Cyfoeth o wybodaeth! Gall archifau busnes fod yn ffynhonnell ymchwil gyffrous a gwreiddiol i fyfyrwyr, academyddion a haneswyr lleol neu deuluol.
Rhan o gyfriflyfr wedi'i ysgrifennu â llaw.
Mae'r casgliadau sy’n rhan o Archifau Richard Burton yn cynnwys cofnodion llawer o fusnesau lleol, megis Rheilffordd y Mwmbwls. Mae diwydiannau metelegol yr ardal wedi'u cynrychioli'n dda, yn enwedig copr, tunplat a dur. Gall cofnodion yn ein casgliadau busnes gynnwys:
Gallai pynciau posibl gynnwys hanes cwmni, datblygiadau technolegol, masnach ryngwladol, amodau gwaith, effeithiau argyfyngau neu wasgfeydd economaidd, a sut y cafodd unigolion, cymunedau a thirweddau eu dylanwadu gan ddiwydiant lleol.
Erbyn y 19eg ganrif roedd dros 80% o dunplat y byd yn dod o dde Cymru. Mae ein casgliadau tunplat a dur yn cwmpasu cyfnodau llwyddiannus a llai llwyddiannus y diwydiant a ddioddefodd dariffau Americanaidd, rhyfeloedd byd, newidiadau mewn technoleg ac yn y blaen. Mae'r casgliadau'n cynnwys:
Cofnodion Cwmni Tunplat Yr Hen Gastell, 1825-1958 (Cyf. LAC/87)
Ffurfiwyd y cwmni ym 1866 ar safle o'r enw Pen Castell o ble y deilliodd enw’r cwmni. Adeiladwyd dwy felin i ddechrau, ac erbyn 1893 roedd hyn wedi cynyddu i un ar ddeg o felinau. Prynwyd y gwaith gan y Steel Company of Wales Limited ym 1947. Mae'r casgliad yn cynnwys gweithredoedd a chontractau sy'n ymwneud â sefydlu a datblygu'r cwmni; llyfrau cofnodion cyfarwyddwyr; taflenni cyflogau ac ataliadau cyflog; llyfrau stoc; patentau, cofnodion eiddo a deunydd sy'n ymwneud â chwmnïau sy’n gysylltiedig â'r diwydiant tunplat yn gyffredinol.
Cofnodion John Player and Sons Limited, 1861-1959 (Cyf. LAC/92)
Dyma’r cwmni a oedd yn cynnal Gwaith Tunplat Clydach yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o gylchgronau a llyfrau llythyrau, yn ogystal â chofnodion o Ystad Ynystawe (c1890-1932) a Chofnodion Pwyllgor Argyfwng Clydach/Cronfa Trallod Lleol (1915-1931).
Cliciwch ar y tab Ein Casgliadau i gael manylion am ein holl gasgliadau busnes tunplat/dur.
Y math mwyaf cyffredin o gofnod staff i oroesi yn archifau cwmni yw llyfrau cyflog sy'n cofnodi rhestrau o gyflogeion a'u cyfraddau cyflog, ond a allai hefyd gynnwys manylion eraill fel manylion cynhyrchu ac allbwn cyflogeion.
Gellir defnyddio cofnodion staff megis llyfrau rheolau, contractau cyflogaeth neu ffeiliau personél i gael gwybod am unigolion. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol o ran ymchwilio i amodau gwaith ac agwedd cwmni at ei staff, yn enwedig yn ystod anawsterau economaidd neu anghydfodau masnach.
Ysgrifennwyd y llythyr hwn gan fachgen rholio oer yng Ngweithfeydd Tunplat yr Hen Gastell ym 1899, ac ynddo mae’n ymddiheuro am adael y gwaith ac mae’n annog bechgyn eraill i fynd ar streic hefyd. Ochr yn ochr â chofnodion cyflog a chytundeb i ddychwelyd i'r gwaith, mae'n rhoi cipolwg diddorol ar bobl ifanc yn y gwaith a'r ffordd yr oedd y cwmni'n ymdrin ag anghydfodau.
Datganiad gan Amos James, 9 Medi 1899 (Cyf. LAC//87/D/8)
Siop gydweithredol gyda phoster Clwb Siocled, gan Gymdeithas Gydweithredol Doc Penfro (Cyf. SWCC/MND/137/2/48/14)
Mae gan y mudiad cydweithredol yng Nghymru hanes hir a nodedig. Yn dilyn ôl traed Cymdeithas Arloeswyr Ecwitïol Rochdale, a ystyrir yn gyffredinol fel y fenter gydweithredol lwyddiannus gyntaf, bu presenoldeb cydweithredol cyson yn ne Cymru o'r 1860au. Am dros ganrif roedd wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn diwylliant lleol, ac roedd yn ffenomenon economaidd a chymdeithasol fawr.
Rydym yn cadw cofnodion cymdeithasau cydweithredol a oedd wedi'u lleoli yn ardaloedd glofaol rhanbarth de Cymru o'r Co-operative Union Limited. Mae hyn yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol. Yn ogystal â hyn, mae'r archif hefyd yn cynnwys cyfnodolion, bwletinau a deunydd printiedig arall a gyhoeddwyd gan y Co-operative Wholesale Society Limited a'r Co-operative Union Limited, a oedd ar gyfer y mudiad cydweithredol yn ei gyfanrwydd. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys deunydd y Gymdeithas Gydweithredol i Fenywod.
Mae cynnwys a dyddiadau'r deunydd yn y casgliadau cymdeithas leol unigol yn amrywio ond enghraifft dda yw Cymdeithas Gydweithredol Ton (Cyf SWCC/MNA/COP/7) lle gellir dod o hyd i'r mathau canlynol o ddeunydd:
Darganfyddwch fwy am hanes cymdeithasau cydweithredol a'r deunydd sydd yn yr Archifau yn yr adran am Gymdeithasau Cydweithredol ar safle Deunyddiau Gwe y Meysydd Glo, yn ogystal â Blog So you think you know the co-operative a grëwyd gan fyfyrwyr M.A. Hanes Prifysgol Abertawe fel rhan o'u modiwl Cyfathrebu Hanes.
Cofnodion Felinisha Chemical Company Limited, 1770-1935 (Cyf. LAC/35)
Ym 1837 prynwyd safle hen felin Felinfach Isha ym Mhontarddulais gan Lewis Weston Dillwyn o Neuadd Sgeti a sefydlwyd gwaith cemegol ar y safle. Roedd y Felinisha Chemical Company Limited yn cynnal y gwaith. Ym 1893 gwerthwyd y safle a daeth yn eiddo ar y cyd i Gwmnïau Tunplat Teilo a Clayton. Yn ddiweddarach, enwyd y cwmni’n Gwmni Cemegol Pontarddulais ac ym 1935 diddymwyd y cwmni’n wirfoddol a daeth yn rhan o Gwmnïau Tunplat Teilo a Clayton. Ym 1939 prynodd y Llanelly Associated Tinplate Companies Limited y gwaith a ni weithredodd bellach fel cwmni ar wahân.
Mae'r casgliad yn cynnwys gweithredoedd eiddo, papurau sy'n ymwneud ag eiddo'r cwmni a phapurau sy'n ymwneud â'r achos cyfreithiol a fu rhyngddynt â Chwmni Glofeydd Graigola Merthyr.
Cofnodion Gwaith Cemegol Pontardawe, 1809-1969 (Cyf. LAC/93)
Sefydlwyd Gwaith Cemegol Pontardawe yn yr Alltwen oddeutu 1849 gan Jacob Lewis, brethynnwr o Abertawe. Roedd y gwaith yn gwerthu fitriol neu asid sylffwrig i'r diwydiant tunplat lleol a oedd yn ei ddefnyddio yn y broses piclo. Roedd Gwaith Cemegol Pontardawe wedi dirywio'n ddifrifol erbyn y 1940au a chafodd ei gau yn y pendraw yn y 1970au.
Mae'r casgliad yn cynnwys gweithredoedd sy'n ymwneud â safle'r gwaith ac eiddo arall sy'n perthyn i’r teulu Lewis, cemegwyr gweithgynhyrchu yn y gwaith, gan gynnwys gweithredoedd eiddo ar gyfer Pontardawe, Brynheulog a Stryd Iago.
Cofnodion Purfa Olew Llandarcy, 1919-1958 (Cyf. LAC/66)
Sefydlwyd y burfa olew yn Llandarcy ger Sgiwen gan yr Anglo-Persian Oil Company Limited ym 1921, ac fe’i hagorwyd ym 1922. Fe'i hadeiladwyd er mwyn trin olew crai mwynol a fewnforiwyd, a hon oedd y burfa olew fasnachol fawr gyntaf i gael ei sefydlu ym Mhrydain. Adeiladwyd Llandarcy fel pentref model i gartrefu nifer o weithwyr y burfa.
Cwmni dosbarthu'r Anglo-Persian Oil Company Limited oedd y British Petroleum Company Limited. Mae'r casgliad yn cynnwys cofnodion adran gyllid y Purfeydd Olew Cenedlaethol gan gynnwys cyfnodolion cyfrifon, manylion rhentu’r ystadau, a phapurau ariannol eraill.
Cofnodion eraill
Mae ein casgliadau copr yn cynnwys cofnodion busnes rhai o'r teuluoedd a'r sefydliadau allweddol a ddatblygodd y diwydiant copr yn rhanbarth Abertawe. Mae'r rhain yn cynnwys casgliadau sy'n ymwneud â Vivian and Sons, Williams, Foster and Company, Pascoe Grenfell and Sons, ac Yorkshire Imperial Metals.
Cynllun o Waith yr Hafod, 1918 (Cyf. LAC/126/C/16)
Mae’r cofnodion yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad y diwydiant, cysylltiadau â chwmnïau mewn gwledydd eraill, datblygiadau ariannol, patentau cynhyrchu a phroblemau cymdeithasol oedd ynghlwm â mwg copr.
Cofnodion Gwaith White Rock, 1736-1947 (Cyf. LAC/122)
Fe’i sefydlwyd yng Nghwm Tawe Isaf ym 1737 gan John Hoblyn. Williams, Foster and Company oedd yn cynnal y gwaith o tua 1870; Vivian and Sons o oddeutu1874; a British Copper Manufacturers' Limited rhwng 1924 a 1928. Mae'r casgliad yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â materion y partneriaethau a’r cwmni, prosesau cynhyrchu newydd, a gweithredoedd, cynlluniau a phapurau ystadau.
Cofnodion Yorkshire Imperial Metals, 1740-1956 (Cyf. LAC/126)
Cwmni ar y cyd ydoedd rhwng Yorkshire Metals ac Imperial Chemical Industries Limited (ICI). Ym 1927, cymerodd drosodd British Copper Manufacturers' Limited a gafodd ei ffurfio ym 1924 trwy gyfuno Vivian and Sons, Williams, Foster and Company, a Pascoe Grenfell and Sons Limited. Mae'r casgliad yn cynnwys papurau sy'n ymwneud â’r fasnach fetel yng Nghernyw a chofnodion gan yr holl gwmnïau cysylltiedig.
Papurau a Chofnodion Busnes y Teulu Grenfell, 1783-1897 (Cyf. LAC/45)
Wedi'i sefydlu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, unodd Pascoe Grenfell and Sons â Williams, Foster and Company ym 1894 ac wedyn â Vivian and Sons ym 1924, cyn dod yn rhan o Imperial Chemical Industries (ICI) ym 1926. Mae'r casgliad yn cynnwys cytundebau partneriaeth, llyfrau cofnodion cyfarfodydd y cyfarwyddwyr, a chynllun o Waith Copr y Banc Canol ac Uwch.
Cliciwch ar y tab Ein Casgliadau uchod am fanylion ein holl gasgliadau busnes o’r diwydiant copr.
Papurau a Chofnodion Busnes y Teulu Grenfell, 1783-1898 (Cyf. LAC/45)
Cofnodion Gwaith White Rock, 1736-1947 (Cyf. LAC/122)
Cofnodion Yorkshire Imperial Metals, 1740-1956 (Cyf. LAC/126)
Casgliadau cysylltiedig
Casgliad Cecil Lewis, 1910-1940 (Cyf. LAC/61): yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Gwaith Copr y Banc Canol
Papurau Morris, c1587-1987 (Cyf. LAC/81): papurau’r teulu Morris o Abertawe, diwydianwyr
Casgliad Hugh Vivian, 1824-1942 (Cyf. LAC/117): rheolwr-gyfarwyddwr Vivian and Sons Limited
Casgliad Cyfreithwyr Strick a Bellingham (Abertawe), 1841-1918 (Cyf. LAC/140): yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud ag eiddo mwynau a diwydiannol Vivian and Sons
Casgliad Terrill, [c1870]-1953 (Cyf. LAC/141): Roedd Bertie Terrill yn Rheolwr Technegol yng Ngwaith Copr y Morfa
Cofnodion Prosiect Cwm Tawe Isaf (Cyf. LAC/69): Prosiect o'r 1960au a oedd yn ceisio clirio diffaith a llygredd diwydiannol y cwm yn dilyn dirywiad y diwydiant copr, a dychwelyd yr ardal i ddefnydd gweithredol
Tudalen o Lyfr Cofnodion Cyfarfod y Cyfarwyddwyr, 1890-1897 (Cyf. LAC/45/A20)
Sbotolau ar lyfrau cofnodion
‘An industrial soap-opera full of the trauma and tribulations of a once mighty force in global copper trading’
Dyma sut ddisgrifiodd Dr Tehmina Goskar lyfr cofnodion cyfarwyddwyr Pascoe Grenfell and Sons, mwyndoddwyr copr, yn ystod y prosiect ‘Global and Local Worlds of Welsh Copper’ a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Gwnaeth y prosiect ddefnydd o archifau busnes y cwmnïau copr mawr, a gedwir yma ac yn Archifau Gorllewin Morgannwg. Defnyddiwyd y cofnodion fel sail tystiolaeth i animeiddiad cyfrifiadurol 3D unigryw a gynhyrchwyd o Waith Copr Vivian and Sons yr Hafod, yn ogystal ag arddangosfa fawr am gyfraniad Cymru at fasnach gopr y byd, a hefyd ar gyfer adnoddau dysgu digidol. Nodwyd hefyd yn ystod y prosiect y byddai’n bosibl defnyddio’r archifau hyn i ddatgloi themâu ehangach yn seiliedig ar y diwydiant copr, megis y defnydd o’r nwyddau, y galw amdanynt a’r rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae llyfrau cofnodion y cwmnïau’n manylu ar benderfyniadau lefel uchel, ac maent yn adlewyrchu digwyddiadau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â dangos mecanweithiau mewnol y cwmni. Mae'r llyfr cofnodion hwn yn cynnwys nodiadau o gyfarfodydd bwrdd wrth i'r cwmni wynebu cyfnodau anodd, ac ym 1982 diddymwyd y cwmni yn wirfoddol.
Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls oedd y gwasanaeth rheilffordd i deithwyr cyntaf yn y byd pan y'i sefydlwyd ym 1807.
Mae casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls yn adnodd cynhwysfawr am fysus, rheilffyrdd a thramffyrdd de Cymru, yn bennaf ar gyfer ardal Abertawe a'r cyffiniau.
Maent yn cynnwys cofnodion gan yr holl gwmnïau a oedd yn gysylltiedig â Rheilffordd y Mwmbwls-
Mae'r casgliadau'n cynnwys nifer sylweddol o eitemau sy'n ymwneud â hanes Pier y Mwmbwls. Mae gweithredoedd eiddo, gohebiaeth a phapurau eraill yn manylu ar ddatblygiad y Pier a’r gweithgareddau cysylltiedig.
Cerdyn post y 'Mumbles Express' o Gasgliad Wishart (LAC/125/34-5)
Llun o ffan Waddle (Trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin)
Cofnodion Cwmni Peirianneg Waddle, 1884-1964 (Cyf. LAC/119)
Roedd y cwmni hwn (a elwid hefyd yn Waddle Patent Fan and Engineering Company Limited) wedi'i leoli yn Llanelli ac roedd yn cynhyrchu ffaniau ar gyfer pyllau glo. Mae'r casgliad yn cynnwys dyluniadau technegol o ffaniau, peiriannau, platiau gwely peiriant ac ati.
Cofnodion Millbrook Engineering Company Limited, 1734-1966 (Cyf. LAC/76)
Sefydlwyd Gwaith Peirianneg Millbrook yng Nglandŵr ym 1825. Roedd y cwmni'n cynhyrchu offer a chyfarpar ar gyfer y diwydiannau copr a thunplat. Daeth y gwaith yn arbennig o adnabyddus am Beiriant Piclo Millbrook a ddefnyddiwyd mewn llawer o waith tunplat yn lleol a thramor. Y cwmni a oedd yn cynnal y gwaith pan gafodd ei sefydlu oedd Cwmni Haearn Millbrook. Cafodd Cwmni Peirianneg Millbrook ei gofrestru ym 1901.
Mae'r casgliad yn cynnwys gweithredoedd eiddo a deunydd sy'n ymwneud â hanes y cwmni, papurau ariannol, manylebau a phrosesau gwaith a gohebiaeth y cwmni.