Mae'r brifysgol yn defnyddio system o'r enw iFind Reading sy'n cysylltu â Canvas i'w gwneud hi'n hawdd i fyfyrwyr ddod o hyd i lyfrau. Mae hefyd yn arddangos yng nghatalog y modiwl a chynnal a chadw modiwlau.
Mae'r canllaw isod yn eich tywys trwy greu rhestr ddarllen. Mae gennym hefyd ganllaw llyfrgell manwl iFind Reading gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i ddefnyddio meddalwedd y Rhestr Ddarllen, yn ogystal â chanllawiau ar sut i wneud eich rhestrau darllen yn fwy cynhwysol, deniadol ac amrywiol.
Bydd staff Llyfrgelloedd a Chasgliadau yn eich cefnogi wrth greu a rheoli rhestrau, gwneud cynnwys yn hygyrch, ac yn dangos sut gall y ddadansoddeg sydd ar gael rhoi gwybodaeth i chi am ymgysylltiad y myfyrwyr â'ch rhestr. Mae staff y Llyfrgell yn gwirio eich rhestrau i nodi eitemau nad ydynt yn ein casgliad a all gael eu hystyried i'w hychwanegu i'n casgliadau dros dro neu’n barhaol.