Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein)

This page is also available in English

Cyhoeddiadau Swyddogol

Mae cyhoeddiad swyddogol yn un a gyhoeddwyd gan y Senedd, adran o’r llywodraeth (y DU neu dramor), llywodraeth wedi’i datganoli neu sefydliad rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd neu Sefydliad Iechyd y Byd. Nid oes awdur personol weithiau, felly tybir mai’r sefydliad yw’r awdur corfforaethol.

Cyhoeddiad swyddogol (argraffedig)

Awdur(on).  (Cyfenw, ac wedyn blaenlythyren neu flaenlythrennau)/ Sefydliad
Teitl y ddogfen.

Lle Cyhoeddi:

Cyhoeddwr;

Blwyddyn Cyhoeddi.

(Cyfres a rhif y Gyfres).

Enghraifft:

National Institute for Health and Care Excellence. Depression in adults: treatment and management. [Llundain]: NICE; 2022. (NICE guideline [NG222]). 

Cyhoeddiad swyddogol (ar-lein)

Awdur(on). (Cyfenw, ac wedyn blaenlythyren neu flaenlythrennau)/ Sefydliad
Teitl y ddogfen [Rhyngrwyd].
Lle Cyhoeddi:
Cyhoeddwr;
Blwyddyn Cyhoeddi.
[dyfynnwyd blwyddyn mis diwrnod].
(Cyfres a rhif y Gyfres).

Ar gael o:

Enghraifft:

National Institute for Health and Care Excellence. Depression in adults: treatment and management [Rhyngrwyd]. [Llundain]: NICE; 2022 [dyfynnwyd 2024 Maw 14]. (NICE guideline [NG222]). Ar gael o: https://www.nice.org.uk/guidance/ng222