Skip to Main Content

Canllaw Llyfrgell ar gyfer staff Academaidd

This page is also available in English

Y 'canon derbyniol'

Efallai y bydd pryderon bod yr ymchwil a ddyfynnir amlaf ac felly a gaiff ei hystyried fel y 'gorau' mewn maes yn cael ei hysgrifennu'n bennaf gan ysgolheigion gwyn neu ysgolheigion gwrywaidd. Mae'r syniad bod amrywiaeth yn peryglu ansawdd yn ddim mwy na chodi sgwarnogod mewn gwirionedd. Mae'r persbectif hwn yn diystyru’r ffactorau systemig sy'n dylanwadu ar rwydweithiau ysgolheigaidd, hygrededd cyfnodolion, a mantais ieithyddol gynhenid siaradwyr Saesneg brodorol, a’r cyfan yn cyfrannu at  waith pwy sy’n cael ei ddyfynnu fwyaf. Mae'n hollbwysig cydnabod nad y gwaith a ddyfynnir fwyaf yw'r gwaith gorau o reidrwydd.

Fodd bynnag, yn draddodiadol mae addysg academyddion yn pwysleisio pwysigrwydd rhai gweithiau yn eu maes. Yn aml, caiff y gweithiau hyn eu hysgrifennu gan ysgolheigion gwyn neu ddynion. Gallai fod yn anodd i academyddion herio'r normau sefydledig hyn. Dylid cydnabod y gallai gwyro oddi wrth y canon a dderbynnir fod yn arbennig o anodd i academyddion ar ddechrau eu gyrfa.

Tocynistiaeth

Mae pryderon am gael eu cyhuddo o docynistiaeth wrth amrywio rhestrau darllen yn deillio o'r canfyddiad o ymdrech finimol neu gynhwysiant symbolaidd. Mae pobl yn ofni y gallai cynnwys ychydig o awduron neu weithiau amrywiol gael ei weld fel arwydd arwynebol neu weithgaredd "ticio bocs" yn hytrach nag ymdrech wirioneddol i groesawu a deall gwahanol safbwyntiau.

Mae mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn gofyn am ddull meddylgar, gyda bwriadau da o amrywio rhestrau darllen, un sy'n mynd y tu hwnt i arwyddion symbolaidd i gofleidio ac integreiddio lleisiau a safbwyntiau amrywiol i'r naratif addysgol mewn modd dilys. Byddwch yn agored am y gwaith rydych chi'n ei wneud ac eglurwch eich bod chi'n cymryd y cam cyntaf. Mae'n cymryd amser i amrywio rhestrau darllen yn drylwyr, a bydd y gwaith rydych chi'n ei wneud ar eich rhestr ddarllen yn effeithio ar eich dull o addysgu ac ymchwilio.

Iaith briodol

Mae pryderon am ddefnyddio iaith briodol wrth drafod amrywiaeth a dad-drefedigaethu addysg uwch yn deillio o ymwybyddiaeth bod iaith yn cael effaith ddofn ar sut mae unigolion a grwpiau'n cael eu gweld a'u trin. Gall iaith amhriodol barhau stereoteipiau, atgyfnerthu anghydbwysedd pŵer, ac achosi niwed. Mae sensitifrwydd wrth ddefnyddio iaith yn sicrhau bod trafodaethau am amrywiaeth a dad-drefedigaethu yn adeiladol a chefnogol. Mae pryderon y gallai camddefnyddio iaith yn anfwriadol arwain at gamddealltwriaeth, camddehongli, a gwrthdaro, yn enwedig mewn trafodaethau am bynciau sensitif fel amrywiaeth a dad-drefedigaethu.

Gellir cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod iaith briodol yn cael ei defnyddio. Yn gyntaf, gwnewch amser i ddysgu am derminoleg a byddwch yn barod i newid. Mae iaith yn esblygu, felly mae'n bwysig cadw'n gyfoes. Mae’n bwysig gwrando ar leisiau sydd wedi’u hymyleiddio a thrafod â grwpiau amrywiol hefyd. Dylid cymryd rhan mewn sgyrsiau i ddeall eu safbwyntiau a'u dewisiadau iaith yn well. Rhowch sylw i sut mae unigolion a grwpiau'n cyfeirio atyn nhw eu hunain a'u profiadau. Parchwch eu dewisiadau ar gyfer termau a labeli penodol. Ceisiwch adborth gan eraill, yn enwedig gan y rhai mewn cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio, am eich defnydd o iaith a byddwch yn agored i wneud addasiadau. Os byddwch chi’n gwneud camgymeriad, dylech gydnabod hynny, ymddiheuro a chywiro eich defnydd o iaith wrth symud ymlaen.

Gwaith caled yn emosiynol

Gall amrywio rhestrau darllen fod yn flinedig yn emosiynol ac yn waith caled i academyddion a myfyrwyr. Yn aml bydd ymgysylltu â safbwyntiau amrywiol yn gofyn am wynebu’ch rhagfarnau a’ch breintiau eich hun. Gall y broses hon fod yn anghyffyrddus ac yn anodd yn emosiynol gan ei bod yn herio credoau a thybiaethau a gaiff eu dal yn ddwfn. Mae llawer o weithiau sy'n dod â safbwyntiau amrywiol i'r amlwg yn trafod materion fel hiliaeth, rhywiaeth, gwladychiaeth, a mathau eraill o orthrwm hefyd. Gall amlygiad mynych i'r pynciau hyn beri gofid a blinder emosiynol. Ar ben hynny, i fyfyrwyr ac academyddion sy'n uniaethu â grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio, gall darllen am eu hanes eu hunain o ormes fod yn boenus ac yn sbardunol, gan arwain at flinder emosiynol.

Efallai y bydd angen i academyddion reoli dynameg ryngbersonol weithiau hefyd oherwydd gall trafod safbwyntiau amrywiol arwain at sgyrsiau sensitif ac anodd yn yr ystafell ddosbarth weithiau, gan olygu bod angen hwyluso gofalus i sicrhau deialog barchus a chynhyrchiol. Rhaid i academyddion a myfyrwyr gydbwyso amrywiaeth o safbwyntiau, a all arwain at anghytundeb a gwrthdaro y mae angen eu rheoli'n feddylgar. Yn aml mae addysgwyr yn ysgwyddo'r llafur emosiynol o gefnogi myfyrwyr trwy bynciau heriol a sensitif, a all fod yn flinderus dros amser.

Llwyth gwaith (a chydnabyddiaeth)

Gall adnabod a chael gafael ar adnoddau amrywiol gymryd llawer o amser. Mae'n gofyn am ymdrech i ddod o hyd i waith credadwy a pherthnasol, yn enwedig rhai nad ydynt ar gael yn eang neu’n rhai prif ffrwd o reidrwydd. Mae integreiddio testunau amrywiol yn llawn i'r cwricwlwm yn cynnwys adolygu meysydd llafur, cynllunio aseiniadau newydd, a sicrhau bod y deunydd newydd yn gadarn yn addysgegol ac yn cyd-fynd ag amcanion dysgu. Dylid cydnabod bod y gwaith hwn yn ychwanegol at lwyth gwaith 'normal' yr academyddion.