Os yw dyddiad yr hawlfraint yn hysbys, defnyddiwch hwnnw a rhowch 'c' o flaen y dyddiad, e.e. c1955. Os gallwch amcangyfrif neu ddyfalu'r dyddiad, rhowch y flwyddyn ac wedyn '?' mewn cromfachau sgwâr ar ei ôl, e.e. [1999?]. Os nad oes modd dod o hyd i ddyddiad na'i amcangyfrif, defnyddiwch [dyddiad anhysbys]
Enghreifftiau:
Brookfield S. Understanding and facilitating adult learning: a comprehensive analysis of principles and effective practices. Buckingham: Gwasg y Brifysgol Agored; 1998.
Drake RL, Vogl W, Mitchell AW, Gray H. Gray's anatomy for students. 5ed arg. Philadelphia: Elsevier; 2024.
Culpeper N. Culpeper's astrological judgment of diseases. [Llundain?]: [cyhoeddwr anhysbys]; [dyddiad anhysbys].