Gallwch ychwanegu cydweithwyr ar eich rhestrau i weithio arnynt ar y cyd, a gallwch hefyd eich dileu eich hunan o restrau.
Os ydych eisiau caniatáu i aelodau eraill o staff olygu eich rhestr ddarllen, gallwch eu hychwanegu’n Gydweithwyr (Collaborator). Ceir dau opsiwn:
I ychwanegu cydweithwyr, agorwch y rhestr ddarllen ac yn y panel Collaborators ar yr ochr dde, cliciwch ar Rheoli Cydweithwyr .
Rhowch enw neu gyfeiriad e-bost y cydweithwyr yr hoffech eu hychwanegu.
Anfonwch wahoddiad ato drwy glicio ar Anfon Gwahoddiad .Bydd hyn yn anfon e-bost at eich cydweithiwr yn rhoi gwybod iddo ei fod bellach yn gallu golygu’r rhestr hon.
Fel rhagosodiad, gosodir lefel braint i gydweithiwr yn Olygydd. I newid hyn i fod yn Rheolwr, cliciwch ar Rheoli Cydweithwyr yn y tab Collaborators, a newid lefel braint eich cydweithwyr gan ddefnyddio’r gwymplen ger eu henwau.
Os ydych yn gyfarwyddwr neu’n gydweithiwr ar Restr Ddarllen ac nad ydych yn dymuno bod, gallwch ddileu eich hunan o’r rhestr gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau isod.
Dewiswch Rheoli Cydweithwyr ar ochr dde’r dudalen
Gallwch ddileu eich hunan drwy glicio ar y groes ger eich enw.