Mae helpu i ddatblygu set sgiliau llythrennedd gwybodaeth ein myfyrwyr yn un o rolau hanfodol y Tîm Cymorth Academaidd. Llythrennedd gwybodaeth yw gwybod pryd a pham y mae arnoch angen gwybodaeth, lle i ddod o hyd iddi a sut y dylid ei gwerthuso, ei defnyddio, a'i mynegi mewn ffordd foesol. Rydym yn credu po fwyaf y gall dysgu sgiliau llythrennedd gwybodaeth gael ei deilwra i fodiwl penodol a'i integreiddio i'w gwaith cwrs, mwyaf fydd nifer y myfyrwyr sy'n ystyried eu bod yn berthnasol i'w hanghenion.
Gwneud y cam cyntaf
Cysylltwch â'ch Tîm Cymorth Academaidd.i drafod Sefydlu'r Llyfrgell fel man cychwyn ar gyfer ymgysylltiad eich myfyrwyr â'r Llyfrgell a'i hadnoddau, yn ogystal â chael eu cyflwyno i'r cymorth y gall y tîm ei ddarparu. Dyma'r cam cyntaf o sefydlu sesiynau drwy gydol rhaglen. Gallwn helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau gwybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo drwy gydol eu gradd ac i gyflogaeth.
Yn cynnwys wyneb yn wyneb, yn rhithwir neu drwy ddosbarthiadau sydd wedi'u recordio ymlaen llaw
Mae modd i'ch Tîm Cymorth Academaidd helpu i wreiddio sgiliau drwy ddosbarth wyneb yn wyneb, trwy Zoom neu MS Teams, neu drwy ddarparu sesiwn sydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Siaradwch â'ch Tîm Cymorth Academaidd am sut y gallwch sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn cymorth gwerthfawr yn eu sgiliau gwybodaeth academaidd.
Rydym yn darparu sesiynau addysgu o fewn y cwricwlwm, ond rydym hefyd yn cynnig sesiynau galw heibio ac apwyntiadau un i un i fyfyrwyr ategu eu dysgu. Mae pynciau cymorth yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
Mae nifer gyfyngedig o apwyntiadau un i un ar gael i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau neu sydd ag ymholiadau penodol ynghylch chwilio am lenyddiaeth, dewis a gwerthuso adnoddau a chyfeirio. Cwblhewch y tiwtorialau Hanfodion Llyfrgell cyn i chi archebu apwyntiad. Gall myfyrwyr archebu un apwyntiad yr wythnos.
Mae Holwch y Llyfrgell (sgwrs fyw) ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer cwestiynau cyflym. Mae myfyrwyr yn gweld y ffordd hon o ymgysylltu a chyfathrebu yn ddefnyddiol iawn, ac mae gennym sgoriau boddhad uchel am ein hymatebion.