Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe yn cynnal prosiect Adfywio Rhestrau Darllen i newid y ffordd y defnyddiwn ac edrychwn ar Restrau Darllen. Rydym wedi ceisio dod o hyd i’r hyn mae staff a myfyrwyr yn credu yw pwrpas rhestr ddarllen ac a oes ganddi werth fel offeryn addysgeg. Gwnaethom adolygu ymchwil ddiweddar gan brifysgolion y DU a chynnal grwpiau ffocws gyda staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Yn gyffredinol, mae gan academyddion a myfyrwyr ddisgwyliadau gwahanol o'u rhestrau darllen nhw. Os ydym yn helpu i roi trefn ar ddisgwyliadau, mae potensial i gynyddu boddhad myfyrwyr wrth gyrchu adnoddau a sicrhau ein bod yn darparu adnodd defnyddiol ar gyfer eu dysgu. Dyma rai o’n prif awgrymiadau ar gyfer gwella eich rhestr darllen.
Peidiwch â theimlo’n gaeth i’r templed yn iFindReading. Trefnwch eich rhestr mewn ffordd sy’n gweithio ar gyfer eich modiwl. Ystyriwch fapio’ch deunyddiau darllen i ddeilliannau dysgu, asesiad neu strwythur y modiwl. Gallech hefyd ystyried ychwanegu adrannau newydd neu ddefnyddio tagio i nodi darllen wythnosol.
Yn draddodiadol, mae rhestrau darllen wedi canolbwyntio ar lyfrau, ond gallwch ychwanegu pob math o bethau at eich rhestr. Oes fideos neu bodlediadau am eich pwnc? Oes arbenigwr yn eich maes sy’n ysgrifennu blog da?
Esboniwch pam y mae pob eitem ar eich rhestr a sut rydych yn disgwyl i fyfyrwyr ymwneud â’r deunydd. Rhowch wybod i fyfyrwyr pa adnoddau sy’n dda am feithrin dealltwriaeth sylfaenol o’r pwnc a pha rai sy’n ymdrin â materion uwch.
Gall y llyfrgell gynhyrchu copïau digidol o gynnwys printiedig y llyfrgell fel y gall eich myfyrwyr elwa o fynediad ar-lein i ddeunyddiau darllen y mae galw mawr amdanynt. Er mwyn cydymffurfio â Thrwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA), mae’n rhaid i staff addysgu lanlwytho eu copïau eu hunain o gynnwys cyhoeddedig i Canvas neu lwyfannau dysgu ar-lein eraill. Ceir gwybodaeth bellach ar y dudalen Cais am Ddigido y canllaw hwn.
Mae rhestrau darllen sy’n gysylltiedig â deilliannau dysgu ac asesu yn ennyn diddordeb myfyrwyr. Cyfeiriwch at eich rhestr ddarllen mewn darlithoedd a seminarau. Ychwanegwch adnoddau newydd/amserol wrth iddynt ddod ar gael. Allwch chi wneud eich rhestr yn rhyngweithiol? A fyddai’n briodol i fyfyrwyr awgrymu adnoddau i’w hychwanegu at y rhestr.
Gallwch osgoi creu ystrydebau a thuedd ddiduedd o ran grwpiau a dangynrychiolir drwy wella eu cynrychiolaeth yn eich rhestr ddarllen. Dyma ragor o wybodaeth a chyngor ymarferol ar amrywio eich tudalen rhestr ddarllen.