Skip to Main Content

iFind Reading

This page is also available in English

Croeso

iFind Reading Logo

Bydd y canllaw hwn yn rhoi cyfarwyddyd i chi ar sut i ddefnyddio ein meddalwedd rhestr ddarllen, iFind Reading.

Gallwch dod o hyd i ragor o gyngor ar sut i greu rhestr ddarllen afaelgar a chynhwysol ar ein canllaw i Staff Academaidd. Yno byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am wella ymgysylltiad addysgegol gyda'r eitemau yn eich rhestr ddarllen a chamau ymarferol i'ch helpu i greu rhestrau darllen amrywiol a chynhwysol.

Trosolwg o'r Rhestr Ddarllen

  • Trosolwg:
    • iFind Reading yw offeryn rheoli rhestrau darllen y Brifysgol. Gall academyddion greu a chyhoeddi rhestrau darllen modiwlau a rhaglenni yn hawdd sy'n rhoi mynediad i'w myfyrwyr i adnoddau cwrs hanfodol i gyfoethogi eu dysgu.
    • Mae iFind Reading yn darparu llwyfan i gynnwys ystod eang o adnoddau i’ch rhestrau darllen, o fersiynau ffisegol ac e-fersiynau o gasgliadau llyfrau a chyfnodolion y Llyfrgell i benodau wedi’u digideiddio o lyfrau yn ogystal â dolenni i fideos a phodlediadau ar-lein.
    • Mae iFind Reading wedi’i integreiddio’n llawn i iFind, catalog y Llyfrgell, sy’n ei gwneud hi’n hawdd cysylltu’n uniongyrchol ag adnoddau’r Llyfrgell.
  • Mynediad:
    • Gall academyddion a gweinyddwyr gysylltu ag iFindReading trwy eu modiwl Canvas neu'n uniongyrchol trwy dudalen we iFind Reading. 
  • Dewis eitemau i'w hychwanegu:
    • Yn gyntaf, gwiriwch gatalog ein llyfrgell, iFind, wrth gynnwys eitemau ar eich rhestr
    • Bydd hyn yn rhoi mynediad hawdd i fyfyrwyr i ddod o hyd i adnoddau neu gael mynediad iddynt
    • Gwiriwch hefyd am Fynediad Agored neu adnoddau am ddim
    • Os yw adnodd yn hanfodol i’ch cwrs ac nad oes gan y Llyfrgell ef, cofiwch ei ychwanegu at eich rhestr ddarllen er mwyn i’r Llyfrgell ymchwilio i bosibiliadau archebu neu gael mynediad i’r adnodd.
  • Hyfforddiant:
    • Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i greu neu gynnal eich rhestr, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd