Mae’n rhaid cyhoeddi Rhestrau Darllen er mwyn iddynt ymddangos ar eich modiwlau ar Canvas, ac er mwyn i fyfyrwyr allu chwilio amdanynt yn iFind Reading a’u hychwanegu at eu casgliadau hwy.
Drwy gyhoeddi’r Rhestr, byddwch hefyd yn anfon yr eitemau at y Llyfrgell i’w prosesu, er mwyn i’r Llyfrgell gyflawni’r dyfyniadau.
Gallwch hefyd anfon eitemau unigol neu adrannau o’ch rhestrau at y Llyfrgell er mwyn eu prosesu.
Mae angen cyhoeddi Rhestrau Darllen er mwyn i’ch myfyrwyr allu eu gweld.
Bydd gan restr nad yw wedi’i chyhoeddi statws drafft.
I gyhoeddi rhestr, dewiswch y ddewislen Opsiynau Rhestr Darllen a dewis Cyhoeddi.
Bydd naidlen yn ymddangos er mwyn i chi ddewis pwy sy’n gallu darllen y rhestr:
Dewiswch eich opsiwn dewisol a chlicio ar Cadarnhau.
Bydd hyn hefyd yn anfon unrhyw eitemau nad ydynt eisoes wedi’u hanfon at y Llyfrgell er mwyn eu prosesu.
Bydd gan y Rhestr statws yn nodi ei bod wedi’i chyhoeddi.
Bellach, bydd modd i fyfyrwyr ddod o hyd i’r rhestr a’i hychwanegu at eu casgliad, a bydd hefyd modd ei weld ar eich modiwl ar Canvas.
(I ddad-gyhoeddi rhestr, dewiswch y ddewislen Opsiynau Rhestr Ddarllen a dewis Dad-gyhoeddi).
Er mwyn cyflawni eich dyfyniadau, mae’n rhaid i chi anfon y rhestr at y Llyfrgell.
Rhoddir statws Cael ei baratoi i bob eitem yn eich rhestr nes eich bod yn eu hanfon.
Dewiswch Anfon rhestr i anfon y rhestr yn ei chyfanrwydd at y Llyfrgell.Drwy fynd â’ch llygoden dros y botwm, gallwch weld y dyddiad diwethaf yr anfonwyd y rhestr at y Llyfrgell.
Gallwch hefyd ddewis anfon adrannau unigol o’r eitemau i’r Llyfrgell drwy ddewis opsiynau yna Anfon at y Llyfrgell.
Bydd statws Anfonwyd gan bob un o’r eitemau erbyn hyn.
Gall llyfrgellwyr newid statws eitem i Yn y broses i ddangos bod y Llyfrgell yn gweithio ar yr eitem. Byddant yn ei newid i Cwblhawyd unwaith y bydd ar gael i fyfyrwyr.
Hyd yn oed pan fydd pob eitem ar y Rhestr wedi’i Gwblhau, ni fydd modd i fyfyrwyr weld y rhestr nes eich bod yn ei chyhoeddi.
Gallwch edrych ar Restr Ddarllen fel y bydd yn ymddangos i’ch myfyrwyr.
Dewiswch y ddewislen opsiynau a dewis Pori'r y rhestr fel myfyriwr.
Bydd y rhestr ddarllen bellach yn ymddangos fel y bydd i’r myfyrwyr.
I gau hyn, dewiswch y groes yn y pennawd 'Golwg Myfyriwr’ glas ar waelod y sgrin.