Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein)

This page is also available in English

Awgrymiadau ar Gyfer Cyfeirio Delweddau

Dod o hyd i ddelweddau

Nodyn: Os ydych chi'n dyfynnu delwedd mae'n rhaid i chi wirio'r hawliau priodoli.

Mae yna lawer o safleoedd delwedd, sydd â delweddau o ansawdd, y mae llawer ohonynt yn defnyddio priodoli comin creadigol. Fe welwch lawer o enghreifftiau ar dudalen Canllaw Llyfrgell Hawlfraint Delweddau. Ar ochr dde'r Canllaw Llyfrgell Hawlfraint Delweddau fe welwch ddau flwch, un gyda'r pennawd: Safleoedd delwedd arbenigol ac un gyda'r pennawd: Safleoedd delwedd am ddim.

Labelu delweddau, siartiau, tablau ac ati.

Yn y testun:

Yn y testun, labelwch y ddelwedd/siart gan ddefnyddio'r gair Ffigur neu'r tabl gyda'r gair Tabl a dyranwch y rhifau wedi hynny, e.e. Tabl 1. 

Ychwanegwch atalnod-llawn ar ôl y rhif.
Rhowch deitl i'r ddelwedd/siart/tabl ac ati.
Gellir aralleirio'r ddelwedd/siart/teitl tabl o'r rhestr wreiddiol. 

Sylwer: Yn y rhestr o gyfeiriadau dylai'r teitl a'r tabl / rhif ffigwr fod yr un fath â'r ffynhonnell wreiddiol.

Yn y testun:

Rhif ffigur. Teitl. Rhif cyfeirnod

Ffigur 2. Golygfa oblique anterior dde o fosgito benywaidd.[1]

Defnyddio’ch llun, cerdd neu ffotograff eich hun.

Yn y testun, labelwch eich gwaith gan ddefnyddio’r gair Ffigur a chlustnodwch rifau yn eu trefn, e.e. Ffigur 1. Rhowch deitl i’r llun, y gerdd neu’r ffotograff. Peidiwch â rhoi rhif cyfeirio gan mai eich gwaith chi yw hwn.

Yn y testun:

Rhif ffigur. Teitl.

Ffigur 3. Ffotograff o erydiad twyni tywod.

Yr unig eithriad fyddai os yw'r ffotograff o ffynhonnell wybodaeth e.e. o waith rhywun arall fel cerdd, gwaith celf ac ati. Yna byddai angen i chi ddyrannu rhif cyfeirnod i'r teitl rydych chi wedi rhoi'r ddelwedd mewn testun, ac ychwanegu'r ffynhonnell wybodaeth wreiddiol i'r rhestr gyfeirio.

Creu tabl gan aralleirio gwybodaeth ysgrifenedig

Os ydych wedi creu tabl gan aralleirio gwybodaeth ysgrifenedig o bob erthygl, gellir cyfeirnodi yn yr un modd ag aralleirio o-fewn-testun. Rhowch rif y cyfeirnod ar gyfer pob erthygl rydych wedi’i haralleirio ar ôl pob darn gwahanol o wybodaeth.

Labelwch eich tabl eich hun â’r gair Tabl a rhowch rifau dilyniannol, e.e. Tabl 1.

Rhowch enw ystyrlon i’r tabl er mwyn disgrifio’r wybodaeth gyfun.

Yn y testun:

Rhif tabl. Teitl. Rhif cyfeirnod

Tabl 2. Ymarfer yn erbyn diet.[1,5]

Defnyddio nifer o ddelweddau er mwyn creu delwedd/collage newydd

Os ydych wedi addasu delwedd mewn unrhyw fodd, e.e. dod â nifer o ddelweddau at ei gilydd er mwyn creu collage, ychwanegwch [addasedig] at restr y cyfeirnodau ar ddiwedd pob cyfeirnod rydych wedi’i ddefnyddio er mwyn creu’r ddelwedd.

Rhestr Cyfeiriadau:

Enghraifft:

Hex N, Bartlett C, Wright D, Taylor M, Varley D. Estimating the current and future costs of Type 1 and Type 2 diabetes in the UK, including direct health costs and indirect societal and productivity costs. Diabetic Medicine. 2012; 29:855–62. Tabl 1, Estimated UK prevalence of diabetes 2010 ⁄ 2011 and 2035 ⁄ 2036; [dyfynnwyd 2013 Jul 22]; t.858. Ar gael o: http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1464-5491.2012.03698.x/pdf [addasedig]

Delweddau a thablau

Mae ffigurau'n cynnwys graffiau, delweddau, siartiau, mapiau, sgrinluniau, ffotograffau, darluniau ac ati. Mae tablau'n cynnwys testun a/neu rifau a drefnir mewn colofnau a rhesi.

Pan fyddwch yn cynnwys ffigur neu dabl, efallai y bydd angen i chi gyfeirio at yr eitem nifer o weithiau.

  • Yn y pennawd (uwchben tabl neu islaw ffigur).
  • Yn y testun.
  • Yn y rhestr gyfeiriadau.

Mewn dogfennau mwy, megis traethodau hir, mae angen i chi gynnwys rhestr ar wahân o ffigurau/rhestr o dablau.

Datganiad hawlfraint yn y testun

Os ydych yn cynnwys ffigurau a thablau, sicrhewch eich bod yn gweithio o fewn deddfwriaeth hawlfraint.  Mae rhagor o wybodaeth gan Brifysgol Abertawe ar gael ar ein tudalennau Hawlfraint: Defnyddio Delweddau.