Mae Archifau Richard Burton yn dal casgliadau amrywiol o'r cyfnod cyn creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi hynny, sy'n berthnasol i hanes meddygaeth, iechyd a phroffesiynau cysylltiedig amrywiol. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
Ffotograff gan Raissa Page: 'Surgery, Oxford "Health: discussing diet with patient as part of "health MOT".', 1987 (cyf. DC3/28/1/8)
Cymdeithasau Llesiant a Meddygol
Yn enwedig cyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei sefydlu, roedd cymdeithasau llesiant a meddygol yn galluogi pobl i wneud darpariaeth ar gyfer gofal iechyd a chymorth. Gallai unigolion, dynion fel arfer, gyflwyno cais i gael eu derbyn fel aelodau, ac weithiau gallai hyn gynnwys eu gwragedd neu eu gwŷr a'u teuluoedd hefyd. Pe cawsent eu derbyn fel aelodau, byddent yn talu cyfraniad rheolaidd i'r gymdeithas, fel y gallent ofyn am gymorth nes ymlaen pe bai ei angen arnynt. Byddai gan y cymdeithasau reolau a rheoliadau, y byddai rhai ohonynt yn llywio penderfyniadau moesol yn ogystal â rhai meddygol.
Undebau Llafur
Bu Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yn ddiweddarach Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru), yn trefnu ac yn cefnogi mathau gwahanol o ddarpariaeth iechyd, gan gynnwys ambiwlansys, nyrsio, ysbytai a chyfleusterau adsefydlu, gan gynnwys 'cartrefi' ym Mhorthcawl, Talygarn ger Pontyclun a Bournemouth. Mae enghreifftiau o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn yr Archifau yn cynnwys:
Cerdyn post yn dangos tu blaen Cartref Gorffwys y Glowyr Talygarn (cyf. SWCC/PHO/NUM/6/11/2)
Cartref Gorffwys y Glowyr Talygarn
Ym 1923, prynodd Pwyllgor Llesiant Glowyr De Cymru y tŷ a'r tiroedd ger Pontyclun gan Wyndham Damar Clark, gan ei drawsnewid yn gartref gwella i lowyr ac yn ddiweddarach, yn gartref adsefydlu ar gyfer gweithwyr glo. Mae eitemau sy'n berthnasol i Dalygarn yn y casgliadau'n cynnwys:
Mae gan yr Archifau amrywiaeth o eitemau sy'n berthnasol i nyrsio drwy gydol y casgliadau. Yn ogystal â deunydd sy'n ymwneud â chymdeithasau nyrsio, ceir nifer sylweddol o ffotograffau yng Nghasgliad Raissa Page sy'n ymwneud ag ysbytai, staff nyrsio a meddygon yn yr adran sy'n ymwneud ag iechyd meddygol.
Cymdeithasau Nyrsio
Casgliad Henry Leyshon (Cyf. LAC/64)
Roedd Mr Henry Leyshon o Abertawe yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side 1906-1912. Sefydlwyd y gymdeithas ym 1905 pan benodwyd y nyrs ardal gyntaf. Yn ddiweddarach, bu Henry Leyshon yn Gadeirydd y Gymdeithas, 1913-1919, ac yn Drysorydd er Anrhydedd, 1914-1940. Mae'r casgliad yn cynnwys:
Gall archifau ddatgelu llawer am y meddyginiaethau gwerin a'r meddyginiaethau a ddefnyddid yn y gorffennol. Gall y rhain fod ar ffurf cofnodion fferyllwyr ac ymarferwyr meddygol eraill, yn ogystal â chofnodion anfeddygol, megis papurau eglwysi a chartrefi:
'A much approved Recipe for a violent Cold' o 'The Pennsylvania Town and Country-Man’s Almanack' ar gyfer 1768 a gedwid gan William Dillwyn (cyf. LAC/26/B/7)
Mae deunydd am gyflogaeth a gwaith meddygon, cyn cyfnod creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi hynny ar gael yng nghasgliadau'r Archifau:
Ceir mathau amrywiol o gofnodion mewn perthynas ag ysbytai a enwir a rhai anhysbys yn ne Cymru yn y casgliadau:
Llun o'r ysbyty, Abertawe, dechrau'r 20fed ganrif (cyf. SWCC/PHO/TOP/1/79/1)
Yn y casgliadau yn yr Archifau, ceir dogfennau sy’n ymwneud â meddygaeth ac iechyd dramor, yn enwedig mewn perthynas â Rhyfel Cartref Sbaen. Mae'r eitemau'n cynnwys:
Yn yr Archifau ceir amrywiaeth o eitemau mewn perthynas â darparu a gweithredu ambiwlansys drwy gydol y casgliadau. Ceir eitemau mewn perthynas ag ambiwlansys glofeydd, yn ogystal â thimau achub, Ambiwlans Sant Ioan a mathau o wasanaeth ambiwlans.
Ambiwlans Sant Ioan
Baner glowyr 'Help in time of need': Llyfrgell Glowyr De Cymru
Efallai byddwch hefyd am gysylltu ag ysbytai, byrddau iechyd, cyrff elusennol a sefydliadau unigol eraill.