Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn eich croesawu i'n Canllaw i Gymorth Academaidd. Ynddo, gwelwch chi wybodaeth ar gyfer gwasanaethau a chefnogaeth allweddol, ynghyd â manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth.
Mae gan Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe Lyfrgellwyr Cyfadran a Llyfrgellwyr Pwnc cymwysedig gan ddarparu ymgysylltu rhwng staff y Llyfrgell a myfyrwyr a chymorth ar gyfer anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol. Rydyn ni’n arbenigwyr mewn ymgorffori gwybodaeth a llythrennedd digidol yn y cwricwlwm a chynnig hyfforddiant pwrpasol ac 1 i 1 i fyfyrwyr a staff. Gallwn ni eich arwain chi o ran creu a chynnal a chadw eich rhestrau darllen a helpu i sicrhau bod y Llyfrgell yn caffael adnoddau priodol er mwyn gwella dysgu eich myfyrwyr.
Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd a Phwnc yw eich partneriaid wrth alluogi'ch myfyrwyr i gyflawni’r gorau y gallan nhw’n academaidd. Rydym hefyd yma i chi fel academydd, yn cefnogi'ch anghenion yn ystod eich llwybr gyrfa a'ch dilyniant ymchwil.
22 Gorffenaf 2023 Mix and Match
https://libguides.swansea.ac.uk/StaffAcademaidd/Hyfforddiant
Bellach mae yna dîm newydd rheng flaen ar gyfer Gwasanaethau TG. Am gymorth gydag ymholiadau TG, cofnodwch alwad trwy'r porth ServiceNow os gwelwch yn dda.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.