Skip to Main Content

Canllaw Llyfrgell ar gyfer staff Academaidd: Hafan

This guide is also available in English

Croeso i’n Canllaw Cymorth i Staff Academaidd

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn eich croesawu i'n Canllaw i Gymorth Academaidd. Ynddo, gwelwch chi wybodaeth ar gyfer gwasanaethau a chefnogaeth allweddol, ynghyd â manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae gan Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe Lyfrgellwyr Cyfadran a Llyfrgellwyr Pwnc cymwysedig gan ddarparu ymgysylltu rhwng staff y Llyfrgell a myfyrwyr a chymorth ar gyfer anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol. Rydyn ni’n arbenigwyr mewn ymgorffori gwybodaeth a llythrennedd digidol yn y cwricwlwm a chynnig hyfforddiant pwrpasol ac 1 i 1 i fyfyrwyr a staff. Gallwn ni eich arwain chi o ran creu a chynnal a chadw eich rhestrau darllen a helpu i sicrhau bod y Llyfrgell yn caffael adnoddau priodol er mwyn gwella dysgu eich myfyrwyr. 

Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd a Phwnc yw eich partneriaid wrth alluogi'ch myfyrwyr i gyflawni’r gorau y gallan nhw’n academaidd. Rydym hefyd yma i chi fel academydd, yn cefnogi'ch anghenion yn ystod eich llwybr gyrfa a'ch dilyniant ymchwil.

Hyfforddiant ar-lein

Bellach mae yna dîm newydd rheng flaen ar gyfer Gwasanaethau TG. Am gymorth gydag ymholiadau TG, cofnodwch alwad trwy'r porth ServiceNow os gwelwch yn dda.Royalty-free digital display photos free download | Pxfuel

Holi Llyfrgellydd

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence