Skip to Main Content

iFind Reading

This page is also available in English

Creu adrannau yn eich rhestr

Cliciwch ar restr ddarllen yn Fy Rhestrau i'w hagor a chliciwch Adran Newydd.

Rhowch deitl i'ch adran a disgrifiad dewisol.

Gallwch hefyd nodi dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer pob adran. Os hoffech i fyfyrwyr weld adran benodol rhwng y dyddiadau hyn yn unig, gallwch clicio'r blwch ar gyfer: Dangos yr adran ar y dyddiadau yma'n unig.

Cliciwch Ychwanegu i orffen ychwanegu'r adran. Gallwch barhau i ychwanegu rhagor o adrannau yn ôl yr angen.

Golygu eitemau

Gallwch olygu’r wybodaeth lyfryddiaethol ar gyfer eitemau yn eich rhestrau drwy glicio ar y gwymplen opsiynau a dewis golygu eitem.

Fan hyn gallwch ddiwygio’r math o eitem – er enghraifft drwy nodi pennod y llyfr os oes angen darllen pennod benodol.

Cliciwch Cadw pan fydd wedi'i gwblhau

Symud eitemau - Yn syml, gallwch lusgo eitemau a’u gollwng mewn rhestr, neu rhwng adrannau mewn rhestr.

Dileu eitemau - Gellir tynnu eitemau o Restr yn hawdd trwy ddewis y ddewislen opsiynau eitem a dewis Dileu Eitem.