Mae iFind Reading yn defnyddio system rhestr ddarllen Leganto. Isod mae fideo byr a thaflen a gynhyrchwyd gan Leganto i'ch helpu i greu eich rhestrau.
Gallwch olygu’r wybodaeth lyfryddiaethol ar gyfer eitemau yn eich rhestrau drwy glicio ar y gwymplen opsiynau a dewis golygu eitem.
Fan hyn gallwch ddiwygio’r math o eitem – er enghraifft drwy nodi pennod y llyfr os oes angen darllen pennod benodol.
Cliciwch Cadw pan fydd wedi'i gwblhau
Symud eitemau - Yn syml, gallwch lusgo eitemau a’u gollwng mewn rhestr, neu rhwng adrannau mewn rhestr.
Dileu eitemau - Gellir tynnu eitemau o Restr yn hawdd trwy ddewis y ddewislen opsiynau eitem a dewis Dileu Eitem.
Os ydych eisiau caniatáu i aelodau eraill o staff olygu eich rhestr ddarllen, gallwch eu hychwanegu’n Gydweithwyr. Ceir dau opsiwn:
I ychwanegu cydweithwyr, agorwch y rhestr ddarllen a dewiswch y botwm Gwybodaeth Rhestr ar y brig, yna cliciwch ar Rheoli cydweithwyr.
Cliciwch ar Ychwanegu cydweithredwyr, rhowch enw neu gyfeiriad e-bost y cydweithwyr yr hoffech eu hychwanegu.
Cliciwch ar Cadw. Bydd hyn yn anfon e-bost at eich cydweithiwr yn rhoi gwybod ei fod bellach yn gallu golygu’r rhestr hon
Fel rhagosodiad, gosodir lefel braint i gydweithiwr yn Gallu golygu'r rhestr. I newid hyn i fod yn Perchennog rhestr, cliciwch ar Rheoli Cydweithwyr yn y tab Gwybodaeth rhestr, a newid lefel braint eich cydweithwyr gan ddefnyddio’r gwymplen ger eu henwau.