2), yn ogystal â llythyron ac eitemau eraill sy'n ymwneud â Phrosiect Coedwig Hamdden y Rhondda, 1973-1979 (Cyf. WWE/1/10/14).
Lewis Llewellyn Dillwyn
Mae'n cynnwys cyfres o ddyddiaduron (Cyf. LAC/26/D), y ceir trawsgrifiadau ar-lein ar eu cyfer. Er enghraifft, mae'r dyddiadur cyntaf, 1833-1834, yn cynnwys manylion am y tywydd a'r bywyd gwyllt.
Eitemau unigol o'r Casgliadau
Llyfrgell Glowyr De Cymru
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru'n gartref i gasgliadau o lyfrau argraffedig a phamffledi, yn ogystal â darparu mynediad at gopïau o recordiadau hanes llafar o Gasgliad Maes Glo De Cymru, a allai ymwneud ag amgylchedd a thirwedd Maes Glo De Cymru.
Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn darparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion undebau llafur, yn bennaf Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol.
Mae'r Casgliad wedi'i rannu ar draws dau safle.
Gallwch bori drwy gynnwys Casgliad Meysydd Glo De Cymru a chwilio yno drwy ddefnyddio'r wefan Coalfield Web Materials a gwefan Casgliad Meysydd Glo De Cymru.
Llun o'r gwaith o gloddio Pwll Glo Markham, sy'n dangos dynion mewn twll enfawr a fydd yn dod yn siafft y pwll glo yn y pen draw, 1911 (Cyf. SWCC/PHO/COL/63)
Prosiect Tŷ Toronto
Dechreuodd y prosiect mewn ymateb i drychineb Aberfan ym 1966, pan lithrodd domen gwastraff glo i lawr mynydd gan ladd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant. Mae enw'r prosiect yn deillio o'r gymuned Gymreig yn Toronto, y gwnaeth eu rhoddion helpu i sefydlu canolfan yn Aberfan dan arweiniad y Parchedig Erastus Jones. Ym mis Mawrth 1973, bu nifer o gynadleddau a digwyddiadau o ganlyniad i 'The Call to the Valleys', a'u nod oedd amlygu pryderon cymunedau'r cymoedd a'r materion a oedd yn effeithio arnynt.Ceir un adran sy'n ymwneud â 'Chynhadledd y Cymoedd a'r Amgylchedd', sy'n cynnwys gohebiaeth, papurau a chofnodion cofrestru, 1974-1975 (Cyf. SWCC/MNC/TT/13)
Casgliad Haydn Evans
Trafodion yr Ymchwiliad i Drychineb Aberfan 1966, gan gynnwys nifer o adroddiadau a phapurau yn ogystal â chopïau o ohebiaeth a memoranda sy'n ymwneud â chwynion am berygl tomennau glo, llifogydd a llygredd yn Aberfan (Cyf. SWCC/MNA/PP/26/3).
Mae eitemau o Gasgliad Maes Glo De Cymru a allai fod o ddiddordeb yn cynnwys:
Trafnidiaeth yn Ne Cymru
Ym 1807, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls oedd gwasanaeth rheilffordd cyntaf y byd i deithwyr.
Mae casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer trafnidiaeth bws, rheilffordd a thramffordd yn ne Cymru, o ran Abertawe a'r cyffiniau yn bennaf.Maent yn cynnwys cofnodion o'r holl gwmnïau sy'n gysylltiedig â Rheilffordd y Mwmbwls a Phier y Mwmbwls -
Mae'r casgliad yn cynnwys llawer o fathau gwahanol o ddogfen, gan gynnwys mapiau a chynlluniau, papurau cyfreithiol a gohebiaeth, a gall ddangos effaith trafnidiaeth ar Abertawe a'r cyffiniau. Mae'r cofnodion yn cynnwys:
Llun â'r geiriad 'MUMBLES TRAIN NEARLY FULL', 1906 (Cyf. LAC/85/A/19)
At hynny, efallai yr hoffech gysylltu ag archifau awdurdodau lleol perthnasol.