Ni ddylid ailadrodd rhifau tudalen ac eithrio lle ceir llythyren ar eu hôl. Er enghraifft, 255-9 ond 255A-259A.
Yn anaml iawn y mae cyfeiriadau at rifau tudalen yn cael eu cynnwys wrth ddyfynnu yn nhestun aseiniad neu draethawd wrth ddefnyddio arddull Vancouver. Fodd bynnag, yn achos dyfyniadau, neu os hoffech fod yn benodol ynglŷn â ffynhonnell gwybodaeth, dyfyniadau neu ystadegau, gellir rhoi rhifau tudalennau neu ffigurau fel isod.
The incidence of the syndrome was rare.[12(fig4)]
Os nad yw'r tudalennau wedi'u rhifo, cyfrifwch neu amcangyfrifwch nifer y tudalennau a nodwch y rhif mewn cromfachau sgwâr â'r gair 'tua' o'i flaen, e.e. [6 t.] neu [tua 3 t.]. Os yw'r cyfnodolyn ar-lein yn defnyddio system arall (e.e. rhif erthygl) defnyddiwch honno a rhowch nifer y tudalennau yn y pdf mewn cromfachau sgwâr.