Defnyddir Rhestrau Darllen iFind gan y Llyfrgell i nodi adnoddau sydd eu hangen ar gyfer casgliad y llyfrgell. Gall academyddion argymell prynu eitemau nad ydynt ar gael yn y Llyfrgell ar hyn o bryd trwy ychwanegu manylion adnoddau at Restrau Darllen, wedi'u tagio naill ai fel Hanfodol neu Argymhellir. Bydd y Llyfrgell yn ymchwilio i argaeledd ac yn penderfynu a ellir prynu'r eitem yn unol â'r ystyriaethau cyllidebol. Bydd y Llyfrgell yn prynu e-fersiynau o adnoddau fel rhagosodiad.
Gallwch roi rhagor o wybodaeth drwy glicio ar eitem ac ychwanegu nodyn.