Skip to Main Content

Canllaw Llyfrgell ar gyfer staff Academaidd

This page is also available in English

Adnabod y Lleisiau a’r Naratifau Amlycaf

  •   Archwilio'r themâu, y safbwyntiau a’r awduron mwyaf blaenllaw yn eich rhestr ddarllen.
  •   Nodi pa leisiau (rhywedd, ethnigrwydd, cefndir daearyddol) sy'n cael eu cynrychioli amlaf.
  •   Penderfynu pa leisiau a naratifau sydd ar goll.

Amrywiaeth Awduron

  •   Ewch ati i gynnwys mwy o ddarlleniadau gan ysgolheigion sydd wedi’u hymyleiddio.
  •   Ystyriwch ddemograffeg yr awduron (rhywedd, ethnigrwydd, cefndir diwylliannol).
  •   Ceisiwch gael cydbwysedd mewn cynrychiolaeth ymhlith awduron eich deunyddiau darllen.
  •   Myfyriwch ar sut y gallai hunaniaeth yr awduron ddylanwadu ar eu safbwyntiau a pherthnasedd y safbwyntiau hyn i'ch cwrs.
  •   Dylech gynnwys gweithiau gan ysgolheigion sydd wedi’u hymyleiddio hyd yn oed pan nad yw'r pwnc yn ymwneud yn benodol â grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio.

Gwerthuso Cwmpas Daearyddol

  •  
  •   Adolygwch darddiad y testunau. Ydyn nhw'n dod o safbwyntiau Gorllewinol neu Ewro-ganolog yn bennaf?
  •   Chwiliwch am destunau gan ysgolheigion nad ydynt yn Orllewinwyr ac o gefndiroedd diwylliannol amrywiol.
  •   Ceisiwch sicrhau amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddi, gan gynnwys y rhai o ranbarthau nad ydynt yn dominyddu.
  •   Ystyriwch iaith y testun. A yw'n gyfieithiad, neu yn ei iaith wreiddiol?
  •   Dylech sicrhau bod cyfieithiadau yn gywir ac yn parchu’r cyd-destun gwreiddiol.

Persbectif a phrofiad

  •  
  •   Nodwch pwy sy'n adrodd y profiadau neu'r diwylliannau a drafodir yn y testunau.
  •   Rhowch flaenoriaeth i gynnwys testunau lle mae unigolion o'r grwpiau a drafodir yn rhoi eu safbwyntiau eu hunain. 
  •   Beth yw perthnasedd hunaniaeth yr awduron yn y cyd-destun hwn?

Gwerth Academaidd

  •  
  •   Ystyriwch ba fathau o ffynonellau sy'n cael eu hystyried yn fwyaf gwerthfawr yn academaidd.
  •   Heriwch unrhyw ragfarnau a allai ffafrio rhai mathau o ffynonellau dros eraill.
  •   Categoreiddiwch bwysigrwydd darlleniadau amrywiol (hanfodol, cefndir, ac ati).
  •   Dylech sicrhau nad yw darlleniadau amrywiol yn cael eu categoreiddio fel rhai atodol neu lai pwysig bob amser.