Skip to Main Content

iFind Reading (Cymraeg): Ychwanegu eitemau

This page is also available in English

Ychwanegu eitemau at eich rhestr

Mae gan iFind Reading sawl ffordd o fewnforio cynnwys i’ch Rhestrau Darllen:

  • Gallwch gasglu eitemau pan fyddwch yn chwilio’r we neu adnoddau ar-lein a’u hychwanegu at restr yn ddiweddarach.
  • Gallwch hefyd weithio’n uniongyrchol o’ch Rhestr Ddarllen i chwilio a mewnforio eitemau o iFind i’ch rhestr.

Adding items from the Web

Cyfeirio! yw’r ffordd hawsaf i ychwanegu eitemau at eich Rhestrau Darllen.

Gallwch ychwanegu adnoddau at eich casgliad wrth i chi bori’r we, a’u rheoli’n ddiweddarach, gan gynnwys adnoddau nad ydynt ar gael ar iFind megis clipiau YouTube.

I osod offer ‘bookmarklet,’ cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin Rhestrau Darllen a dewiswch Cyfeirio!

Cyfeirio

Yna dilynwch y cyfarwyddiadau i lusgo a gollwng nod tudalen Cyfeirio! i’ch bar nodau tudalen / hoff dudalennau.

Cyfeirio

Naidlen Cyfeirio!

Byddwch wedyn yn ei gweld ar eich bar o nodau tudalen.

I ychwanegu eitem rydych yn edrych arni ar hyn o bryd at eich rhestr ddarllen, cliciwch ar Cyfeirio! o’ch nodau tudalen, a bydd naidlen yn ymddangos gyda manylion yr eitem.(Efallai y bydd angen i chi olygu rhai o'r meysydd eich hun os nad yw data'r ffynhonnell yn gyflawn)

Cyfeirio

Os yw’r eitem eisoes ar gael o’r llyfrgell, bydd iFind Reading yn sylwi ar hyn ac yn nodi “covered by your library.”Mae hyn yn berthnasol i lyfrau ac erthyglau!

Gallwch ychwanegu’r dyfyniad at eich casgliad yn iFind Reading, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’w ychwanegu at eich rhestrau yn hwyrach; neu ei ychwanegu’n uniongyrchol at eich rhestr ddarllen drwy glicio ar Restr a dewis y rhestr, yna adran o fewn y rhestr.

Os hoffech ychwanegu’r eitem hon at sawl rhestr, cliciwch ar Ychwanegu ac ailadrodd hyn gyda rhestr arall; fel arall, cliciwch ar Ychwanegu a chau.

Fy Nghasgliad yw eich llyfrgell bersonol o ddyfyniadau. Gallwch ddefnyddio eich casgliad i gadw adnoddau yr hoffech eu cyrchu yn hwyrach. Gall yr adnoddau hyn fod yn unrhyw beth o lyfr, erthygl mewn cyfnodolyn, fideo YouTube neu dudalen we ac ati.

Gallwch fynd at Fy Nghasgliad drwy ddewis y ddolen fy Nghasgliad o’r panel llywio ar yr ochr chwith. Mae’r botwm hwn yn agor Fy Nghasgliad ym mhrif ran eich sgrin. Fan hyn gallwch ychwanegu a dileu eitemau o’ch casgliad.

Yn Fy Nghasgliad, cliciwch ar y botwm Ychwanegu eitem i chwilio ac ychwanegu eitemau. Gallwch hefyd ychwanegu eitemau at eich casgliad yn Fy Nghasgliad gan ddefnyddio’r botwm Cyfeirio! ar eich porwr.

I gadw cofnod o’r eitemau yn eich casgliad personol, ychwanegwch dagiau at eich deunyddiau darllen a’u hidlo. Mae Tagiau a Nodiadau Preifat yn Fy Nghasgliad yn breifat ac ni fydd modd eu gweld os ychwanegir yr eitem at Restr Ddarllen. Mae angen cysylltu unrhyw dag sy’n cynnwys mwy nag un gair gyda chysylltnod neu danlinell.

Ychwanegu eitemau o iFind

Cliciwch ar yr eicon ‘+’ i ychwanegu eitem at eich Rhestr Ddarllen tra byddwch ar iFind Reading.

Fan hyn gallwch bori drwy holl adnoddau’r llyfrgell (gan gynnwys erthyglau) gan ddefnyddio ‘Chwiliad Syml’ neu ‘Chwilio Manwl.’

chwilio ifind

Unwaith y bydd eich canlyniadau’n ymddangos, gallwch lusgo a gollwng eitemau i’r Rhestr Ddarllen.

Neu gallwch ddewis eitem a bydd opsiynau ychwanegol yn ymddangos. Dewiswch Adran o Restr a chlicio ar Ychwanegu at Restr.

Nodiadau

Gallwch roi rhagor o wybodaeth drwy glicio ar eitem ac ychwanegu nodyn.

  • Nodyn choeddus- Gall unrhyw un edrych ar nodiadau cyhoeddus, a byddant yn ymddangos o dan fanylion yr eitem ar eich rhestr.
  • Nodyn preifat- Chi yn unig fydd yn gallu gweld nodiadau preifat.