Rydym yn awyddus i gynnig cymorth ymarferol ar gyfer dysgu ac addysgu. Gall tiwtor ar unrhyw fodiwl neu gwrs ofyn am sesiynau, a gellir eu hymgorffori mewn slotiau addysgu o fewn modiwlau a addysgir ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
Cyflwynir y sesiynau yn ein hystafell ddarllen, a gallant gynnwys taith y tu ôl i'r llenni sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddod yn gyfarwydd â'r adeilad a'i gyfleusterau.
Rydym yn awyddus i gyflwyno gwerth archifau i ddarlithwyr a myfyrwyr ar draws llawer o ddisgyblaethau. Yn y gorffennol rydym wedi cynnal sesiynau ar gyfer Saesneg, Hanes, Awdioleg, Polisi Cymdeithasol ac Astudiaethau Plentyndod. Os ydych chi'n diwtor modiwl sy’n dymuno siarad â ni am ddatblygu sesiwn, mae croeso i chi gysylltu!
Dysgwch am yr ymchwil a wnaed gan Siôn Durham, fel rhan o'i gwrs ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Researching and Re-telling the Past: Swansea Student Union History Project’.
Yn y ffilm hon mae Siôn yn disgrifio hanes unigryw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a sut yr oedd yn gallu archwilio ei hanes drwy ffynonellau dirifedi sydd yn yr archifau.