Mae lleisiau sydd wedi’u hymyleiddio yn fwy tebygol o gael eu heithrio o gael eu cyhoeddi mewn ffynonellau academaidd traddodiadol. Gellir goresgyn hyn trwy ymgorffori deunyddiau anhestunol fel podlediadau, fideos a rhaglenni dogfen ochr yn ochr â phapurau a llyfrau academaidd traddodiadol. Yn aml mae fformatau cyfryngau gwahanol yn cynnwys cyfweliadau, trafodaethau, a thystiolaeth gan bob math o leisiau a safbwyntiau nad ydynt mor hygyrch mewn testunau traddodiadol. Yn aml mae'r cyfryngau hyn ar gael ar-lein, sy'n caniatáu mynediad at gynnwys o bob cwr o'r byd, gan ehangu safbwyntiau a dealltwriaeth myfyrwyr o faterion byd-eang.
Isod rhestrir rhai adnoddau fideo a sain sydd ar gael o'r llyfrgell.
Box of Broadcasts (BoB) - llyfrgell enfawr o dros 2 filiwn o raglenni teledu a radio a ffilmiau nodwedd sydd wedi'u darlledu gan y BBC, ITV, Ch4, Ch5 a dros 70 o sianeli eraill. Creu rhestri chwarae i wylio yn hwyrach neu olygu clipiau a'u hymgorffori yn eich cyflwyniadau.
Mae Kanopy yn wasanaeth ar-lein i ffrydio ffilmiau a rhaglenni dogfen. Mae'n cynnwys rhaglenni dogfen poblogaidd, enillwyr ac enwebeion Oscar, ffilmiau bytholwyrdd a ffilmiau annibynnol. Gall defnyddwyr ym Mhrifysgol Abertawe gael mynediad llawn at ddwsinau o ffilmiau a brynwyd gan y Llyfrgell at ddiben addysgu. Byddwch yn gweld y ffilmiau hyn ar ôl i chi fewngofnodi a gallwch chi eu cyrchu o unrhyw ddyfais, gan gynnwys cyfrifiadur a dyfeisiau IOS ac Android.