Gallwch olygu eich rhestr a’r eitemau yn eich rhestrau.
Cliciwch ar restr ddarllen yn Fy Rhestrau i'w hagor a chliciwch Adran Newydd.
Rhowch deitl i'ch adran a disgrifiad dewisol.
Gallwch hefyd nodi dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer pob adran. Os hoffech i fyfyrwyr weld adran benodol rhwng y dyddiadau hyn yn unig, gallwch dicio'r blwch ar gyfer: Adran yn weladwy rhwng y dyddiadau hyn yn unig.
Cliciwch Creu i orffen ychwanegu'r adran.
Gallwch barhau i ychwanegu rhagor o adrannau yn ôl yr angen. Ar ôl ychwanegu'ch adrannau, gallwch newid eu trefn drwy ddefnyddio'r nodwedd llusgo a gollwng.
Yn syml, gallwch lusgo eitemau a’u gollwng mewn rhestr, neu rhwng adrannau mewn rhestr.
Gellir symud eitemau yn hawdd o Restr drwy ddewis y gwymplen opsiynau’r eitem a dewis Dileu Eitem.
Gallwch olygu’r wybodaeth lyfryddiaethol ar gyfer eitemau yn eich rhestrau drwy glicio ar y gwymplen opsiynau a dewis golygu eitem.
Fan hyn gallwch ddiwygio’r math o eitem – er enghraifft drwy nodi pennod y llyfr os oes angen darllen pennod benodol.
Cofiwch gadw ar ôl cwblhau.
Wrth i chi olygu rhestr ddarllen, byddwch yn gweld Cynghorydd Rhestr.
Cliciwch ar Gwneud y rhestr yma yn well i ddangos argymhellion y Cynghorydd Rhestr i wella'ch rhestr ddarllen. Does dim rhaid i chi ddilyn y rhain, ond byddant yn eich helpu i archwilio rhai nodweddion defnyddiol yn iFind Reading.