Skip to Main Content

iFind Reading (Cymraeg): Argaeledd ebook

This page is also available in English

Pam na all y Llyfrgell gael gafael ar e-lyfr?

Tra ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i fersiwn electronig, fel pob llyfrgell academaidd, rydym yn darganfod nad yw rhai llyfrau ar gael ar ffurf electronig, neu nid ydynt ar gael i’w prynu gan lyfrgelloedd, hyd yn oed pan fo fersiwn ar gael i’w defnyddio gan unigolyn.Hefyd mae rhai e-lyfrau’n ddrud iawn ac felly mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o gyfyngiadau ariannol.Mae llawer o fodelau trwyddedu gwahanol hefyd, ac mae angen i ni ystyried y rhain wrth brynu.

Isod ceir rhai o’r cyfyngiadau rydym ni’n eu hwynebu wrth geisio dod o hyd i ddeunydd ar eich cyfer:

- Mae rhai cyhoeddwyr yn gwerthu eu e-lyfrau i unigolion yn unig.

Efallai byddwch chi’n dod o hyd i wefannau sy’n dangos bod e-lyfr ar gael. Fodd bynnag, caiff y rhain eu gwerthu i unigolion yn uniongyrchol er mwyn iddynt eu cael drwy eu cyfrifon eu hun, er enghraifft, e-lyfrau Kindle neu Kobo.

Nid yw llyfrgelloedd yn gallu prynu’r e-lyfrau hyn oherwydd eu bod nhw wedi’u trwyddedu i’r unigolyn a’u prynodd nhw, ac ni ellir eu rhannu gyda neb arall.

Mae angen i’r Llyfrgell brynu e-lyfrau sydd wedi’u trwyddedu gan y cyhoeddwr er mwyn i Lyfrgelloedd eu rhannu gyda’u defnyddwyr. Mae’r rhain ar gael i Lyfrgelloedd gan ystod o gyflenwyr, ac mae’r model mynediad yn amrywio’n ôl y cyhoeddwr.Yn anffodus, ni fydd popeth sydd ar gael i’w brynu gan unigolyn wedi’i drwyddedu i’w brynu gan Lyfrgell.  

Nid yw rhai cyhoeddwyr yn trwyddedu eu e-lyfrau i’w gwerthu yn y DU.

Gallai e-lyfr fod ar gael, ond nid yw’r e-lyfr wedi cael ei drwyddedu i’w brynu gan lyfrgelloedd yn y DU.Efallai bydd y cyhoeddwr yn rhyddhau’r e-lyfr i’w ddosbarthu yn y DU yn hwyrach, neu ddim o gwbl, neu efallai ei fod wedi cytuno i werthu’r e-lyfr gan ddefnyddio’r model e-Werslyfrau yn y DU.

e-Werslyfrau

Caiff pris rhai e-lyfrau, yn enwedig e-werslyfrau, ei bennu gan nifer y myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gwrs neu fodiwl.Mae’r rhain ar gael dim ond i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar fodiwl(au) penodol, a phrynir mynediad iddynt am gyfnod penodol, sef un flwyddyn fel arfer.

Ni fydd neb nad ydynt yn rhan o’r modiwl(au) yn cael mynediad i’r e-werslyfr sydd wedi’i brynu ar gyfer y modiwl hwnnw.Pan fydd y cyfnod penodol yn dod i ben, ni fydd mynediad i’r e-werslyfr, oni bai ei fod yn cael ei brynu eto.

Mae tri phrif gyflenwr sy’n cynnig y model hwn, BibliuKortext a Vital Source. Mae Kortext a Vital Source yn gwerthu’n uniongyrchol i fyfyrwyr hefyd.

Mae’r model mynediad hwn yn tueddu i fod yn ddrud iawn, ac oherwydd bod y Brifysgol yn colli mynediad i’r adnodd ar ôl y cyfnod penodol, mae’n rhaid i ni ystyried cynaliadwyedd y model yn ofalus.

Nid yw rhai modelau trwyddedu’n ymarferol nac yn ddefnyddiol.

Mae ystod eang o fodelau trwyddedu y mae cyhoeddwyr yn eu cynnig sy’n cyfyngu ar y ffordd y gellir defnyddio’r e-lyfr.Bydd pob trwydded e-lyfr, gan eithrio trwyddedau DRM-Free (Dim Rheoli Hawliau Digidol), yn cyfyngu ar nifer y tudalennau y gellir eu lawrlwytho neu’u hargraffu i’w defnyddio’n hwyrach.

Trwydded un defnyddiwr/ Trwydded tri defnyddiwr

Mae’r ddwy yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n gallu cael mynediad i’r e-lyfr ar yr un pryd.Mae trwyddedau sy’n cyfyngu ar y defnyddwyr yn iawn os oes ychydig iawn o bobl y bydd angen iddynt gael mynediad i’r e-lyfr ar yr un pryd, ond nid ydynt yn ddefnyddiol i grwpiau mawr y bydd angen iddynt gael mynediad i’r e-lyfr ar yr un pryd.Os bydd angen i ddosbarth o 100 o fyfyrwyr i gyd ddarllen pennod o e-lyfr ymhen wythnos, a bydd trwydded i dri defnyddiwr yn unig, ni fydd rhai myfyrwyr yn cael mynediad pan fydd ei angen arnynt.

Modelau credyd

Bob tro bydd rhywun yn gweld e-lyfr, bydd yn defnyddio credyd.Mae rhai cyflenwyr e-lyfrau’n gweithio’n ôl model credyd yn unig, gan gyflenwi 100 o gredydau neu ragor.Gellir defnyddio credydau’n gyflym iawn os oes angen i nifer fawr o bobl ddefnyddio’r e-lyfr, neu os oes angen i nifer fach ddefnyddio’r e-lyfr yn aml.Os oes 100 o fyfyrwyr mewn dosbarth, ac maent i gyd yn defnyddio e-lyfr sydd â thrwydded 300 o gredydau, mae’r 100 o fyfyrwyr i gyd yn gallu cael mynediad i’r e-lyfr ar yr un pryd (gan ddefnyddio 100 o gredydau), ond unwaith bod y 300 o gredydau’n cael eu defnyddio ni fydd neb yn gallu cael mynediad eto, oni bai fod trwydded arall yn cael ei phrynu.

Trwyddedau diderfyn a rhai Dim Rheoli Hawliau Digidol

Bydd rhai cyhoeddwyr yn gwerthu trwyddedau diderfyn a fydd yn caniatáu i unrhyw niferoedd gael mynediad iddynt mor aml ag y maent eisiau.Mae eraill yn cynnig Trwyddedau Dim Rheoli Hawliau Digidol sy’n caniatáu’r un mynediad â thrwydded Ddiderfyn ond hefyd maent yn caniatáu i rywun lawrlwytho a chadw cymaint o’r e-lyfr ag y mae eisiau, sy’n wych ar gyfer darllen all-lein neu ar gyfer y rheiny nad ydynt yn ffafrio darllen o sgrîn.Mae Trwyddedau Diderfyn a Dim Rheoli Hawliau Digidol yn gallu bod yn ddrutach.

Mae angen ystyried yr holl fodelau amrywiol hyn wrth brynu e-lyfrau.

Mae e-lyfrau’n gallu bod yn ddrud iawn.

Efallai byddwch chi’n gweld e-lyfr sydd ar gael i’w brynu gan unigolyn am £30, ond bydd y pris y bydd y Llyfrgell yn ei dalu’n fwy na’r pris y bydd unigolyn yn ei dalu bron bob tro.Mae rhai e-lyfrau’n gallu costio cannoedd, a hyd yn oed filoedd o bunnoedd.Yn anffodus, nid oes fformiwla y gellir ei ddefnyddio i ddyfalu’r pris efallai byddai Llyfrgell yn gorfod ei dalu er mwyn cael mynediad i e-lyfr.Mae cyhoeddwyr yn gwneud hyn er mwyn diogelu eu hunain rhag colli incwm, gan dybio na fyddant yn gallu gwerthu copi o’r llyfr i fyfyrwyr neu staff y brifysgol os bydd Llyfrgell yn prynu’r e-lyfr.

Nid yw rhai e-lyfrau ar gael i’w prynu gan Lyfrgelloedd fel llyfr unigol

Caiff rhai llyfrau eu gwerthu dim ond fel rhan o becyn o e-lyfrau.Gallai’r pecynnau hyn fod yn gasgliad ar sail pwnc, lle bydd yn rhaid i’r Llyfrgell brynu’r casgliad cyfan, neu weithiau gellir creu casgliad ar archeb, ond byddai’n rhaid i’r Llyfrgell brynu nifer dynodedig o e-lyfrau gan gasgliad er mwyn cael mynediad i lyfr penodol.

Mae’r casgliadau hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol, ond mae’r gost o’u prynu yn gallu bod yn sylweddol.Bydd y Llyfrgell yn prynu casgliadau dim ond pan fo’n amlwg y caiff yr holl e-lyfrau sy’n rhan o’r casgliad eu defnyddio’n dda.

Gofyn am e-lyfr

Rydym ni bob amser yn hapus i archwilio’r posibilrwydd o brynu e-lyfr, felly cysylltwch â’ch Tîm Pwnc yn y Llyfrgell gyda’r manylion er mwyn inni eu hystyried.(https://libguides.swansea.ac.uk/academicstaff/contacts)

Bydd staff y llyfrgell yn chwilio i weld a oes e-lyfr ar gael, beth bydd y cost, a chyfyngiadau ar fynediad.

Gofynnwch os oes cwestiynau gennych.

[Addaswyd gyda chaniatâd caredig gan Lyfrgell Prifysgol Sant Andreas:https://libguides.st-andrews.ac.uk/ebook_collections/availability]