Skip to Main Content

iFind Reading

This page is also available in English

Creu rhestr o'r dechrau yn Canvas

    • Mewngofnodwch i Canvas a chlicio ar eich modiwl. 
    • Cliciwch ar Rhestr Ddarllen yn y ddewislen ar yr ochr chwith.
    • Unwaith eich bod chi'n clicio ar y ddolen ar gyfer eich Rhestr Ddarllen, bydd gennych chi ddau opsiwn: naill ai creu rhestr newydd o'r dechrau neu greu rhestr o restr sydd eisoes ar gael.

Creu rhestr o'r dechrau yn Canvas:

  • Os nad yw eisoes yno, llenwch deitl y rhestr. Gallwch chi ychwanegu disgrifiad dewisol a nodi bod cysylltiad â’r rhestr o Canvas. Unwaith eich bod chi'n barod, cliciwch Nesaf.
  • Nawr, gallwch chi greu adrannau rhestr. Cliciwch y gwymplen i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi. Pan fyddwch chi'n dewis un o'r opsiynau, byddwch chi'n gweld rhagolwg o strwythur y rhestr isod. Gan ddibynnu ar ba opsiwn rydych chi'n ei ddewis, gallwch chi hefyd deilwra nifer yr adrannau. Gallwch chi olygu’r adrannau'n nes ymlaen os bydd angen i chi wneud hynny. Unwaith bod gennych chi strwythur y rhestr yr hoffech chi ei ddefnyddio fel man cychwyn, cliciwch ar yr opsiwn Creu rhestr.
  • I ychwanegu adran at eich rhestr, cliciwch  Ychwanegu, enwch eich adran a nodwch ddisgrifiad a dyddiadau os hoffech chi wneud hynny a dewiswch ble rydych chi am i'r adran hon fynd – yn gyntaf, yn olaf neu ar ôl adran benodol. A chliciwch  Ychwanegu. Parhewch i ychwanegu eich holl adrannau yn yr un ffordd.
  • Gallwch chi newid trefn yr adrannau'n hawdd pan fyddant yn cau. Os bydd angen hynny, cliciwch y botwm i reoli'r adrannau i'w cau, yna llusgwch yr adrannau a'u gollwng gan ddefnyddio'r nodwedd lusgo. Agorwch restr eiconau dewislen yr adran i weld pa weithrediadau y gallwch chi eu gwneud, gan gynnwys golygu, copïo neu ddileu adran.

Creu rhestr o restr sydd eisoes ar gael yn Canvas

Creu rhestr o restr sydd eisoes ar gael yn Canvas:

  • Pan fyddwch chi'n dewis yr opsiwn hwn, byddwch chi'n gweld rhestr o'ch rhestrau sydd ar gael. Os bydd angen hynny, gallwch chi chwilio am restrau ychwanegol. Unwaith eich bod chi wedi dod o hyd i restr rydych chi am ei defnyddio, bydd gennych chi ddau opsiwn: Os ydych chi'n un o berchnogion y rhestr, gallwch chi gysylltu cwrs â'r rhestr hon, felly bydd y rhestr hon sydd eisoes ar gael - hyd yn oed os yw hi eisoes wedi'i chysylltu â chwrs - wedi'i chysylltu â'ch cwrs chi bellach hefyd.
  • Yr opsiwn arall yw dyblygu'r rhestr, a fydd yn creu copi o'r rhestr a'i chysylltu â'r cwrs hwn. Gallwch chi newid y teitl ac ychwanegu disgrifiad. Pan fydd hyn wedi'i wneud, cliciwch Creu rhestr. Bydd y rhestr bellach wedi'i chysylltu â'r cwrs rydych chi'n gweithio arno yn Canvas. Nawr, gallwch chi wneud newidiadau os hoffech chi wneud hynny.

Creu rhestr pan fyddwch chi'n mewngofnodi'n uniongyrchol i iFind Reading (heb ddefnyddio dolen yn Canvas)

Creu rhestr pan fyddwch chi'n mewngofnodi'n uniongyrchol i iFind Reading (heb ddefnyddio dolen yn Canvas):

  • I greu rhestr, cliciwch y botwm i greu rhestr. Nodwch deitl a disgrifiad dewisol. O'r botwm i gysylltu â chwrs, gallwch chi ddewis y cwrs yr hoffech chi ei gysylltu â'r rhestr hon. Chwiliwch am eich cwrs yn ôl enw'r cwrs neu gôd y cwrs a dewiswch y cwrs perthnasol. Os nad ydych chi'n gwybod neu os nad ydych chi am wneud y cam hwn eto, gallwch chi ei hepgor am y tro a'i wneud wedyn. Cliciwch Nesaf. Gallwch chi greu adrannau a chlicio i greu rhestr.
  • Gallwch chi ychwanegu cwrs ar unrhyw adeg drwy glicio ar y botwm i'w chysylltu â chwrs. Yn yr adran i gysylltu rhestr â chwrs, chwiliwch a dewis y cwrs rydych chi am ei gysylltu. A chadwch eich newidiadau. Os oes angen i chi wneud newidiadau'n ddiweddarach o ran cysylltu'r rhestr â chyrsiau, cliciwch y botwm i reoli cysylltu'r rhestr â chyrsiau yn newislen y rhestr.