Mae iFind Reading yn defnyddio system rhestrau darllen Leganto. Isod ceir fideo byr a thaflen gan Leganto i'ch helpu i greu eich rhestrau.
Mae gan iFind Reading sawl ffordd o fewnforio cynnwys i’ch Rhestrau Darllen:
I ychwanegu eitem at eich Rhestr Ddarllen tra yn iFind Reading cliciwch ar y botwm Ychwanegu, yna dewiswch Chwilio'r llyfrgell.
Fan hyn gallwch bori drwy holl adnoddau’r llyfrgell (gan gynnwys erthyglau) gan ddefnyddio ‘Chwiliad Syml’ neu ‘Chwiliad uwch.’
Gallwch chwilio yn ôl teitl, awdur, allweddair, neu unrhyw gyfuniad o dermau chwilio i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n edrych amdano. Mae casgliad eich llyfrgell, sy'n cynnwys llyfrau, penodau llyfrau, erthyglau, fideos a mwy, yn lle gwych i ddechrau oherwydd mae'r rhain yn adnoddau academaidd o ansawdd uchel y bydd eich myfyrwyr yn gallu cael mynediad hawdd atynt.
Ar ôl i chi redeg eich chwiliad, gallwch hidlo'ch canlyniadau i Fath penodol, megis erthyglau neu benodau llyfrau, neu yn ôl opsiynau Argaeledd fel Mynediad Agored neu Testun Llawn ar-lein. Wrth sgrolio i lawr, gallwch weld y canlyniadau perthnasol, gan gynnwys manylion ynghylch a yw eitem ar gael mewn fformat ffisegol neu electronig. Pan fyddwch chi'n dod o hyd i eitem rydych chi am ei hychwanegu, gallwch chi ei llusgo a'i gollwng i'r adran a ddymunir. Gallwch hefyd glicio ar yr eitem, nodi'r Adran, a chlicio Ychwanegu. Mae'r eitemau hyn bellach wedi'u hychwanegu at y rhestr.
Unwaith y bydd eich canlyniadau’n ymddangos, gallwch lusgo a gollwng eitemau i’r Rhestr Ddarllen.
Neu gallwch ddewis eitem a bydd opsiynau ychwanegol yn ymddangos. Dewiswch Adran o Restr a chlicio ar Ychwanegu.
Cite it! yw’r ffordd hawsaf i ychwanegu eitemau at eich Rhestrau Darllen.
Gallwch ychwanegu adnoddau at eich casgliad wrth i chi bori’r we, a’u rheoli’n ddiweddarach, gan gynnwys adnoddau nad ydynt ar gael ar iFind megis clipiau YouTube.
I osod offer Cite it! cliciwch ar yr eicon gosodiadau yng nghornel dde uchaf y sgrin Rhestrau Darllen a dewiswch Cite it!
Yna dilynwch y cyfarwyddiadau i lusgo a gollwng offer Cite it! i’ch bar nodau tudalen / hoff dudalennau.
Byddwch wedyn yn ei gweld ar eich bar o nodau tudalen.
I ychwanegu eitem rydych yn edrych arni ar hyn o bryd at eich rhestr ddarllen, cliciwch ar Cite it! o’ch nodau tudalen, a bydd naidlen yn ymddangos gyda manylion yr eitem.(Efallai y bydd angen i chi olygu rhai o'r meysydd eich hun os nad yw data'r ffynhonnell yn gyflawn)
Gallwch ychwanegu’r dyfyniad at eich Ffefrynnau yn iFind Reading, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’w ychwanegu at eich rhestrau yn hwyrach; neu ei ychwanegu’n uniongyrchol at eich rhestr ddarllen drwy glicio ar Restr a dewis y rhestr, yna adran o fewn y rhestr.
Ffefrynnau yw eich llyfrgell bersonol o ddyfyniadau. Gallwch ddefnyddio eich ffefrynnau i gadw adnoddau yr hoffech eu cyrchu yn hwyrach. Gall yr adnoddau hyn fod yn unrhyw beth o lyfr, erthygl mewn cyfnodolyn, fideo YouTube neu dudalen we ac ati.
Gallwch fynd at Ffefrynnau drwy ddewis y ddolen Ffefrynnau o’r panel llywio ar yr ochr chwith. Mae’r botwm hwn yn agor Ffefrynnau ym mhrif ran eich sgrin. Fan hyn gallwch ychwanegu a dileu eitemau o’ch casgliad.
Yn Ffefrynnau, cliciwch ar y botwm Ychwanegu i chwilio ac ychwanegu eitemau. Gallwch hefyd ychwanegu eitemau at eich casgliad yn Ffefrynnau gan ddefnyddio’r botwm Cite it! ar eich porwr.
I gadw cofnod o’r eitemau yn eich ffefrynnau, ychwanegwch dagiau at eich deunyddiau darllen a’u hidlo. Mae Tagiau a Nodiadau Preifat yn Ffefrynnau yn breifat ac ni fydd modd eu gweld os ychwanegir yr eitem at Restr Ddarllen. Mae angen cysylltu unrhyw dag sy’n cynnwys mwy nag un gair gyda chysylltnod neu danlinell.