Ewch i http://ifindreading.swan.ac.uk/ a mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn y Brifysgol.
Fel arall, gallwch gyrchu iFind Reading drwy fewngofnodi i Canvas a chlicio ar y ddolen Rhestr Ddarllen yn y ddewislen ar ochr chwith eich modiwl dewisol.
Cynlluniwyd y canllaw hwn i ddangos i chi sut mae ein gwasanaeth Rhestr Ddarllen iFind Reading ar ei newydd wedd yn gweithio.
Mae’r canllaw yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddod o hyd i’ch rhestrau, eu creu a’u golygu. Defnyddiwch y dolenni ar frig y dudalen neu’r botymau Blaenorol a Nesaf ar waelod y dudalen i lywio’r canllaw.
Diben y Polisi hwn yw pennu canllawiau a chyfrifoldebau wrth greu, darparu a chynnal Rhestrau Darllen.
Mae'r ddogfen isod yn esbonio'r broses o greu a llenwi rhestr ddarllen.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth drwy lywio drwy’r Canllaw Llyfrgell hwn.
Gallwch naill ai edrych ar y rhyngwyneb ‘iFind Reading’ yn Gymraeg neu Saesneg.
I ddewis eich iaith, cliciwch ar y dewis iaith yng nghornel dde uchaf y dudalen.
Gallwch newid maint y ffont a chyferbyniad ar iFind Reading.
Cliciwch ar eich enw defnyddiwr ar ochr dde uchaf y dudalen a dewis y Arlwy Hygyrchedd.
Nam ar y Golwg, Dyslecsia ac Anableddau eraill.
Cysylltwch â Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe i gael gwybodaeth am ddarparu copïau hygyrch.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.