Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Hanes Chwaraeon

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Chwaraeon

Group of men in various gymnastic poses.Mae casgliadau amrywiol yn Archifau Richard Burton sy’n ffurfio adnodd cynhwysfawr ar gyfer archwilio datblygiad chwaraeon. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o rai o'r cofnodion sy'n ymwneud â chyfleusterau, timau a gweithgareddau, gan gynnwys: 

•    Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
•    Undeb Athletau Prifysgol Abertawe
•    Clwb Rygbi Blaendulais 
•    Cymdeithasau lles, sefydliadau, cymdeithasau hamdden ym Maes Glo De Cymru

 

 

(Tîm Gymnasteg Coleg Prifysgol Abertawe, 1933/34 (Cyf. 1999/11)

Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe

Green cap with Swansea University coat of arms and a tassel.

Cap Prifysgol Abertawe, 1921-1923

Mae casgliadau archif y Brifysgol yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud ag ystod eang o chwaraeon. Mae'r deunydd yn cynnwys:

  • Cofnodion Undeb Athletau Prifysgol Abertawe (llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, adroddiadau, gohebiaeth a ffotograffau- Cyf. 2012/19)
  • Ffotograffau o dimau chwaraeon ym mhapurau personol cyn-fyfyrwyr, fel Casgliad Ruby Graham
  • Deunydd sy'n ymwneud â chystadlu rhyng-golegol (Varsity erbyn hyn)
  • Papurau newydd myfyrwyr

Oriel - Chwaraeon Prifysgol Abertawe

Women dressed in hockey kits with hockey sticks.

Tîm Hoci Menywod Coleg Prifysgol Abertawe, 1925 (Cyf. UNI/SU/PC/5)

Match fixtures card filled in with some of the results.

Rhaglen Wythnos Ryng-Golegol Coleg Prifysgol Abertawe, 1925 (Cyf. UNI/SU/PC/5)

Sports pavilion with a large crowd outside it.

Agor y Pafiliwn Chwaraeon, Lôn Sgeti , 1932 (Cyf. 2017/6)

Men jumping hurdles.

Clwydi ar Drac Chwaraeon Singleton, Coleg Prifysgol Abertawe, oddeutu’r 1960au (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/2/96)

Person sailing.

Myfyrwyr yn hwylio ym Mae Abertawe, oddeutu’r 1970au (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/1/26)

Male rugby players jumping in line out.

Tîm rygbi pymtheg cyntaf Coleg Prifysgol Abertawe yn chwarae yn erbyn Prifysgol Bangor, oddeutu’r 1980au (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/3/234)

Women in sports kit carrying rugby balls.

Tîm Rygbi Menywod Prifysgol Abertawe, oddeutu 2000 (Cyf. 2012/19)

Clwb Rygbi Blaendulais

Part of cover of Seven Sisters RFC fixtures card.

Llyfryn gemau, 1946-1947 (Cyf. DC2/3/1)  

Sefydlwyd Clwb Rygbi (RFC) Blaendulais  ym 1897 ym maes glo de Cymru, ac mae'n glwb rygbi cyswllt Undeb Rygbi Cymru. Tîm glofa oedd y clwb yn wreiddiol, a gymerodd ei enw o chwe chwaer a merch perchennog pwll glo lleol, Evan Evans-Bevan (Blaendulais yn Saesneg yw Seven Sisters). Mae'r casgliad yn cynnwys:

  • Llyfrau Cofnodion y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a’r Pwyllgor (1955-1991)
  • Llyfrau cyfrifon ariannol (1946-1968)
  • Llyfrau cyfrifon bar y clwb, a oedd hefyd yn gweithredu fel clwb cymdeithasol (1961-1968)
  • Llyfrynnau gemau, tocynnau, llythyrau, a phapur yn ymwneud â chanmlwyddiant a hanes y clwb

Chwaraeon a Busnes

Bu llawer o fusnesau mwy o faint yn noddi timau lleol ac roedd gan rai ohonynt glybiau chwaraeon o fewn eu sefydliadau, felly yn aml gall casgliadau busnes fod yn ffynhonnell annisgwyl ar gyfer deunydd sy'n ymwneud â chwaraeon a hamdden. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Dogfennau Cymdeithas Gydweithredol Llanelli sy’n cynnwys copi o ffotograffau o gyflwyniad chwaraeon lles staff ar gyfer tennis a bowls (Cyf. SWCC/MND/137/2/35/28)
  • Rhestrau o renti eiddo a chomisiynau a dderbyniwyd ar gyfer Cymdeithas Gydweithredol Ynysybwl, sy'n cynnwys rhestr o'r comisiwn a dderbyniwyd mewn perthynas â Chlwb Criced Sir Forgannwg am 6 mis, a ddaeth i ben ar 3 Medi 1979 (Cyf. SWCC/MND/137/2/73/28)
  • Cyfriflyfr hysbysebu a gadwyd gan Gwmni Tramffordd Gwella Abertawe gan gynnwys cyfrif ar gyfer Clwb Pêl-droed Tref Abertawe (Cyf. LAC/85/C/28). Gallwch ddarganfod mwy am y cyfriflyfr hwn ar y wefan hon a grëwyd gan fyfyrwyr MA o Brifysgol Abertawe.

Page from advertising ledger.

Tudalen o gyfriflyfr hysbysebu Cwmni Tramffordd Gwella Abertawe, 1921 (Cyf: LAC/85/C/28)

Chwaraeon a Chymdeithas

 

Crowd of people gathered around handball court.

Twrnamaint pêl-law yn Nelson, oddeutu 1900 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/16)

Roedd chwaraeon wedi’u trefnu yn boblogaidd iawn ym Maes Glo De Cymru, gan amrywio o focsio, i bêl-law, i redeg.

Cynhyrchodd De Cymru nifer o bencampwyr bocsio, gan gynnwys Freddie Welsh o Bontypridd, a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd ym 1914, a Jimmy Wilde o Dylorstown, a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Pryf y Byd ym 1916. Erbyn y 1890au, roedd rygbi’n un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y Maes Glo, gyda llawer o glybiau rygbi’n cael eu sefydlu. Roedd nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn lowyr.

Wrth i bobl o ogledd Cymru ac o Loegr fudo i faes glo De Cymru, daeth pêl-droed yn fwy poblogaidd yn y cymoedd. Erbyn y 1920au roedd miloedd yn teithio ar y trên bob wythnos i wylio Dinas Caerdydd, Tref Abertawe a Thref Casnewydd yn chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed.

Cyfleusterau chwaraeon

Mae cofnodion llawer o'r cymdeithasau lles, sefydliadau, cymdeithasau hamdden a sefydliadau eraill yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer archwilio datblygiad cyfleusterau chwaraeon.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sefydliad Lles Cymdeithasol y Maes Glo (CISWO): Papurau gweinyddol gan gynnwys cyfriflyfrau sy'n rhoi manylion am gymorth grant gan CISWO i Gymdeithasau Lles er mwyn cynnal, ymhlith strwythurau eraill, pafiliynau bowlio a thennis, oddeutu 1952-2007 (Cyf. 2007/8)
  • Clybiau i Bobl Ifanc Cymru [Pentref Bechgyn Sain Tathan a’r Mudiad Clybiau Bechgyn yng Nghymru]: Adroddiadau blynyddol, cylchgronau a ffotograffau, 1928-2008 (Cyf. 2011/2) 
  • Cymdeithas Hamdden Ynysybwl : Llyfrau cofnodion, rheolau, cyfrifon a phapurau ariannol eraill, mapiau a chynlluniau safle, 1922-1965 (Cyf. SWCC/MNA/PP/81)
  • Dr JD Jenkins (Swyddog Meddygol Iechyd, Cyngor Dosbarth Trefol y Rhondda): Gohebiaeth a thaflenni ynghylch pwll nofio yng Nghwmparc, 1933 (Cyf. SWCC/MNA/PP/55/2)

Ffoaduriaid o Wlad y Basg

Group of boys, standing and seated, in football kit and ticket for football match

Aelodau o Glwb Pêl-droed Amatur Bechgyn Gwlad y Basg, Caerllion, 1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/31) a thocyn gêm ar gyfer gêm yn erbyn Clwb Bechgyn Pontypridd, 1938 (Cyf. SC/681/1)

Roedd gan Faes Glo De Cymru rôl bwysig yn Rhyfel Cartref Sbaen. Gwirfoddolodd glowyr ar gyfer y Brigadau Rhyngwladol, arhosodd plant a wnaeth ffoi o Wlad y Basg yng Nghymru, a chodwyd arian gan gymunedau at achos y weriniaeth. Er mwyn helpu i godi arian, chwaraeodd y 'Basque Boys' gemau pêl-droed yn erbyn timau lleol eraill.

Oriel- Chwaraeon a Hamdden y Meysydd Glo

Group of people playing and watching bowls.

Lawnt fowlio yn Llanwrtyd, Powys, oddeutu 1910 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/2)

Group of people watching a boxing match.

Gornest focsio ym mhencadlys yr heddlu yn Nhonypandy, 1911 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/18)

Proposed development of outdoor sports facilities.

Argraff artist o ddatblygiad arfaethedig ym Mlaenclydach, o adroddiad blynyddol Cymdeithas Lles Cambrian, 1926. Yn cynnwys cyrtiau tennis, lawnt fowlio, pafiliwn a theatr awyr agored (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/25)

Large group of people at outdoor swimming pool.

Pwll nofio awyr agored Blaendulais, oddeutu 1930-40 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/22)

Chwaraeon a Llenyddiaeth

Yn ogystal â chofnodion mewn papurau newydd a chylchgronau cwmnïau, mae cyfeiriadau at chwaraeon i'w gweld mewn mathau eraill o lenyddiaeth:

  • Casgliad J.D. Williams (golygydd rheoli'r Cambria Daily Leader a’r Herald of Wales): toriadau papur newydd ar amrywiaeth o bynciau megis Abertawe a'r cylch, achosion llys, capeli lleol, darnau llenyddol, gwleidyddiaeth, yr Eisteddfod, chwaraeon ac ati, 1898 (Cyf. LAC/124/3)
  • ''The Football Leader’: argraffiad chwaraeon y 'Cambrian Daily Leader', 9 Rhagfyr 1906 (Cyf. LAC/102/4)
  • 'So Long Hector Bebb': nofel gan Ron Berry sy’n archwilio bywyd bocsiwr. Mae gan yr Archifau nifer o destunau llawysgrif a theipysgrif o'r gwaith hwn, a gyhoeddwyd gyntaf gan Macmillan and Co. ym 1970. (Cyf. WWE/1/1/3)