Os ydych eisiau caniatáu i aelodau eraill o staff olygu eich rhestr ddarllen, gallwch eu hychwanegu’n Gydweithwyr. Ceir dau opsiwn:
I ychwanegu cydweithwyr, agorwch y rhestr ddarllen a dewiswch y botwm Gwybodaeth Rhestr ar y brig, yna cliciwch ar Rheoli cydweithwyr.
Cliciwch ar Ychwanegu cydweithredwyr, rhowch enw neu gyfeiriad e-bost y cydweithwyr yr hoffech eu hychwanegu.
Cliciwch ar Cadw. Bydd hyn yn anfon e-bost at eich cydweithiwr yn rhoi gwybod ei fod bellach yn gallu golygu’r rhestr hon
Fel rhagosodiad, gosodir lefel braint i gydweithiwr yn Gallu golygu'r rhestr. I newid hyn i fod yn Perchennog rhestr, cliciwch ar Rheoli Cydweithwyr yn y tab Gwybodaeth rhestr, a newid lefel braint eich cydweithwyr gan ddefnyddio’r gwymplen ger eu henwau.
Gallwch ychwanegu cydweithwyr ar eich rhestrau i weithio arnynt ar y cyd, a gallwch hefyd eich dileu eich hunan o restrau.
Os ydych yn cydweithiwr ar Restr Ddarllen ac nad ydych yn dymuno bod, gallwch ddileu eich hunan o’r rhestr gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau isod.