Skip to Main Content

iFind Reading (Cymraeg): Gwybodaeth i fyfyrwyr

This page is also available in English

Croeso i iFind Reading

Mae iFind Reading yn ei gwneud yn hawdd i chi gyrchu deunyddiau darllen ac adnoddau’r cwrs sydd eu hangen arnoch.

  • Gallwch chwilio’r rhestr ddarllen
  • Gallwch hidlo’r rhestr yn ôl y math o adnoddau a lefel pwysigrwydd
  • Gallwch allforio eich Rhestr Ddarllen fel dyfyniadau i ddogfen Word neu PDF
  • Gallwch gasglu cyfeiriadau at ddeunyddiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a’u cadw mewn un lle
  • Mae gwybodaeth fyw o ran argaeledd wedi’i chynnwys ar iFind fel bod modd i chi weld a yw llyfr print ar gael i chi ei fenthyg
  • Dolenni at adnoddau wedi’u digideiddio
  • Dolenni at e-adnoddau

Rhyngweithio â’ch Rhestr Ddarllen

Gallwch ddewis y blwch tic ger teitl yr adnoddau i nodi eich bod wedi darllen yr eitem.

Nodi fel wedi'r darllen

Gallwch hefyd wneud nodiadau am yr adnodd yn y maes Nodiadau Preifat er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Gallwch argymell adnodd i ddefnyddwyr eraill y Rhestr drwy ‘ei hoffi.’ Cliciwch ar y teitl a dewis Hoffi.
Mae hyn yn galluogi defnyddwyr eraill i weld pa destunau sy’n arbennig o ddefnyddiol.

Gallwch hefyd ysgrifennu nodyn cyhoeddus am yr eitem fan hyn.

Hoffi

Gallwch ychwanegu sylwadau neu gwestiynau at y Rhestr Ddarllen neu eitem unigol.

Pan fyddwch yn dewis Rhestr Ddarllen neu Eitem, bydd yr opsiwn ar gyfer Trafodaeth Myfyrwyr yn ymddangos yn y panel llywio ar yr ochr dde.

 

Mae modd i chi allforio rhestrau darllen i amryw o fformatau ffeiliau gwahanol.

Agorwch y Rhestr Ddarllen sydd ei hangen arnoch.

Cliciwch ar yr ellipis ‘...’a dewis yr opsiwn Allforio a’r math o ffeil gofynnol.

Allforio

Bydd naidlen yn ymddangos yn gofyn pa ddull llyfryddiaethol rydych yn dymuno ei ddefnyddio i allforio’r dyfyniadau.

allforio

Dewiswch Allforio a bydd y ffeil yn lawrlwytho i’ch dyfais.

Argymell eitem

Mae modd i chi awgrymu adnoddau defnyddiol rydych wedi dod o hyd iddynt a’u hychwanegu at Restr Ddarllen.

I ychwanegu awgrym, ewch i’r dudalen Fy Nghasgliad, chwiliwch am yr eitem a dewis Awgrymu’r eitem hon o dan yr ellipsis.

Awgrymu'r eitem hon

Dewiswch y rhestr ddarllen briodol, a chlicio ar Ychwanegu awgrym.

Adding items from the Web

Cyfeirio! yw’r ffordd hawsaf i ychwanegu eitemau at eich Rhestrau Darllen.

Gallwch ychwanegu adnoddau at eich casgliad wrth i chi bori’r we, a’u rheoli’n ddiweddarach, gan gynnwys adnoddau nad ydynt ar gael ar iFind megis clipiau YouTube.

I osod offer ‘bookmarklet,’ cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin Rhestrau Darllen a dewiswch Cyfeirio!

Cyfeirio

Yna dilynwch y cyfarwyddiadau i lusgo a gollwng nod tudalen Cyfeirio! i’ch bar nodau tudalen / hoff dudalennau.

Cyfeirio

Naidlen Cyfeirio!

Byddwch wedyn yn ei gweld ar eich bar o nodau tudalen.

I ychwanegu eitem rydych yn edrych arni ar hyn o bryd at eich rhestr ddarllen, cliciwch ar Cyfeirio! o’ch nodau tudalen, a bydd naidlen yn ymddangos gyda manylion yr eitem.(Efallai y bydd angen i chi olygu rhai o'r meysydd eich hun os nad yw data'r ffynhonnell yn gyflawn)

Cyfeirio

Os yw’r eitem eisoes ar gael o’r llyfrgell, bydd iFind Reading yn sylwi ar hyn ac yn nodi “covered by your library.”Mae hyn yn berthnasol i lyfrau ac erthyglau!

Gallwch ychwanegu’r dyfyniad at eich casgliad yn iFind Reading, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’w ychwanegu at eich rhestrau yn hwyrach; neu ei ychwanegu’n uniongyrchol at eich rhestr ddarllen drwy glicio ar Restr a dewis y rhestr, yna adran o fewn y rhestr.

Os hoffech ychwanegu’r eitem hon at sawl rhestr, cliciwch ar Ychwanegu ac ailadrodd hyn gyda rhestr arall; fel arall, cliciwch ar Ychwanegu a chau.

Fy Nghasgliad yw eich llyfrgell bersonol o ddyfyniadau. Gallwch ddefnyddio eich casgliad i gadw adnoddau yr hoffech eu cyrchu yn hwyrach. Gall yr adnoddau hyn fod yn unrhyw beth o lyfr, erthygl mewn cyfnodolyn, fideo YouTube neu dudalen we ac ati.

Gallwch fynd at Fy Nghasgliad drwy ddewis y ddolen fy Nghasgliad o’r panel llywio ar yr ochr chwith. Mae’r botwm hwn yn agor Fy Nghasgliad ym mhrif ran eich sgrin. Fan hyn gallwch ychwanegu a dileu eitemau o’ch casgliad.

Yn Fy Nghasgliad, cliciwch ar y botwm Ychwanegu eitem i chwilio ac ychwanegu eitemau. Gallwch hefyd ychwanegu eitemau at eich casgliad yn Fy Nghasgliad gan ddefnyddio’r botwm Cyfeirio! ar eich porwr.

I gadw cofnod o’r eitemau yn eich casgliad personol, ychwanegwch dagiau at eich deunyddiau darllen a’u hidlo. Mae Tagiau a Nodiadau Preifat yn Fy Nghasgliad yn breifat ac ni fydd modd eu gweld os ychwanegir yr eitem at Restr Ddarllen. Mae angen cysylltu unrhyw dag sy’n cynnwys mwy nag un gair gyda chysylltnod neu danlinell.