Skip to Main Content

iFind Reading

This page is also available in English

Cyflwyniad i Annog Myfyrwyr i Ymgysylltu â Rhestrau Darllen

Mae iFind Reading yn defnyddio system rhestrau darllen Leganto. Isod ceir fideo byr pwrpasol a thaflen i’ch helpu wrth Annog Myfyrwyr i Ymgysylltu â'ch Rhestr Ddarllen. Sylwer bod y nodwedd ddadansoddi y cyfeirir ati yn y fideo a'r daflen wedi'i hanalluogi.  Byddwn yn cyhoeddi pan fydd y nodwedd hon ar waith.

Arfer Gorau

Arfer gorau

Trefnu eich Rhestr

Peidiwch â chael eich cyfyngu gan y templed yn iFind Reading. Trefnwch eich rhestr yn y ffordd sy'n gweithio orau i'ch modiwl. Ystyriwch gysylltu eich eitemau darllen â deilliannau dysgu, asesiadau neu strwythur modiwlau. Gallech hefyd ystyried ychwanegu adrannau newydd neu dagio eitemau i amlygu darllen wythnosol.

Mwy Na Llyfrau

Yn draddodiadol, mae rhestrau darllen wedi canolbwyntio ar lyfrau, ond gallwch chi ychwanegu unrhyw beth at eich rhestr. Oes fideos neu bodlediadau ar eich pwnc? A oes arbenigwr yn eich maes sy'n creu blogiau da?

Anodwch eich Rhestrau

Esboniwch pam mae pob eitem yn ymddangos ar eich rhestr a sut rydych chi'n disgwyl i'r myfyrwyr ymgysylltu â'r deunydd. Rhowch wybod i fyfyrwyr pa adnoddau sy'n dda ar gyfer meithrin dealltwriaeth sylfaenol o'r pwnc a'r rhai hynny sy'n mynd i fwy o ddyfnder.

Cysylltu â Deilliannau Dysgu ac Asesu

Mae myfyrwyr yn ymgysylltu â rhestrau darllen sy'n gysylltiedig â deilliannau dysgu ac asesu. Cyfeiriwch at eich rhestr ddarllen yn ystod darlithoedd a seminarau.  Ychwanegwch adnoddau newydd/sy'n ymwneud â'r pwnc pan fyddant ar gael. Oes modd i'ch rhestr fod yn rhyngweithiol? Fyddai'n briodol i fyfyrwyr awgrymu adnoddau i'w hychwanegu at y rhestr?