Skip to Main Content

iFind Reading: Gwybodaeth am iFind Reading

This page is also available in English

iFind Reading

Mae “ifind reading” wedi diweddaru ei rhyngwyneb defnyddiwr. Mae’r holl swyddogaethau a’r canllawiau yn parhau yr un fath, ond byddwch yn gweld trefniant a golwg gwahanol. Byddwn yn diweddaru ein canllawiau a’n fideos yn fuan i adlewyrchu golwg y rhyngwyneb newydd. 

Bydd eich llyfrgellwyr yn cynnig cyfleoedd hyfforddi - cysylltwch â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau

 

 

Sut i gyrchu iFind Reading

Ewch i iFindReading a mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn y Brifysgol.

Fel arall, gallwch gyrchu iFind Reading drwy fewngofnodi i Canvas a chlicio ar y ddolen Rhestr Ddarllen yn y ddewislen ar ochr chwith eich modiwl dewisol. 

Croeso

iFind Reading Logo

Cynlluniwyd y canllaw hwn  i ddangos i chi sut mae ein gwasanaeth Rhestr Ddarllen iFind Reading ar ei newydd wedd yn gweithio.

Mae’r canllaw yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddod o hyd i’ch rhestrau, eu creu a’u golygu. Defnyddiwch y dolenni ar frig y dudalen neu’r botymau Blaenorol a Nesaf ar waelod y dudalen i lywio’r canllaw.

iFind Reading List Guide

Mae'r ddogfen isod yn esbonio'r broses o greu a llenwi rhestr ddarllen.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth drwy lywio drwy’r Canllaw Llyfrgell hwn.

Gweld yn Gymraeg neu Saesneg

Gallwch naill ai edrych ar y rhyngwyneb ‘iFind Reading’ yn Gymraeg neu Saesneg.

I ddewis eich iaith, cliciwch ar y dewis iaith yng nghornel dde uchaf y dudalen.

Hygyrchedd

Gallwch newid maint y ffont a chyferbyniad ar iFind Reading.

Cliciwch ar eich enw defnyddiwr ar ochr dde uchaf y dudalen a dewis y Arlwy Hygyrchedd.

Nam ar y Golwg, Dyslecsia ac Anableddau eraill.

Cysylltwch â Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe  i gael gwybodaeth am ddarparu copïau hygyrch.

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence