Skip to Main Content

Canllaw Llyfrgell ar gyfer staff Academaidd

This page is also available in English

Y tu hwnt i'r llyfrau: Sut y gall eich llyfrgell gefnogi eich addysgu a'ch ymchwil 9fed & 16eg Mai 2025

word cloud representing library expertise Y tu hwnt i'r llyfrau: Sut y gall eich llyfrgell gefnogi eich addysgu a'ch ymchwil

9fed & 16eg Mai 2025
Sesiynau ar-lein 30 munud i staff ddatgloi potensial llawn cefnogaeth llyfrgell.
 

Dydd Gwener 9fed Mai     
10yb

Llyfrgelloedd a Chasgliadau Portffolio Addysgu Gwybodaeth a Llythrennedd Digidol 

Archwilio sut gall eich llyfrgellwyr pwnc penodol gyfrannu at lwyddiant eich myfyrwyr trwy wreiddio sgiliau academaidd a llythrennedd gwybodaeth hanfodol mewn rhaglenni addysgol. Yn ogystal, mae llyfrgellwyr yn darparu gwledd o diwtorialau, fideos a chanllawiau i fyfyrwyr a gallwch chi gyfeirio myfyrwyr atynt yn ystod goruchwyliaeth.

Ymunwch â ni i gael gwybodaeth am y cymorth cynhwysfawr rydym yn ei ddarparu ar draws pob disgyblaeth a byddwch yn gadael gan feddu ar gysylltiadau hanfodol a dolenni i adnoddau gwerthfawr i gefnogi eich myfyrwyr.    

Recordio
10.45yb

iFindReading

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n defnyddio iFind Reading fel eu meddalwedd i greu a chynnal eu holl restrau darllen. Mae rhestrau iFind Reading ar gael yn awtomatig yn VLE y Brifysgol (Canvas) a gellir eu gweld gan fyfyrwyr wrth iddyn nhw ymuno â’r cwrs. Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am:   

  • Sut i greu a chynnal eich rhestr ddarllen   
  • Arfer gorau i annog cyfranogiad gan fyfyrwyr   
  • Sut gall y llyfrgell ddefnyddio rhestrau darllen i nodi adnoddau sydd eu hangen ar gyfer casgliad y llyfrgell   
  • Sut i ddefnyddio’r opsiwn “cais digideiddio” i ofyn i benodau o lyfrau, detholiadau, ac erthyglau mewn cyfnodolion gael eu digideiddio pan nad ydynt ar gael yn electronig  
Recordio
11.30yb

Llyfrgell Glowyr De Cymru:  Arddangosfa o Gasgliadau

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn dal ystod o gasgliadau sy'n berthnasol i hanesion cymdeithasol a diwylliannol de Cymru ddiwydiannol. Mae'r casgliadau hyn yn cynnwys llyfrau, pamffledi, hanesion llafar, posteri, baneri a mapiau ymhlith eraill. Ymhlith y pynciau allweddol mae'r frwydr ddiwydiannol yng Nghymru, cyfranogiad Cymry yn Rhyfel Cartref Sbaen a gwladoli glo. Rydym hefyd yn cadw casgliadau personol nifer o ffigyrau de Cymru.

Recordio

Dydd Gwener 16eg Mai  

Dydd
Gwener 16eg Mai
   
10yb

Archwilio Offer wedi'u Pweru gan AI ar gyfer Chwiliadau Llenyddiaeth Craffach 

Darganfyddwch sut y gall AI drawsnewid eich proses ymchwil! Byddwn ni'n edrych ar offer AI arloesol a ddyluniwyd i wella chwiliadau llenyddiaeth - yn enwedig y rhai hynny sydd wedi'u hymgorffori yng nghronfeydd data’r llyfrgell.

Darganfyddwch ffyrdd o'ch helpu i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol o safon uchel yn gyflymach ac mewn ffordd fwy effeithlon. 

Recordio
10.30yb

Llwybrau Cyhoeddi Agored 2025

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe'n cefnogi staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig i greu allbynnau ymchwil mynediad agored yn unol â'r agenda Ymchwil Agored. 

Bydd ein diweddariad byr yn amlygu: 

  • Modelau Mynediad Agored (aur/gwyrdd/hybrid/deimwnt etc.) 
  • Eich opsiynau cyhoeddi Mynediad Agored a'r croestoriad â gofynion cyllidwyr, sefydliadol a REF 
  • Cytundebau cyhoeddi Prifysgol Abertawe 
  • Yr offer sy'n eich helpu i lywio eich dewisiadau cyhoeddi 

(SciFree, JISC Open Policy Finder, Effective Research Publishing Handbook ayb.) 

Recordio
11yb

Cyflwyniad i Gymorth a Hyfforddiant gan Tîm Data Ymchwil a Dyniaethau Digidol

Recordio
11.30yb

Yn eich Cysylltu â Chynnwys

Beth yw'r Gwasanaeth Digideiddio Llyfrgelloedd? Sut i wneud y gorau o'n hadnoddau ar gyfer eich addysgu trwy gefnogi mynediad ar-lein i’ch myfyrwyr at ddeunydd darllen cwrs sydd â galw mawr trwy Canvas pryd bynnag sy'n bosibl.

Sut i ddefnyddio Cyflenwad Dogfennau yn eich ymchwil eich hun a chynorthwyo myfyrwyr i gyrraedd y tu hwnt i'n casgliad ar gyfer eu hastudiaethau. Sut i archebu deunydd ar gyfer addysgu a sicrhau ei fod ar gael mewn pryd ar gyfer eich dosbarthiadau.

Recordio

Hyfforddiant wedi'i deilwra a staff newydd

Trefnu Hyfforddiant

Gall staff y llyfrgell drefnu sesiynau sydd wedi'u teilwra ar gyfer grwpiau penodol o staff - cysylltwch â'ch llyfrgellwyr.

Rydym yn cynnig sesiynau ar ddefnyddio cronfeydd data penodol y llyfrgell, dod o hyd i draethodau ymchwil, e-lyfrau, papurau newydd ar-lein, etc.

Sefydlu

Mae croeso i chi drefnu cyfarfod gyda'ch Llyfrgellwyr fel rhan o'ch hyfforddiant sefydlu.  Gallant eich helpu gydag ystod o bynciau, o'r cronfeydd data sydd ar gael yn eich pwnc i sut i ddefnyddio ein system rhestrau darllen.

Recordiadau Cymysgu a Chyfateb y Llyfrgell

Os gwynaethoch chi fethu ein sesiynau Mix and Match gallwch ddefnyddio'r dolenni ar waelod y panel hwn i weld recordiadau.