Daeth Raissa Page (1932-2011) yn ffotograffydd dogfennol hunan-addysgedig ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol. Mae ei ffotograffiaeth yn dangos bywydau grwpiau ymylol ar adegau o newid cymdeithasol ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd hi hefyd yn un o sylfaenwyr yr Asiantaeth Ffotograffig arloesol, a chwbl fenywaidd, ‘FORMAT’ yn y 1980au.
Wedi'i gatalogio yn 2019, a’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Wellcome, mae Casgliad Raissa Page yn ymestyn o 1978 i 2010 ac mae'n cynnwys ffotograffau, tryloywluniau, negatifau, sleidiau, llyfrau nodiadau, a deunydd sain a phrint. Mae'n cynnwys -
Mae’r casgliad yn hawlio diddordeb eang, rhyngddisgyblaethol (e.e. heneiddio, anabledd, gwyddor gymdeithasol, daearyddiaeth ddynol), yn ogystal â'r meysydd mwy amlwg o ffotograffiaeth, a hanes cymdeithasol a gwleidyddol yr 20fed ganrif.
Ceir enghreifftiau pellach o'i ddefnydd ar gyfer meysydd ymchwil ar y Tab Syniadau Ymchwil
‘Dancing on the silos, Greenham Common’, 1 Ionawr 1983 (Cyf. DC3/14/1/67)
Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton
Ym mis Tachwedd 2020 croesawyd 80 o westeion i ddigwyddiad ar-lein 'Raissa Page: Life Through a Different Lens' fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Bod yn Ddynol Prifysgol Abertawe. Yn bresennol oedd yr archifydd David Johnston-Smith, a fu’n catalogio’r casgliad, ac fe roddodd drosolwg cynhwysfawr o fywyd Raissa o’i phlentyndod hyd nes ei gyrfa mewn ffotograffiaeth, yn ogystal â ffotograffydd a chyfaill Raissa, Anita Corbin, a roddodd gyfrif personol o yrfa ac effaith ffotograffig Raissa.
Darganfyddwch luniau mwyaf ysgogol Raissa Page drwy lygaid haneswyr, ffotograffwyr, archifyddion, ac yn bwysicaf oll, dros eich hunan
Lansiodd y digwyddiad ein harddangosfa ar-lein, sy'n arddangos lluniau a ddewiswyd gan haneswyr, academyddion, ffotograffwyr, archifyddion a chyfeillion Raissa Page, a hefyd eu hymatebion iddynt. Gwnaethom hefyd annog pobl i adael eu hymatebion a'u sylwadau ar dudalennau'r arddangosfa.
Ar hyn o bryd mae'r archifydd a'r awdur, David-Johnston Smith, yn gweithio ar lyfr am Raissa Page, a fydd yn llyfr elfennol am ei bywyd, ei gwaith a'i chasgliad ffotograffig.
Mae’r gwaith ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer y prosiect bellach wedi'u cwblhau, a bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn 2022. Y gobaith yw y bydd yn waith rhagarweiniol a fydd yn annog ymchwil ac archwilio pellach am y ffotograffydd a'i ffotograffau.
Bydd y llyfr yn cynnwys ystod eang o ffotograffiaeth Raissa o ddiwedd y 1970au hyd at ddechrau'r 1990au ynghyd â’r canlynol-
Defnyddiwyd casgliad Raissa Page fel sail ar gyfer 'Cyfathrebu Hanes', modiwl MA Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn archwilio casgliad archifol ac yn cyfleu ei botensial i'r cyhoedd. Creodd y myfyrwyr wefan ar y cyd ar gyfer gynulleidfa nad yw’n academaidd yn ogystal â rhoi cyflwyniadau llafar unigol, ac adroddiad myfyriol ar y cyd am eu profiadau.
Addysgir y modiwl fel arfer yn Ystafell Ddarllen yr Archifau, lle gall myfyrwyr gael gafael ar ddeunydd, ond oherwydd pandemig Covid-19 roedd yn rhaid iddynt ddibynnu'n llwyr ar y catalog ar-lein, eitemau digidol dethol, a sesiynau Zoom.
‘Cynhesodd y myfyrwyr at ffotograffiaeth Raissa Page a'r prosiect ar unwaith. Llwyddasant i ganfod themâu o ddiddordeb personol a dangos eu gallu i ddadansoddi'r lluniau digidol o'r Archifau a oedd ar gael, ac i weithio gyda ffynonellau ar-lein eraill yn ogystal â'u cyd-fyfyrwyr.'
Dr Jonathan Dunnage, Athro Cysylltiol Hanes Ewropeaidd Modern, Prifysgol Abertawe
Mae Archif Ffotograffig Format (sy'n cynnwys rhywfaint o ddeunydd Raissa Page) yn Llyfrgell Sefydliad Bishopsgate yn eu Casgliadau Arbennig a'u Harchifau
Mae recordiadau hanes llafar Llyfrgell Prydain o Raissa Page o 1994 (a wnaed gan ei chyd-aelod o Format, Michael Ann Mullen) ar gael mewn 9 rhan
Mae casgliad o lyfrau ffotograffig o lyfrgell Raissa Page ar gael yn llyfrgell Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd
Y Guardian – Ysgrif goffa Raissa Page
Archives & Records Association ARC magazine 'The life and photographic legacy of Raissa Page' (Rhif. 360, Gorffennaf 2019, tud.19-22) [ar gael i aelodau yn unig]