Skip to Main Content

Canllaw Llyfrgell ar gyfer staff Academaidd

This page is also available in English

iFind Reading

iFind Reading Logo

Mae'r brifysgol yn defnyddio system o'r enw iFind Reading sy'n cysylltu â Canvas i'w gwneud hi'n hawdd i fyfyrwyr ddod o hyd i lyfrau. Mae hefyd yn arddangos yng nghatalog y modiwl a chynnal a chadw modiwlau.

Mae'r canllaw isod yn eich tywys trwy greu rhestr ddarllen.

  • iFind Reading
    Last Updated Oct 14, 2024 1380 views this year

Gwella Ymgysylltu Addysgegol drwy Restrau Darllen

Lluniwch eich rhestr i gyd-fynd â chynllun y cwrs

Peidiwch â chael eich cyfyngu gan y templed yn iFind Reading. Trefnwch eich rhestr mewn ffordd sy'n gweithio i'ch modiwl.

Mae 'Alinio Adeiladol' (Constructive Alignment - Biggs and Tang, 2011) yn ddamcaniaeth addysgegol sy'n nodi y dylai gweithgareddau dysgu modiwl gael eu cynllunio i gyfrannu at ddeilliannau dysgu. Dangoswyd bod cydweddu adnoddau â chyrsiau yn gwella hyder myfyrwyr gan fod hyn yn cyfeirio myfyrwyr at adnoddau priodol ac amserol (Brown, 2014).

Gallech chi rannu'r rhestr yn ôl deilliannau dysgu, wythnosau neu dasgau asesu. Er enghraifft, os yw'ch modiwl wedi'i rannu'n themâu neu'n unedau, trefnwch y rhestr o gwmpas yr adrannau hyn i sicrhau bod y myfyrwyr yn gwybod beth i'w ddarllen a phryd.

Ystyriwch dagio deunyddiau darllen wythnosol. Defnyddiwch dagiau i nodi deunyddiau darllen wythnosol, gan ei gwneud hi'n hawdd i'r myfyrwyr nodi adnoddau perthnasol ar adegau gwahanol yn y cwrs. Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod eu darllen yn cyd-fynd â'r maes llafur.

Mwy Na Llyfrau

Yn draddodiadol, mae rhestrau darllen wedi canolbwyntio ar lyfrau, ond gallwch chi ychwanegu unrhyw beth at eich rhestr. Mae cynnwys rhestr ddarllen yn bwysig i fyfyrwyr. Gall amrywiaeth o fformatau cynnwys, er enghraifft adnoddau gwe, deunydd clyweledol, teitlau cyfnodolion a llenyddiaeth lwyd, i gyd gael eu hychwanegu at y rhestr ddarllen drwy hyperddoleni, gan gyfoethogi astudiaethau academaidd (Taylor, 2019).

Cyfnodolion ac erthyglau: Gall argymell cyfnodolion pwysig neu erthyglau penodol helpu i annog eich myfyrwyr i ddarllen y tu hwnt i'r gwerslyfr a dechrau cynnwys ymchwil academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid yn eu hasesiadau.

Podlediadau: Mae llawer o arbenigwyr pwnc yn creu podlediadau ar bynciau arbenigol a allai wella dealltwriaeth myfyrwyr.

Fideos: Gall fideos neu raglenni dogfen addysgol gynnig esboniadau gafaelgar neu arddangosiadau gweledol.

Blogiau: Gall blogiau cyfoes gan arbenigwyr neu erthyglau ar-lein ddarparu dealltwriaeth gyfoes o feysydd neu bynciau'n sy'n newid yn gyflym.

Adolygwch yn gyson

Mae cynnwys academaidd yn cael ei ddiweddaru drwy'r amser wrth i ymchwil, damcaniaethau a darganfyddiadau newydd ddod i'r amlwg. Felly, mae'n hollbwysig bod rhestrau darllen yn datblygu i gyd-fynd â'r newidiadau hyn i aros yn berthnasol a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr. Wrth i argraffiadau newydd o werslyfrau, erthyglau a deunyddiau ysgolheigaidd eraill ddod ar gael, ystyriwch adolygu a diweddaru eich rhestr i gynnwys yr adnoddau mwy diweddar hyn.

Mae ymchwil gan McGuinn et al. (2017) ym Mhrifysgol Huddersfield yn amlygu pwysigrwydd darparu adnoddau academaidd cyfredol. Canfu'r astudiaeth fod myfyrwyr yn rhoi pwyslais sylweddol ar werth cynnwys argraffiadau a deunyddiau cyfredol yn eu rhestrau darllen. Yn ogystal â sicrhau bod myfyrwyr yn dysgu'r cynnwys mwyaf cywir a diweddar, mae ymgorffori'r ymchwil neu'r cyhoeddiadau diweddaraf hefyd yn meithrin eu gallu i fynd i'r afael yn feirniadol â thrafodaethau a thueddiadau datblygol mewn maes.

Anodwch eich Rhestrau

Mae astudiaethau niferus wedi dangos bod rhestrau darllen anodedig yn boblogaidd gyda myfyrwyr ond eu bod hefyd yn helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth chwilio am wybodaeth, ei defnyddio a'i gwerthuso (Croft, 2020).  Yn ôl Taylor (2019), mae rhestrau anodedig yn cyflwyno'r pwnc i fyfyrwyr, yn tynnu eu sylw at bynciau perthnasol, yn amlinellu disgwyliadau cwrs ac yn annog darllen ehangach. Enghraifft fyddai eglurhad pam y dewiswyd adnodd ac arweiniad am sut i ddefnyddio'r adnodd (Taylor, 2019).

Yn hytrach na 'bwydo â llwy' mae rhestrau anodedig yn arwain at ddysgwyr annibynnol (McGuinn et al., 2018). Gallwch chi anodi eich rhestr ddarllen drwy fynd i'r opsiwn Notes for students yn eich adnodd ychwanegol yn iFindReading.

Rhowch Arweiniad: Ar gyfer pob eitem ar eich rhestr, esboniwch pam y mae'n bwysig a beth yw ei diben yn y modiwl. Nodwch a yw deunydd darllen yn sylfaenol neu ar lefel uwch ac esboniwch sut mae'n cysylltu ag amcanion y cwrs. Er enghraifft, nodwch fod gwerslyfr cyflwyniadol yn hanfodol ar gyfer gwybodaeth gefndirol, ond neilltuwch erthyglau mewn cyfnodolion ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i archwilio damcaniaethau mwy cymhleth.

Esboniwch ddisgwyliadau: Esboniwch yn fanwl sut rydych chi'n disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio pob adnodd. A ddylen nhw ganolbwyntio ar bennod neu thema benodol? A oes cwestiynau neu gysyniadau allweddol i'w hystyried wrth ddarllen? Bydd yr anodiad hwn yn helpu i gyfeirio ffocws myfyrwyr.

Ymgysylltwch â'r myfyrwyr

Gall myfyrwyr feithrin dealltwriaeth o gysyniadau, damcaniaethau a thrafodaethau allweddol yn y ddisgyblaeth drwy archwilio'r adnoddau a ddetholwyd ar gyfer eu rhestrau darllen. Mae ymchwilio i amrywiaeth eang o adnoddau yn meithrin meddylfryd beirniadol ac yn gwella dealltwriaeth drwy gyflwyno amrywiaeth o  safbwyntiau a damcaniaethau i fyfyrwyr. Gall academyddion fonitro ystadegau defnyddio rhestrau darllen fesul eitem a fesul myfyriwr gan ddefnyddio'r opsiwn Analytics yn eu rhestrau iFind Reading i fod yn ymwybodol o sut mae'r myfyrwyr yn ymgysylltu â'r cynnwys a ddetholwyd ar gyfer eu cwrs.

Gweithiwch gyda llyfrgellwyr

Mae rhestrau darllen sydd wedi'u llunio a'u hanodi'n dda yn adnoddau gwerthfawr ar gyfer dysgu a byddant yn gwella dysgu addysgegol. Gallant greu sylfaen i wella llythrennedd gwybodaeth a hyder myfyrwyr wrth ddefnyddio adnoddau a'u dethol yn feirniadol (Brown, 2014). Mae llyfrgellwyr yn tywys myfyrwyr drwy dirweddau gwybodaeth cymhleth, gan amlygu adnoddau dibynadwy ac addysgu technegau gwerthuso. Mae'r cymorth strwythuredig hwn yn meithrin sgiliau ymchwil annibynnol, gan alluogi myfyrwyr i ddethol adnoddau o safon, gan hyrwyddo ymgysylltu ehangach a meddylfryd beirniadol yn eu hastudiaethau academaidd.

Cyfeiriadau

Brown, S. (2014). Learning, teaching and assessment in higher education. Bloomsbury.

Briggs, J.B., a Tang, C.S. (2012). Teaching for quality learning at university: what the student does (4ydd argraffiad). McGraw-Hill.

Croft, D. (2020). Embedding constructive alignment of reading lists in course design. Journal of Librarianship and Information Science52(1), 67–74. https://doi.org/10.1177/0961000618804004

McGuinn, K., Stone, G., Sharman, A., a Davison, E. (2017). Student reading lists: evaluating the student experience at the University of Huddersfield. Electronic Library35(2), 322–332. https://doi.org/10.1108/EL-12-2015-0252

Microsoft Designer (2024). [Diverse  University Students]. https://designer.microsoft.com 

Siddall, G., a Rose, H. (2014). Reading lists – time for a reality check? An investigation into the use of reading lists as a pedagogical tool to support the development of information skills amongst Foundation Degree students. Library and Information Research38(118), 52–73. https://doi.org/10.29173/lirg605

Taylor, A. (2019). Engaging academic staff with reading lists: The Worcester story. Journal of Information Literacy13(2), 222-. https://doi.org/10.11645/13.2.2660