Mae Archifau Richard Burton yn ffynhonnell wych ar gyfer astudio anghydfodau diwydiannol a streiciau, yn enwedig yn y diwydiant mwyngloddio. Mae casgliadau Maes Glo De Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r anghydfodau mawr a llai o faint, o safbwynt y gweithiwr drwy eu deunyddiau undeb llafur. Mae hyn yn cynnwys:
Mae'r Archifau hefyd yn cadw casgliadau busnes sy'n aml yn cofnodi digwyddiadau o'r fath, a'r effaith ar y cwmni.
Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)
Ym 1926 daeth Comisiwn Brenhinol i'r casgliad bod angen ad-drefnu diwydiant glo Prydain. Roedd perchnogion pyllau yn bwriadu torri cyflogau glowyr ac estyn oriau gwaith, ac roedd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr wedi brwydo yn erbyn y cynigion hyn gyda’r slogan ‘Not an hour on the day. Not a penny off the pay’. Ar 30 Ebrill 1926, cafodd y glowyr a wrthododd y toriadau eu cloi allan a daeth meysydd glo Prydain i stop.
Galwodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) ar bob undebwr llafur i streicio a, rhwng 3 a 12 Mai, daeth y rhan fwyaf o weithlu Prydain allan ar streic i gefnogi'r glowyr. Ar 12 Mai, dychwelodd yr undebau eraill i'r gwaith wrth i'r TUC gytuno ar delerau gyda'r Llywodraeth. Gwrthododd Ffederasiwn y Glowyr y cynigion a pharhaodd y glowyr gyda’r streic am chwe mis nes i newyn eu gorfodi yn ôl i'r gwaith.
Staff Pwyllgor Ffreutur Dyffryn yn ystod Streic Gyffredinol 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/44)
Llyfrau Cofnodion
Casgliadau Personol
Deunydd Arall
Rhwng 1921 a 1936, caeodd 241 o lofeydd yn ne Cymru a gostyngodd nifer y glowyr o 270,000 i 130,000. Dinistriodd effaith y dirwasgiad bob agwedd ar fywyd yn y maes glo, gan arwain at dair gorymdaith newyn o dde Cymru i Lundain ym 1927, 1934 a 1936. Dechreuodd Gorymdaith Newyn genedlaethol i Lundain ym mis Hydref 1932; cymerodd 2,500 o orymdeithwyr ran, o bob rhan o Brydain, gan gynnwys 375 o dde Cymru.
Cynhaliwyd yr Orymdaith Newyn olaf a’r un fwyaf cynrychiadol i adael de Cymru ym mis Hydref 1936 gyda 504 o orymdeithwyr. Roedd gan yr orymdaith gefnogaeth swyddogol Ffederasiwn Glowyr De Cymru a'r Blaid Lafur, gyda chyrff crefyddol a dinesig hefyd yn mynegi cefnogaeth.
Poster yn hysbysebu gwrthdystiad 'Red Sunday in Rhondda Valley' ar 18 Medi 1927 (Cyf. SWCC/PHO/ED/2/32)
W. Eddie Jones (Cwmbrân)
Casgliad o ddeunydd sy'n gysylltiedig â Gorymdaith Newyn 1936 a diweithdra yn y 1930au. Mae'n cynnwys:
J.S. Williams (Dowlais)
Gwasanaethodd J S Williams ar Ddosbarth De Cymru Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac roedd yn aelod o Fudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith a Mudiad Addysgol y Gweithwyr. Mae ei bapurau personol yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â’r Gorymdeithiau Newyn ym 1931, 1934 a 1936, yr oedd ganddo rôl weithredol ynddyn nhw i gyd. Mae'n cynnwys:
Old Castle Tinplate Company Limited
Mae adroddiadau Cyfarwyddwyr, llyfrau cofnodion a chofnodion cyflog yn manylu ar weithredu diwydiannol ac anghydfodau undebol o safbwynt y cwmni, gan gynnwys cyfnodau cloi allan ym 1874, 1894 a 1895.
Ar raddfa lai, mae'r casgliad hefyd yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â streic gan grŵp o fechgyn rholio oer ym 1899. Cerddodd Amos James allan ar ôl cael ei anwybyddu ar gyfer dyrchafiad (yn ôl pob tebyg oherwydd ei ddiffyg gallu). Ymunodd rhai o'r bechgyn rholio oer eraill ag ef i'w gefnogi. Mae'r cofnodion yn y casgliad yn cynnwys adroddiad fesul dydd o'r anghydfod, cytundeb y bechgyn i ddychwelyd i'r gwaith ac ymddiheuriad a lofnodwyd gan Amos James. Roedd yn ofynnol i'r bechgyn dalu am golled elw’r Old Castle Tinplate Company ac am achosion llys.
Datganiad gan Amos James, 9 Medi 1899 (Cyf. LAC/87/D/8)
Roedd Streic y Glowyr rhwng 1984 a 1985 yn un o'r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw a welodd Prydain erioed. Y catalydd oedd cyhoeddiad y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) ar 6 Mawrth 1984 ei fod yn bwriadu torri’r capasiti cenedlaethol o 4 miliwn tunnell a chau 20 pwll gan golli 20,000 o swyddi. Roedd y streic a barodd flwyddyn yn cynnwys caledi a thrais wrth i gymunedau’r pyllau glo o dde Cymru i'r Alban frwydro i gadw eu pyllau glo lleol.
Cwmni a baner Cyfrinfa Glynrhedynog mewn gwrthdystiad yn Llundain yn ystod Streic y Glowyr 1984-1985, 24 Chwefror 1985. Hawlfraint Norman Burns (Cyf. SWCC/PHO/DIS/105)
'We made them ourselves': “Souper women” Windhill a Woolley Edge, aelodau o Grŵp Gweithredu Gwragedd Glowyr Barnsley yn ystod streic 84-85. Hawlfraint Adrianne Jones [Cyf. DC3/6/1/120]
Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.
Casgliadau ffotograffig
Anghydfodau glowyr 1910-11, gan gynnwys Tonypandy
Streiciau’r Glowyr 1972 a 1974
Llyfrgell Glowyr De Cymru - pamffledi, recordiadau hanes llafar, fideos a phosteri o Gasgliad Maes Glo De Cymru, yn ymwneud â streiciau ac anghydfodau