Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein)

This page is also available in English

Cydnabod o fewn y testun

Dynodir rhif (Arabaidd) i bob cyfeiriad y tro cyntaf iddo ymddangos yn y testun. Y rhif a roddir fydd y dynodwr unigryw ar gyfer y cyfeiriad hwnnw felly, os caiff ei ddyfynnu eto yn y testun, bydd yr un rhif ganddo. Y cyfeiriad cyntaf a ddyfynnir fydd rhif 1 bob tro a dyrennir rhifau yn eu trefn.

Nid yw Citing Medicine yn nodi lle dylid gosod rhifau cyfeirio mewn perthynas ag atalnodi. Mae dewisiadau adrannol yn amrywio.

Dylech fod yn gyson bob amser, pa ddull bynnag rydych yn ei ddewis. Darllenwch gyfarwyddiadau'ch aseiniad yn ofalus, a gofynnwch i'ch darlithydd/goruchwyliwr os ydych yn ansicr.

Dyfynnu o un gwaith

Defnyddio cromfachau sgwâr:

Recent research[1] indicates that the number of duplicate papers being published is increasing.

Defnyddio uwchnod:

Recent research1 indicates that the number of duplicate papers being published is increasing.

* Gall yr Ysgol Meddygaeth hefyd ddefnyddio cromfachau crwm (1).

Dyfynnu o fwy nag un gwaith ar yr un pryd

Os hoffech ddyfynnu o sawl gwaith ar yr un pryd yn yr un frawddeg, bydd angen i chi gynnwys rhif y dyfyniad ar gyfer pob gwaith. Dylid defnyddio cysylltnod i gysylltu rhifau sy'n gynhwysol, a choma lle nad yw'r rhifau'n ddilynol.

Dyma enghraifft lle mae cyhoeddiadau 6, 7, 8, 9, 13 a 15 wedi cael eu dyfynnu yn yr un lle yn y testun.

Several studies[6-9,13,15] have examined the effect of congestion charging in urban areas.

Dyfynnu enw'r awdur yn eich testun

Gallwch ddefnyddio enw'r awdur yn eich testun, ond rhaid i chi nodi rhif y dyfyniad hefyd.

As emphasised by Watkins[2(p1)] carers of diabetes sufferers “require perseverance and an understanding of humanity”.

Dyfynnu enwau mwy nag un awdur yn eich testun

Os oes gan waith fwy nag un awdur, a hoffech ddyfynnu enwau awduron yn eich testun, defnyddiwch 'et al' ar ôl yr awdur cyntaf.

Simons et al[3(p4)] state that the principle of effective stress is “imperfectly known and understood by many practising engineers”.