Rhaid cyflwyno pob cais i brynu llyfrau er mwyn cefnogi addysgu drwy iFind Reading.
Cam 1: Sicrhewch fod rhestr ddarllen ar gael ar gyfer y modiwl
- Os nad oes rhestr ddarllen ar gael ar gyfer y modiwl ar hyn o bryd, bydd angen creu un. · Mae cyfarwyddiadau ar gael yng Nghanllaw iFind Reading y Llyfrgell.
- Wrth drawsnewid i'r broses newydd hon, efallai gall eich Tîm Cymorth Academaidd eich cynorthwyo wrth greu eich rhestr ddarllen.
Cam 2: Gwiriwch os ydy'r llyfr eisoes ar gael
- Yn rhestr ddarllen y modiwl, cliciwch '+Add' a dewiswch 'Search the Library'.
- Chwiliwch am y llyfr:
- Os ydy'r llyfr ar gael, cliciwch arno a'i lusgo i'ch rhestr ddarllen. Nid oes angen cymryd unrhyw gamau gweithredu pellach.
- Os nad yw'r llyfr ar gael, ewch i'r cam nesaf.
Cam 3: Ychwanegu a thagio'r llyfr
- Ychwanegwch y llyfr drwy greu cofnod â llaw neu gan ddefnyddio'r teclyn 'Cite It'. · Mae cyfarwyddiadau ar gael yng Nghanllaw iFind Reading y Llyfrgell neu gwyliwch y fideo hwn
- Wrth ychwanegu llyfr nad yw'r llyfrgell eisoes yn meddu arno, bydd angen i chi dagio'r eitem:
- Tagiwch yr eitem fel eitem 'Essential - suggested for purchase' neu 'Recommended - suggested for purchase'. Gweler sut i wneud hyn ar y fideo byr hwn
- Dim ond staff sy'n medru gweld y tagiau hyn, nid yw myfyrwyr yn medru eu gweld.
Cam 4: Beth sy'n digwydd nesaf
- Bydd Llyfrgelloedd a Chasgliadau yn ceisio prynu fersiwn eLyfr o'r adnodd sydd wedi cael ei dagio.
- Bydd copi caled ond yn cael ei brynu os nad oes eLyfr ar gael neu os ydy'r eLyfr yn ddrud iawn.
- Bydd statws y tag yn cael ei ddiweddaru i 'Purchase in progress by library'.
- Pan fydd y llyfr ar gael:
- Byddwch chi'n derbyn hysbysiad dros e-bost.
- Bydd yr eitem ar eich rhestr ddarllen yn cael ei diweddaru gyda dolenni i'r adnodd neu'r daliadau.
Os na ellir prynu'r llyfr
- Bydd y Llyfrgell a Chasgliadau yn cysylltu â chi dros e-bost.
- Bydd yr e-bost yn cynnwys manylion cyswllt y Tîm Cymorth Academaidd, a fydd efallai'n medru eich helpu i archwilio opsiynau eraill.