Cliciwch ar Rhestrau Chwilio ar y panel llywio ar yr ochr chwith.
Yma gallwch chwilio yn ôl teitl y rhestr, teitl y modiwl, côd y modiwl neu gyfarwyddwyr y modiwl.
Dewiswch y rhestr ofynnol o blith canlyniadau’r chwiliad.
Gallwch ddewis y botwm Ychwanegu ar frig y dudalen i ddilyn y rhestr hon. Bydd hyn yn ychwanegu’r rhestr at eich tudalen Fy Rhestrau er mwyn ei gwneud yn haws i chi lywio ar ôl hynny.
Dewiswch y ddolen Fy Rhestrau ar y panel llywio ar yr ochr chwith.
Dewiswch + Rhestr newydd.
Bydd hyn yn creu cwymplen lle gallwch ychwanegu teitl a disgrifiad o’ch Rhestr Ddarllen.
(Gallwch hefyd allforio ffeil .lgn fan hyn, os ydych wedi allforio rhestr sy’n bodoli eisoes).
Rhowch deitl i'ch rhestr ddarllen. Dylai hwn fod ar ffurf côd y modiwl ac wedyn y teitl (e.e. ASQ201 Theories and Methods in Social Work). Ychwanegwch ddisgrifiad dewisol a chliciwch Creu.
Dewiswch dempled. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r Templed Rhestr Ddarllen Prifysgol Abertawe, sy'n trefnu'ch rhestr yn ôl yr adrannau canlynol:
Dewiswch dempled Gwag os byddai'n well gennych greu eich strwythur eich hun ar gyfer eich rhestr, e.e. wythnosau addysgu, pynciau, blaenoriaeth darllen, ayb.
Mae'n rhaid i chi gysylltu'ch rhestr â'i modiwl fel y bydd modd i fyfyrwyr ei gweld yn Canvas. Gallwch wneud hyn pan ofynnir i chi neu nes ymlaen, drwy fynd i'r opsiynau rhestr a chlicio Rheoli cysylltiad cwrs.